top of page
Writer's pictureWavehill

The National Theatre of Wales (NTW) Holiadur

Dyma sut rydym yn cadw ac yn prosesu gwybodaeth amdanoch​

Bydd y data a ddarperir gennych yn cael ie ddefnyddio at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig.

​Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion yn yr arolwg yn cael eu gwneud yn gyhoeddus mewn a allai arwain at eich nabod chi neu eich sefydliad. Bydd Wavehill yn llunio adroddiad sy’n seiliedig ar y data ond ni fydd modd adnabod unrhyw unigolion ar sail yr adroddiad.

Bydd Wavehill yn dileu’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu, a’r holl ddata personol sy’n ymwneud a’r ymchwil hon, o fewn 6 mis i derfyn y gwerthusiad.

Os hoffech wybodaeth bellach am yr astudiaeth, cysylltwch ag Endaf Griffiths ar 01545 571711. Cyswllt NTW ar gyfer yr ymchwil hon yw Michelle Cawardine ar 029 2035 3071.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl: ​

· ​I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan NTW.

· I’w gwneud yn ofynnol i NTW gywiro unrhyw gamgymeriadau sydd yn y data.

· I wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) neu gyfyngu ar brosesu

· I’ch data gael ei ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau).

Cysylltwch ag Michelle Carwardine-Palmer os ydych yn dymuno gwneud unrhyw un o’r pethau hyn mewn perthynas â’r prosiect hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, neu drwy’r wefan www.ico.gov.uk, neu ysgrifennwch at Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

Gwybodaeth Bellach

​1. Pam mae’r Gwaith ymchwil hwn yn digwydd?

​Comisiynwyd Wavehill i gynnal ymchwil ar ran NTW, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, i sut mae NTW yn casglu ac yn dal tystiolaeth i ddangos ei gyflawniadau. Bydd yr ymchwil hwn yn cyfrannu at adroddiad sy'n cael ei gynhyrchu ar effaith NTW ers iddo gael ei sefydlu yn 2008. Mae'r holiadur ar-lein hwn wedi'i gynllunio i archwilio a chasglu'r farn ar NTW ac a yw NTW wedi newid canfyddiadau o theatr yng Nghymru.

2. Pa fath o wybodaeth a gesglir drwy gyfrwng yr arolwg?

​ Mae'r arolwg yn canolbwyntio ar eich profiad a'ch barn o NTW.

3. Beth yw data personnol?

​Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person, nail ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd a gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. enw person, ei gyfeiriad, neu fanylion sy’n benodol am y person hwnnw.

Mae Wavehill yn defnyddio data personol a ddarparwyd gan NTW i hwyluso’r arolwg hwn, er enghraifft, eich enw a’ch manylion cyswllt.

4. Am ba hyd y cedwir data personol?

​Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y cytundeb, ond bydd yn ei ddileu 6 mis ar ôl i’r cytundeb ddod i ben a fydd diwedd Mis Rhagfyr 2018.

5. Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu data a gasglwyd yn yr arolwg?

​Gallai’r wybodaeth a gesglir gael ei defnyddio:

  • Gwella'r ffordd y mae NTW yn casglu ac yn dal ei dystiolaeth i ddangos ei gyflawniadau a'i effaith.

Mae’r gwerthusiad yn cael ei gynnal gan Wavehill ar ran NTW a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae eich cyfranogiad unigol yn yr ymchwil yn wirfoddol.

6. Beth yw pwrpas prosesu eich atebion i’r arolwg?

Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Caiff y data ei ddadansoddi i alluogi NTW i nodi 'cadernid' y data a'r dystiolaeth y mae'n ei chadw. Bydd hyn yn helpu NTW i benderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau. Ni fydd y data yn cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu ddibenion marchnata, ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i gymryd penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn na’ch sefydliad.

7. ​ Pwy sydd â mynediad at y data personol drwy’r arolwg?

Bydd gan Wavehill gopi o’r data personol i’w alluogi i gynnal yr arolwg ac i baratoi’r set ddata terfynol. Bydd yn dileu data personol o fewn 6 mis i’r prosiect ddod i ben.

Comments


bottom of page