Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad canol tymor o Goedwig Genedlaethol Cymru. Nod y gwerthusiad yn fras yw myfyrio ar gyllid, cymorth a mecanweithiau darparu Coedwigaeth Genedlaethol i lywio darpariaeth yn y dyfodol, rhoi mewnwelediad i safbwyntiau a phrofiadau'r Goedwig Genedlaethol ac ystyried sut y gellir asesu effaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol.
Fel rhan o hyn, bydd Wavehill yn cynnal cyfweliadau gydag unigolion sy'n gweithio mewn sefydliadau sy'n ymwneud â rheoli a chyflawni un neu fwy o'r mentrau Coedwig Genedlaethol canlynol: Fy Nghoeden, Ein Coedwig; Y Grant Buddsoddi mewn Coedwigoedd; a Coetiroedd Bach.
Bydd Wavehill dim ond yn defnyddio eich manylion cyswllt at ddibenion y prosiect ymchwil hwn.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir yn y cyfweliad.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Andy Parkinson
Cyfeiriad e-bost: andy.parkinson@wavehill.com
Rhif ffôn: 0330 1228658
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu eich manylion cyswllt (enw, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost) i Wavehill at ddibenion cynnal cyfweliad gyda chi. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion am un o'r rhesymau canlynol:
Mae eich sefydliad wedi partneru â Llywodraeth Cymru i hwyluso menter Fy Nghoeden, Ein Coedwig a oedd yn ceisio helpu i ddatblygu Coedwig Genedlaethol Cymru.
Rydych yn rheoli ac yn darparu cyllid grant ar ran Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i gefnogi Coedwig Genedlaethol Cymru.
Rydych wedi rheoli a darparu cyllid grant ar ran Llywodraeth Cymru, sydd bellach wedi'i gwblhau, i gefnogi Coedwig Genedlaethol Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan neu gael mwy o e-byst atgoffa am unrhyw gam o'r ymchwil, yna ymatebwch i’r e-bost gwahoddiad ac ni fyddwn yn cysylltu efo chi eto ar gyfer yr ymchwil hwn. Bydd Wavehill dim ond yn defnyddio'ch manylion cyswllt at ddibenion y gwerthusiad hwn.
Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol ychwanegol heblaw am eich delwedd os ydych yn cytuno i gyfweliad gael ei recordio'n fideo.
Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Os felly, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Os cofnodir y cyfweliad, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau yn cael eu dileu unwaith y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff y drafodaeth ei chofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu ar ôl y cyfweliad.
Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gellir cyrchu'r data. Bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan Wavehill ardystiad Cyber Essentials.
Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn adrodd hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol dan y gyfraith i ni wneud hynny.
Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu i gynhyrchu adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolion.
Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i dynnu yn ystod casglu data yn cael ei ddileu gan Wavehill o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a roddwch fel rhan o'r gwerthusiad hwn, mae gennych yr hawl:
I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
Er mwyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
(Mewn rhai amgylchiadau) I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o’ch data;
(Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu'; a
I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Enw: Aimee Marks
Cyfeiriad e-bost: Aimee.Marks@gov.wales
Rhif ffôn: 03000 259321
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, Ebost: DataProtectionOfficer@gov.cymru.
Int. Ref. (823-24)
Comments