top of page
  • Wavehill

Gwerthuso Prosiect HELIX:Ymgynghori â busnesau wedi eu cefnogi

Mae'r Ganolfan Diwydiant Bwyd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd (ZERO2FIVE) wedi comisiynu Wavehill, cwmni ymchwil cymdeithasol ac economaidd, i ymgymryd â gwerthusiad o Brosiect HELIX, gan gynnwys y ffordd y mae'r busnesau a gefnogir wedi elwa.


Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar-lein a chyfweliadau ffôn/fideo gyda'r busnesau a gefnogir i gasglu barn am ansawdd y gefnogaeth a ddarperir a'i effaith.


Y Ganolfan Diwydiant Bwyd yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolwg ac yn ddienw'r data crai cyn iddo gael ei rannu gyda'r rhain.


Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad â busnesau a gefnogir yn cael ei gynnwys mewn adroddiad a ddarperir i'r Ganolfan Diwydiant Bwyd a'i basio ganddynt i Lywodraeth Cymru sy'n ariannu'r prosiect. Dylech fod yn ymwybodol ei bod hi'n debygol y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar-lein. Mae eich cyfraniad yn gyfrinachol fodd bynnag ac ni fyddwch yn cael eich adnabod o fewn yr adroddiad hwnnw oni bai bod gennym eich caniatâd i wneud hynny.


Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio'r gwerthusiad a'r trafodaethau parhaus am y gefnogaeth a ddarperir i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru.


Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil yma yn Wavehill ydy: Endaf Griffiths

Rhif ffôn: 0330 1228658


HYSBYSIAD PREIFATRWYDD


Pa ddata personol sydd gennym ni a lle rydyn ni'n cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at adnabyddwr'.


Mae'r Ganolfan Diwydiant Bwyd wedi rhoi eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) i Wavehill at ddiben cynnal arolwg fel rhan o werthuso Prosiect HELIX. Mae'r Ganolfan Diwydiant Bwyd yn cadw eich manylion cyswllt fel busnes sydd wedi cael ei gefnogi gan y prosiect. Bydd Wavehill ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn at ddibenion cysylltu â chi i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.


Nid oes gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata personol ychwanegol fel rhan o'r arolwg/cyfweliad ac ni fydd unrhyw beth y byddwch yn sôn amdano yn cael ei gynnwys yn y nodiadau a gymerwyd yn ystod y cyfweliad.


Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan ar unrhyw adeg neu gael eich anfon i'ch atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.


Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedi hynny ei ddileu o'r data ymchwil.


Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer awdurdod Llywodraeth Cymru (fel cyllidwr y prosiect) i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.


Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth am eu gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft:

  • Mewn adroddiad gwerthuso yn asesu gweithrediad ac effeithiau cynlluniau sector bwyd Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghymru a'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru

  • Llywio darparu gwasanaethau neu raglenni sy'n ymwneud â'r diwydiant bwyd yn y dyfodol

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gellir cyrchu'r data. Bydd Wavehill ond yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil. Mae gan Wavehill ardystiad ‘cyber essentials’.


Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data dan amheuaeth. Os bydd toriad dan amheuaeth yn digwydd, bydd Wavehill yn adrodd hyn i'r Ganolfan Diwydiant Bwyd a fydd yn eich hysbysu ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol iddyn nhw wneud hynny.


Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth sydd wedi ei chasglu i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi gan y Ganolfan Diwydiant Bwyd a/neu Lywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i nodi cyfranogwyr unigol oni bai bod gennym eich caniatâd i wneud hynny.


Am ba hyd ydyn ni'n cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i ddileu yn ystod trawsgrifiad yn cael ei ddileu gan Wavehill dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn ddienw i'r Ganolfan Diwydiant Bwyd o'r data na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod.


Hawliau unigol

O dan reolau GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a roddwch fel rhan o werthuso Prosiect HELIX, mae gennych yr hawl:

  • I gael gafael ar gopi o'ch data eich hun;

  • I ni unioni anghywirdebau yn y data hwnnw;

  • I wrthwynebu prosesu neu gyfyngu (mewn rhai amgylchiadau);

  • Er mwyn i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a

  • I gyflwyno cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan www.ico.org.uk


Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych ragor o gwestiynau ynglŷn â sut bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan y Ganolfan Diwydiant Bwyd neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio GDPR y DU, cysylltwch â:


Enw: Mandy Reed

Cyfeiriad e-bost: areed@cardiffmet.ac.uk

Rhif ffôn: 02920 41 6306


bottom of page