top of page
  • Wavehill

Grant Rhwystrau Busnes Cymru – Arolwg o Fuddiolwyr

Mae Wavehill wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru a Busnes Cymru i gynnal adolygiad o'r grant Rhwystrau Busnes Cymru. Cyflwynwyd y grant Rhwystrau i Gychwyn ym mis Tachwedd 2020 fel rhan o’r Cynllun Cyflogadwyedd ac Adfer Sgiliau. Mae Wavehill wedi’i gontractio gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i ddeall pa mor effeithiol yw’r Grant Rhwystrau, pa mor dda y mae wedi’i ddarparu, a pha effaith y mae’r Grant wedi’i chael ar unigolion a’u busnesau.


Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir i wneud yr ymchwil. Bydd Wavehill yn prosesu’r wybodaeth bersonol honno ar ran Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r cyfweliadau, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru. Mae eich ymatebion yn gyfrinachol ac ni fyddant yn cael eu gweld gan unrhyw un heblaw ymchwilwyr Wavehill..


Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, Fel rhywun sydd wedi cael cymorth gan y grant i’ch helpu i ddechrau busnes, byddai eich adborth yn ein helpu i ddeall pa mor dda y mae’r Grant wedi perfformio ac mae’n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.


Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Oliver Allies

Rhif ffôn: 0330 1228 658


HYSBYSIAD PREIFATRWYDD


Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel “unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr”.


Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi eich manylion cyswllt i Wavehill fel unigolyn sydd wedi bod yn llwyddiannus ac wedi derbyn cymorth grant.


Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol a bydd Wavehill dim ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn ar gyfer ddibenion y gwerthusiad hwn.


Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sydd yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o'r data ymchwil.


Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Sail gyfreithlon prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw tasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru; hynny yw, arfer awdurdod swyddogol y Llywodraeth i gyflawni ei rôl a'i swyddogaethau craidd.


Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Fusnes Cymru/ a Llywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei allu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, efallai y bydd y wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio:

  • Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i Grant Rhwystrau Busnes Cymru.

  • Penderfynu a ddylai Grant Rhwystrau Busnes Cymru barhau yn y dyfodol.

  • Deall sut y gall Grant Rhwystrau Busnes Cymru dargedu a chefnogi unigolion sy'n wynebu rhwystrau i gychwyn busnes a'r farchnad gyflogaeth yn fwyaf effeithiol.

Pa mor ddiogel yw unrhyw ddata personol a gyflwynir?

Mae gwybodaeth bersonol a brosesir mewn perthynas â’r gwerthusiad hwn a ddarperir i Wavehill gan Lywodraeth Cymru bob amser yn cael ei storio mewn ffolder ‘storfa ddata diogel’ ar weinydd Wavehill. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Essentials'.


Mae Wavehill wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os oes amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol o dan y gyfraith i ni wneud hynny.


Bydd Wavehill yn defnyddio’r data i gynhyrchu adroddiad ar gyfer Busnes Cymru/ a Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.


Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi’i ddileu eisoes yn ystod dadansoddi data yn cael ei ddileu tri mis ar ôl diwedd y contract.


Eich Hawliau fel Unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r gwerthusiad hwn, mae gennych hawl i:

  • Cyrchu copi o'ch data eich hun;

  • Ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data (o dan rai amgylchiadau);

  • (Mewn rai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu' (o dan rai amgylchiadau); a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: https://ico.org.uk.


Further Information

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Cerris Dearsley-Hopkins


Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

bottom of page