top of page
  • Wavehill

Gwerthusiad o Fusnesau a Gefnogir gan ERDF – Cyfweliadau Astudiaethau Achos

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o gymorth ERDF ar gyfer Busnes yng Nghymru yn ystod cyfnod rhaglen 2014-2020. Nod y gwerthusiad hwn yw ymchwilio'r canlyniadau a gyflawnwyd gan y busnesau sydd wedi cael cymorth gan y Rhaglenni. At hynny, bydd y gwerthusiad yn galluogi asesiad a yw'r ymyriadau a ariennir gan y Rhaglenni yn cael effaith ac i ba raddau. Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau a gynhelir dros y ffôn neu alwad fideo Microsoft Teams. Pwrpas y cyfweliadau hyn yw cynhyrchu astudiaethau achos prosiect.


Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r cyfweliadau ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

​Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Lywodraeth Cymru.


Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Oliver Allies.

​Cyfeiriad e-bost:oliver.allies@wavehill.com

Rhif Ffôn: 01545 571711


HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth yma?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei defnyddio i'w adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.


Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi manylion cyswllt i Wavehill. Bydd y data hwn ond yn cynnwys eich enw, y sefydliad rydych yn gweithio iddo, eich rôl yn y sefydliad hwnnw a'ch cyfeiriad e-bost a/neu rif ffôn.


​Mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r manylion hyn oherwydd:

  • Rydych wedi chware rôl mewn cyflawni/rheoli neu fonitro prosiect a gymeradwywyd o dan Raglenni ERDF 2014-2020.

  • Mae eich busnes wedi cael cymorth drwy brosiect a ariennir gan ERDF. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Fuddiolwyr sy’n cyflawni prosiectau a gymeradwywyd o dan Raglenni ERDF 2014-2020 gasglu data manwl am bob menter (h.y. pob busnes sy’n elwa’n uniongyrchol o gymorth ERDF).

Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu unrhyw ddata personol ychwanegol. Ni fydd y cyfweliadau ffôn a galwadau fideo Teams Microsoft yn cael eu recordio'n electronig. Ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a gymerir yn ystod y cyfweliadau.


Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodyn atgoffa yna ymatebwch i'r e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd Wavehill yn defnyddio cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn.


Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.


Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.


​Mae cymryd rhan yn yr ymchwil yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i:

  • Deall ehangder y prosiectau sydd wedi'u hariannu.

  • Ymchwilio sut mae'r cymorth a ddarperir gan brosiectau a ariennir gan ERDF wedi helpu busnesau.

  • Datblygu argymhellion ar gyfer rhaglenni ariannu yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Essentials'.


​Mae gan Wavehill weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol dan y gyfraith i ni wneud hynny.


​Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu gan Wavehill dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o'r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.


Eich Hawliau fel unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r [prosiect] hwn, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • I ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw;

  • (Mewn rai amgylchiadau) Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data ;

  • (Mewn rai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu' ; a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan:www.ico.org.uk


Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:


​Enw: Laura Bloomfield

Cyfeiriad e-bost: Laura.Bloomfield@gov.wales

Rhif Ffôn: 0300062564

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru trwy:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.

bottom of page