top of page
  • Writer's pictureWavehill

Rhaglen Datblygu Wledig Gwerthusiad o'r Sector Bwyd

Rhaglen Datblygu Wledig Gwerthusiad o'r Sector Bwyd - Cyfweliadau gyda'r tîm cyflawni a rhanddeiliaid allweddol

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill, ymgynghoriaeth ymchwil gymdeithasol ac economaidd, i gynnal gwerthusiad terfynol o gynlluniau sector bwyd y Rhaglen Datblygu Wledig (RDP). Nod y gwerthusiad hwn yw cwblhau asesiad annibynnol o weithrediad ac effaith cynllun y sector bwyd, i nodi gwersi a ddysgwyd a darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau tebyg yn y dyfodol.


Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau â staff rheoli a darparu a rhanddeiliaid allweddol eraill i gael dealltwriaeth o'ch barn a'ch profiad o'r cynlluniau bwyd a ddarperir drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r arolwg ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.


Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw:

Ioan Teifi

E-bost: ioan.teifi@wavehill.com

Rhif ffôn: 02921 202 826

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei defnyddio i adnabod nhw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi eich manylion cyswllt (enw, rôl swydd, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) i Wavehill at ddiben cynnal cyfweliadau fel rhan o werthusiad sector bwyd y Cynllun Datblygu Gwledig. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion cyswllt oherwydd eich cysylltiad â’r cynllun a Rhaglen Datblygu Wledig ehangach Llywodraeth Cymru-UE 2014-2020. Dim ond at ddibenion cysylltu â chi i gymryd rhan mewn cyfweliad y bydd Wavehill yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych eisiau cymryd rhan ar unrhyw adeg neu dderbyn mwy o e-byst atgoffa yna ymatebwch i'r e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Nid yw'n ofynnol i chi ddarparu unrhyw ddata personol ychwanegol fel rhan o'r cyfweliad ac ni fydd unrhyw fanylion personol rydych yn darparu yn cael ei gynnwys yn y nodiadau a gymerir yn ystod y cyfweliad.

Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio:

  • Mewn adroddiad gwerthuso sy'n asesu gweithrediad ac effeithiau cynlluniau sector bwyd y Cynllun Datblygu Gwledig yng Nghymru a'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru

  • Cyfrannu at ddarparu gwasanaethau neu raglenni sy'n ymwneud â'r diwydiant bwyd yn y dyfodol

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Esentials'.

Mae gan Wavehill weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os oes amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol o dan y gyfraith i ni wneud hynny.

Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi’i ddileu eisoes yn ystod y trawsgrifiad yn cael ei ddileu gan Wavehill 3 mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o'r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.

Eich Hawliau fel Unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o werthusiad sector bwyd y Cynllun Datblygu Gwledig, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • I ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw;

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data (o dan rai amgylchiadau);

  • (Mewn rai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu'; a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt am Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk


Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio GDPR y DU, cysylltwch â:


Enw: Angela Endicott

Rhif ffôn: 0300 0251492

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,

E-bost:DataProtectionOfficer@gov.wales.


bottom of page