top of page

Gwerthusiad Prosiect Live: Holiadur ar-lein

Mae Coleg Prifysgol Cork (UCC) wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o'r rhaglen Prosiect Live. Mae LIVE yn gydweithrediad rhwng sefydliadau cymunedol, adrannau academaidd a llywodraethau lleol yng Nghymru ac Iwerddon. Nod LIVE yw galluogi cymunedau arfordirol (Llŷn ac Iveragh) i wneud y gorau o’u hasedau naturiol a diwylliannol, er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer datblygu twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig yn y cyfnodau tu allan i'r cyfnodau sy’n boblogaidd gan dwristiaid yn draddodiadol.

Fel rhan o'r ymchwil hwn, cynhelir holiadur ar-lein gyda'r rhai sy'n cymryd rhan yn yr rhaglen a rhanddeiliaid.

UCC yw rheolwr data'r ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir yn ystod yr holiadur, cyn eu rannu â UCC.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad ar gyfer UCC a fydd o bosib yn cael eu cyhoeddi ar eu gwefan unwaith y bydd yr ymchwil wedi'i chwblhau.

Mae eich cyfraniad i’r ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio gwerthusiad UCC o'r rhaglen hon. Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill  yw  Dyfan Powel: Cyfeiriad e-bost: Dyfan.powel@wavehill.com

 

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol ydym ni’n cadw, a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson sy’n galluogi ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'. Mae eich manylion cyswllt yn cael eu cadw gan y partneriaid cyflenwi ar  gyfer Prosiect Live  oherwydd eich bod yn cymryd rhan yn y rhaglen neu wedi dangos diddordeb fel rhanddeiliad. Ni fydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i Wavehill.

Nid yw'n ofynnol darparu unrhyw ddata personol ychwanegol yn ystod yr holiadur. Os byddwch yn dewis darparu unrhyw  ddata personol arall fel rhan o'r ymchwil byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, neu gysylltu eich hunaniaeth â nhw. Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o'r data ymchwil.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan yna ymatebwch i'r e-bost gwahoddiad ac ni fyddwn yn cysylltu â chi mwyach ar gyfer yr ymchwil hwn.

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?

 

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, yn unol a’n hawdurdod swyddogol, i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd UCC. 

Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni prosiectau a gwariant cyhoeddus. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i wella'r modd y caiff Prosiect Live ei rhedeg yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn all gael gafael ar y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ardystiad ‘cyber essentials’.

Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion tybiedig o dorri rheolau diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri'r rheolau, bydd Wavehill yn rhoi gwybod i UCC a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a fydd o bosib yn cael ei gyhoeddi ar wefan UCC. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i nodi cyfranogwyr unigol.

Am ba hyd ydyn ni'n cadw eich data personol?

Mae’r holiadur yn ddienw, ond bydd Wavehill yn cadw data personol sydd yn cael ei rhannu drwy gwblhau’r holiadur yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i ddileu wrth gasglu data yn cael ei ddileu gan Wavehill dri mis  ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill  yn rhoi fersiwn ddienw o'r data i UCC na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod.

Hawliau unigol

O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o'r ymchwil hon, mae gennych yr hawl:

  • I gael gafael ar gopi o'ch data eich hun;

  • I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);

  • I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); A

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy'n rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

 

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.  Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yr Iwerddon ar +353-1-639 5689 ebost: info@oic.ie Cyfeiriad: 6 Earlsfort Terrace, Dublin 2, D02 W773. Neu Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU  ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy'r wefan www.ico.gov.uk  , neu ysgrifennu at: Y Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

Rhagor o Wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:

Lucy Taylor

Lucy.taylor@ucc.ie

Lucy Taylor

LIVE Project

School of BEES, University College Cork

Distillery Fields,

North Mall

Cork

 

Live Project Evaluation: Online Survey

University College Cork (UCC) has commissioned Wavehill to undertake an evaluation of the Live Project. LIVE is a collaboration between Welsh and Irish community organisations, academic departments and local governments. LIVE aims to enable coastal communities (Llŷn and Iveragh) to promote their natural and cultural assets, creating opportunities for sustainable tourism, especially outside of the traditional peak tourist seasons.

As part of its evaluation, a survey will be conducted with stakeholders.

UCC is the data controller for the research. However, Wavehill will delete any personal data provided during the survey, before it is shared with UCC.

The information collected during the project will be included in a report for UCC, who may wish to publish.

Your Participation in this research is completely voluntary. However your views and experiences are important in order to help inform the evaluation of this programme.

The contact for this research at Wavehill is Dyfan Powel:

E-mail address: Dyfan.powel@wavehill.com

 

PRIVACY NOTICE

What personal data do we hold and where do we get this information?

Personal data is defined under the General Data Protection Regulation (GDPR) as ‘any information relating to an identifiable person who can be directly or indirectly identified by reference to an identifier’.

Your contact details are held by the Live Project either because of your involvement or your interest in the programme. Your personal details will not be passed on to Wavehill.

There is no requirement to provide any additional personal data during the survey. If you choose to provide any other personal data as part of the research we will try not to identify you from, or link your identity to, the responses you provide. If you raise a query or complaint and provide personal data requesting a response, the researcher will forward the request only to the relevant official and subsequently delete it from the research data.

Your participation is voluntary and if you do not wish to take part then please ignore the invitation and do not complete the survey.

What is the lawful basis for using your data?

The lawful basis for processing information in this data collection exercise is our public task; that is, exercising our official authority to undertake the core role and functions of UCC. 

Participation is completely voluntary. Research studies such as this are important for UCC to collect information and actionable evidence about its ability to deliver publicly funded projects. The information collected in this research, for example, might be used to improve the running of the Live Project in future.

How secure is your personal data?

Personal information provided to Wavehill is always stored on a secure server. The data can only be accessed by a limited number of researchers working on this project. Wavehill will only use this data for research purposes. Wavehill has cyber essentials certification.

Wavehill has procedures to deal with any suspected data security breaches. If a suspected breach occurs, Wavehill will report this to UCC who will notify you and any applicable regulator where we are legally required to do so.

All data gathered through this research will be reported in an anonymised format. It will not contain your contact details and any identifiable information in open-ended answers will be removed. Wavehill will use the information gathered to produce a report that will be published on UCC website. This report will not include any information that could be used to identify individual participants.

How long do we keep your personal data?

The survey is anonymous, and Wavehill will hold personal data during the contract period, and any personal data not already removed during data collection will be deleted by Wavehill three months after the end of the contract. This includes your contact details if you supply them. Wavehill will provide UCC with an anonymised version of the data which will not include information that could identify you.

Individual rights

Under GDPR, you have the following rights in relation to the personal information you provide as part of this research, you have the right:

  • To access  a copy of your own data;

  • For us to rectify inaccuracies in that data;

  • To object to or restrict processing (in certain circumstances);

  • For your data to be ‘erased’ (in certain circumstances); and

  • To lodge a complaint with the Information Commissioner’s Office (ICO) who is our independent regulator for data protection.

If you have any concerns about how your data has been handled, you can lodge a complaint with the Information Commissioner’s Office who is the independent regulator for data protection.  You can contact the Information Commissioner’s Office Ireland on +353-1-639 5689 email: info@oic.ie address: 6 Earlsfort Terrace, Dublin 2, D02 W773. Or the Information Commissioner’s Office UK on 01625 545 745 or 0303 123 1113, via the website www.ico.gov.uk , or write to: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

Further Information

If you have any further questions about how the data provided as part of this study, will be used by UCC or wish to exercise your rights using the General Data Protection Regulation, please contact:

Lucy Taylor

Lucy.taylor@ucc.ie

UCC’s Data Protection Officer can be contacted at:

Lucy Taylor,

LIVE Project,

School of BEES, University College Cork

Distillery Fields,

North Mall

Cork

Ireland

 

bottom of page