top of page
  • Wavehill

Hysbysiad Preifatrwydd Prosiect Gwnaed â Gwlân – Arolwg efo busnesau sydd wedi cymryd rhan

Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth


Mae Wavehill wedi'u penodi gan Fenter Môn i gynnal gwerthusiad o'r prosiect Gwnaed â Gwlân. Tasg allweddol y gwerthusiad yw mesur gwerth, effaith ac effeithiolrwydd y prosiect.


Hoffem siarad â busnesau sydd wedi cymryd rhan a chael adborth ar sut maent yn teimlo mae'r prosiect Gwnaed â Gwlân wedi'i fynd ac unrhyw effaith mae'r prosiect wedi'i chael. Mae rheolwr prosiect Menter Môn wedi rhoi eich enw a manylion cyswllt i ni.


Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio. Cedwir unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn gyfrinachol. Ni fydd eich ymatebion cyfweliad yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain at eich adnabod. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y wybodaeth ond ni fydd hwn yn adnabod unrhyw unigolion.


Mae'n hefyd yn bwysig i nodi bod y tîm sy'n cynnal y gwerthusiad ddim yn gweithio i Fenter Môn nac unrhyw un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â chyflwyno neu ariannu'r prosiect hwn. Gwerthusiad annibynnol yw hwn.


Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth a ddarperir gennych a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r ymchwil hwn o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad.


Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y gwerthusiad, mae croeso i chi gysylltu â Sam Grunhut, sy'n arwain y gwerthusiad (huw.lloyd-williams@wavehill.com) neu Elen Parry, Arweinydd y Prosiect efo Menter Môn (elenparry@mentermon.com).


O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl i:

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan y prosiect Gwnaed â Gwlân

  • Ei gwneud yn ofynnol i staff Gwnaed â Gwlân gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data (o dan rai amgylchiadau).

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu'.

Cysylltwch ag Elen Parry os hoffech wneud unrhyw un o'r pethau hyn mewn perthynas â'r prosiect hwn.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â’ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheolydd annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy’r wefan www.ico.org.uk, neu ysgrifennu at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

Gwybodaeth bellach

Pam mae'r ymchwil hwn yn digwydd?

Mae Wavehill wedi’u comisiynu i werthuso’r prosiect er mwyn monitro effaith yr ymyriadau a gefnogir ac i sicrhau effeithiolrwydd. Bydd yn cynnwys dull gwerthuso parhaus, a fydd yn rhoi dolen adborth effeithiol i'r tîm cyflawni gan y rhanddeiliaid allweddol i fonitro cynnydd a nodi ffyrdd o wella yn ystod gweithredu'r prosiect. Mae tair agwedd i’r gwerthusiad:

Mae gan y tîm Gwnaed â Gwlân ddiddordeb yn effeithiau’r prosiect gan gynnwys yr unigolion / sefydliadau sydd wedi cymryd rhan gan gynnwys adborth ar eu profiad a’u barn ar y prosiect yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â mewnwelediad i ble y gellid gwella pethau.

Pa fath o wybodaeth a gesglir trwy'r cyfweliad?

Mae'r cyfweliad yn canolbwyntio ar farn am sut mae Gwnaed â Gwlân wedi'i gyflwyno ac unrhyw ganlyniadau o'r prosiect.

Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. eu henw, eu cyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.

Am ba mor hir y bydd data personol yn cael ei gadw?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl diwedd y contract.


Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gasglwyd drwy'r arolwg?

Mae gwerthusiad y prosiect Gwnaed â Gwlân yn galluogi Menter Môn i ddeall a yw’r prosiect yn gweithio’n effeithiol. Fe'i defnyddir felly i gefnogi gweithgareddau o fewn tasg gyhoeddus yr awdurdodau lleol. Hynny yw, rôl a swyddogaethau craidd yr awdurdodau lleol. Er enghraifft, efallai y bydd y wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio:

• Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i'r Prosiect Gwnaed â Gwlân

• Penderfynu a ddylai prosiectau fel Gwnaed â Gwlân barhau yn y dyfodol

• Deall y dulliau gorau o greu ffyrdd newydd o weithio, partneriaethau newydd, a modelau datblygu newydd.

Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal gan Wavehill ar ran Menter Môn. Mae eich cyfranogiad unigol yn yr ymchwil yn wirfoddol.

Beth yw pwrpas prosesu eich ymatebion i'r cyfweliad?

Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Bydd y data’n cael ei ddadansoddi i alluogi Menter Môn i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y Cynllun Gwnaed â Gwlân. Bydd hyn yn helpu Menter Môn i benderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i’r Prosiect Gwnaed â Gwlân ac i sefydlu os yw’r prosiect hwn yn gallu cyflawni mewnwelediadau newydd i sut y gellid gwella datblygiad gwyrdd. Ni chaiff y data ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.

Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r cyfweliad?

Bydd gan Wavehill gopi o'r data personol i'w alluogi i gynnal y cyfweliad.


Bydd ymatebion i'r cyfweliadau yn cael eu dadansoddi gan ymchwilwyr yn Wavehill i gynhyrchu adroddiad ar gyfer Menter Môn. Ni fydd yr adroddiad hwn yn nodi unrhyw unigolion sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil ac ni fydd y nodiadau’n cael eu rhannu â Menter Môn, nac unrhyw un arall y tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect. Ni fydd Menter Môn yn cael mynediad at ddata personol a gesglir drwy’r cyfweliadau.

bottom of page