top of page

Adolygiad o Ddangosyddion Perfformiad y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal Adolygiad o Ddangosyddion Perfformiad y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESI) yng Nghymru.

Nod yr adolygiad hwn yw ystyried pam nad yw rhai o’r dangosyddion allbynnau lefel-rhaglen ar y trywydd iawn i gyrraedd eu targedau rhagolygol yn unol â’r amserlen. 

Fel rhan o’r adolygiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau ffôn neu alwadau fideo Microsoft Teams gyda rhanddeiliaid sydd ynghlwm â rheoli, darparu a monitro’r rhaglenni. Bydd y cyfweliadau yn cofnodi barn ymatebwyr ar addasrwydd strategol y dangosyddion presennol er mwyn darganfod eu perthnasedd parhaus a hefyd er mwyn cefnogi a llywio gwaith cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil hwn. Bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a gesglir drwy’r cyfweliadau rhanddeiliad, a bydd yn gwneud y data amrwd yn ddienw, cyn ei rannu gyda Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei gynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn hollol wirfoddol. Fodd bynnag mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu llywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y person cyswllt yn Wavehill ar gyfer yr ymchwil hwn yw Stuart Merali-Younger

Cyfeiriad e-bost: Stuart.merali-younger@wavehill.com

Rhif ffôn: 07980624112

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol ydyn ni’n eu cadw ac o le ydym yn cael gafael ar y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu manylion cyswllt rhaddeiliaid i Wavehill, sef gwybodaeth yr ydych chi wedi ei roi i WEFO yn y gorffennol fel rhan o’ch cytundeb fel rhanddeiliad wrth ddarparu/reoli neu fonitro gweithgareddau parhaus a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd. Bydd y data yn cynnwys eich enw, y sefydliad yr ydych yn gweithio iddo, eich rôl yn y sefydliad hwnnw a manylion cyswllt eich sefydliad megis cyfeiriad e-bost a/neu rif ffôn, yn unig.

Fel rhan o’r ymchwil hwn, nid oes angen casglu data personol ychwanegol oddi wrthych chi. Ni chaiff unrhyw ddata personol yr ydych chi’n sôn amdano yn ystod y cyfweliad ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu’n dilyn y cyfweliadau.

Bydd Wavehill yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost a’r rhif ffôn at ddibenion yr adolygiad hwn yn unig. Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan na derbyn negeseuon atgoffa, atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Os ydych chi’n gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen i’r swyddog perthnasol yn unig, ac yna ei ddileu o’r data ymchwil.

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, ymarfer ein hawdurdod swyddogol i gynnal cyfrifoldeb a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth fel sail gweithredu am ei allu i ddarparu blaenoriaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, efallai y defnyddir y wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hwn i:

  • Ddeall y rhesymau pam nad yw rhai prosiectau a rhaglenni yn mynd i gwrdd â’u targedau rhagolygol

  • Ymchwilio i’r effaith mae’r clo Covid-19 wedi ei gael ar brosiectau a rhaglenni

  • Llywio rhagamcanu targedau’r dyfodol, gan gynnwys y prosesau a’r data a ddefnyddir

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Cedwir yr wybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill ar weinydd diogel ar bob adeg. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect sy’n medru cael mynediad at y data. Bydd Wavehill yn defnyddio’r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae Wavehill wedi ei ardystio gan Cyber Essentials.  

Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio gydag unrhyw sefyllfa lle amheuir bod diogelwch data wedi ei danseilio. Os amheuir bod diogelwch data wedi ei danseilio, bydd Wavehill yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle bod gofyn cyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy’r ymchwil hwn yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy yn cael ei dileu. Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth a allai gael ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba hyd fyddwn ni’n cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol dros gyfnod y cytundeb, a bydd unrhyw ddata personol nad sydd wedi ei ddileu yn ystod y cam anonymeiddio yn cael ei ddileu gan Wavehill dri mis wedi diwedd y cytundeb. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o’r set ddata i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu na fydd y set ddata yn cynnwys gwybodaeth a allai arwain at eich adnabod chi. Yn benodol, bydd eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eraill (os ydych yn eu darparu) yn cael eu dileu o’r set ddata hon.

Hawliau unigolion

O dan GDPR y DU, mae gennych chi’r hawliau canlynol mewn cysylltiad â’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu fel rhan o’r gwerthusiad. Mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o’ch data chi;

  • I fynnu ein bod ni’n cywiro camgymeriadau yn y data hwnnw;

  • I (o dan rhai amgylchiadau) wrthwynebu i neu gyfyngu ar y prosesu;

  • I fynnu (o dan rhai amgylchiadau) bod eich data yn cael ei ‘ddileu’; ac

  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am sut caiff y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech chi arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, cysylltwch â:

Enw: Charlotte Eales

Cyfeiriad e-bost: charlotte.eales@gov.wales

Rhif ffôn: 0300 025 1491

 

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.

 

Review of the European Structural Investment Funds Programmes Performance Indicators in Wales

The Welsh Government has commissioned Wavehill to undertake a Review of the European Structural Investment Funds (ESI) Programmes Performance Indicators in Wales.

The aim of this review is to consider why some of the programme level output indicators may not be on schedule to reach their forecasted targets. 

As part of this review Wavehill will gather information through telephone or Microsoft Teams video call interviews with stakeholders who are involved in the management, delivery and monitoring of the programmes. The interviews will capture views about the strategic suitability of the current indicators to determine their ongoing relevance and to also support and inform future planning.

The Welsh Government is the data controller for the research. Wavehill will delete any personal data collected via the stakeholder interviews, and anonymise the raw data, before it is shared with the Welsh Government.

The information collected during the project will be included in a report published on the Welsh Government website.

Your participation in this research is completely voluntary. However your views and experiences are important in order to help inform Welsh Government policies.

The contact for this research at Wavehill is Stuart Merali-Younger

E-mail address: Stuart.merali-younger@wavehill.com

Telephone number: 07980624112

PRIVACY NOTICE

What personal data do we hold and where do we get this information?

Personal data is defined under the UK General Data Protection Regulation (UK GDPR) as ‘any information relating to an identifiable person who can be directly or indirectly identified by reference to an identifier’.

Welsh Government have provided Wavehill with stakeholder contact details which you have previously provided to WEFO as part of your agreement as a stakeholder in delivering/managing or monitoring ongoing activities which are funded by the European Commission. This data will only include your name, the organisation you work for, your role in that organisation and your organisational contact details such as email address and/or telephone number.

This research does not require the collection of additional personal data from you. Any personal data that you mention during the interview will not be included in written notes prepared during or following the interviews.

Wavehill will only use email address and telephone number for the purposes of this review. Your participation is voluntary and if you do not wish to take part or be sent reminders then please reply to the invitation email and your details will be removed.

If you raise a query or complaint and provide personal data requesting a response, the researcher will forward the request only to the relevant official and subsequently delete it from the research data.

 

What is the lawful basis for using your data?

 

The lawful basis for processing information in this data collection exercise is our public task; that is, exercising our official authority to undertake the core role and functions of the Welsh Government.

Participation is completely voluntary. Research studies such as this are important for the Welsh Government to collect information and actionable evidence about its ability to deliver government priorities. The information collected in this research, for example, might be used to:

  • Understand the reasons why some projects and programmes are not going to meet their forecast targets

  • Investigate the impact that the Covid-19 lockdown has had on projects and programmes

  • Inform future target forecasting including the processes and data used

 

How secure is your personal data?

Personal information provided to Wavehill is always stored on a secure server. The data can only be accessed by a limited number of researchers working on this project. Wavehill will only use this data for research purposes. Wavehill has cyber essentials certification.  

Wavehill has procedures to deal with any suspected data security breaches. If a suspected breach occurs, Wavehill will report this to the Welsh Government who will notify you and any applicable regulator where we are legally required to do so.

All data gathered through this research will be reported in an anonymised format. It will not contain your contact details and any identifiable information will be removed. Wavehill will use the information gathered to produce a report that will be published on the Welsh Government website. This report will not include any information that could be used to identify individual participants.

How long do we keep your personal data?

 

Wavehill will hold personal data during the contract period, and any personal data not already removed during the anonymization stage of will be deleted by Wavehill three months after the end of the contract. This includes your contact details.

Wavehill will provide Welsh Government with an anonymised version of the dataset. This means the dataset will not include information that could identify you. In particular, your name, address and other contact details (where provided) will be deleted from this dataset.

Individual rights

Under UK GDPR, you have the following rights in relation to the personal information you provide as part of this evaluation, you have the right:

  • To access a copy of your own data;

  • For us to rectify inaccuracies in that data;

  • To object to or restrict processing (in certain circumstances);

  • For your data to be ‘erased’ (in certain circumstances); and

  • To lodge a complaint with the Information Commissioner’s Office (ICO) who is our independent regulator for data protection.

 

The contact details for the Information Commissioner’s Office are: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Phone: 01625 545 745 or 0303 123 1113. Website: www.ico.gov.uk

 

Further Information

If you have any further questions about how the data provided as part of this study will be used by the Welsh Government or wish to exercise your rights using the UK General Data Protection Regulation, please contact:

Name: Charlotte Eales

E-mail address: charlotte.eales@gov.wales

Telephone number: 0300 025 1491

The Welsh Government’s Data Protection Officer can be contacted at:

Welsh Government, Cathays Park, Cardiff, CF10 3NQ, Email: DataProtectionOfficer@gov.wales.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

bottom of page