Datganiad Preifatrwydd ar gyfer gwerthusiad o ymateb Menter Môn i pandemig Covid-19 yn Ynys Môn a Gwynedd
Sut rydyn ni'n dal ac yn prosesu'ch gwybodaeth
Mae Wavehill wedi cael ei apwyntio i ymgymryd â gwerthusiad o ymateb Menter Môn i pandemig Covid-19 yn Ynys Môn a Gwynedd. Mae’r prosiectau sydd wedi bid yn rhan o’r ymateb i Covid-19 yn cynnwys:
-
Banc bwyd Ynys Môn
-
Ciando
-
Gwirfoddoli
-
Neges
-
Banc sgiliau
-
Busnesau a gwasanaethau lleol
-
Pysgod Uniongyrchol Gogledd Cymru
-
Adeiladau
-
Banc amaeth
-
Cynhyrchu a dosbarthu PPE
Mae cymryd rhan yn y gwerthusiad trwy gyfweliad neu ymateb i holiadur yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan cyn neu yn ystod y cyfweliad a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych.
Mae unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain at adnabod chi neu (os yw'n berthnasol) eich sefydliad. Dim ond at ddibenion ymchwil y defnyddir y wybodaeth. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y data ond ni fydd hyn yn nodi unrhyw unigolion.
Mae eich data personol yn cael ei ddileu mewn 6 mis ar ôl cwblhau'r gwaith ymchwil.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Endaf Griffiths, 01545 571 711, endaf.griffiths@wavehill.com.
O dan y ddeddfwriaeth newydd ar ddiogelu data, mae gennych yr hawl:
-
I gael mynediad i'ch data personol a gedwir gan Menter Mon neu Wavehill.
-
Ei gwneud yn ofynnol i Menter Mon neu Wavehill i gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.
-
Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau).
-
I gael eich data ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
Cysylltwch â Dafydd Gruffydd yn Menter Môn (dafydd@mentermon.com) os ydych yn dymuno gwneud unrhyw un o’r pethau hyn.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â'ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, trwy'r wefan www.ico.gov.uk, neu ysgrifennu at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF.
Gwybodaeth bellach
1. Beth yw pwrpas y gwerthusiad?
Pwrpas y gwerthusiad yw ateb y cwestiynau canlynol:
-
Beth oedd effaith a budd gweithgareddau Menter Môn yn ystod cyfnod y cyfyngiadau mewn lle oherwydd y pandemig?
-
Beth a ddysgwyd wrth ddatblygu a gweithredu ymateb Menter Môn? Beth weithiodd yn arbennig o dda? Beth allai fod wedi bod yn well?
2. Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu trwy'r ymchwil?
Rydyn ni'n mynd i fod yn casglu:
-
Adborth gan amrywiaeth o randdeiliaid o ran rheoli a chyflwyno'r gweithgareddau a ariannwyd.
-
Adborth gan unigolion a sefydliadau sydd wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau hynny a/neu wedi cael budd ohonynt.
Mae arolygon yn cael eu cynnal yn ysgrifenedig ac bydd nodiadau ysgrifenedig yn cael eu cofnodi ar gyfer y cyfweliadau.
3. Beth yw data personol?
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. eu henw, eu cyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.
Mae Wavehill yn defnyddio data personol a ddarperir i hwyluso'r cyfweliad hwn, er enghraifft, eich enw a'ch manylion cyswllt.
4. Am ba hyd y cedwir data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ond bydd yn ei ddileu 6-mis ar ôl diwedd y contract.
Dim ond Wavehill fydd yn defnyddio recordiadau a nodiadau ysgrifenedig o unrhyw gyfweliadau manwl ac ni fyddant yn cael eu rhannu gyda neb arall.
5. Beth yw'r sylfaen gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r data a gesglir?
Mae'r gwerthusiad yn galluogi Menter Mon i ddeall a yw'r rhaglen yn gweithio'n effeithiol. Felly fe'i defnyddir i gefnogi gweithgareddau o fewn ‘tasg gyhoeddus’.
6. Beth yw pwrpas prosesu'ch atebion?
Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Dadansoddir y data i alluogi'r cyngor i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y gefnogaeth a ddarparwyd. Bydd hyn yn helpu i benderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i'r gefnogaeth sydd ar gael a sut y dylai cefnogaeth i bobl ddatblygu yn y dyfodol. Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.
7. Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd trwy'r cyfweliadau manwl?
Bydd gan Wavehill gopi o'r data personol i'w alluogi i gynnal y cyfweliadau. Byddant yn dileu data personol cyn pen chwe mis ar ôl diwedd y prosiect.
Ni fydd gan Menter Mon fynediad at ddata personol a gesglir trwy'r arolwg nac unrhyw recordiadau o alwadau neu nodiadau ysgrifenedig o gyfweliadau manwl. Bydd recordiadau'n cael eu dileu ar ôl 12 mis a bydd nodiadau'n cael eu dileu cyn pen chwe mis ar ôl diwedd y contract.
Privacy Notice for the evaluation of Menter Môn's response to the Covid-19 pandemic on Anglesey and in Gwynedd
How we hold and process your information
Wavehill has been appointed to undertake an evaluation of Menter Mon's response to the Covid-19 pandemic on Anglesey and in Gwynedd. The projects undertaken as part of the Covid-19 response include:
-
Anglesey Foodbank
-
Ciando
-
Volunteering
-
Neges
-
Skills Bank
-
Local Businesses and Services
-
North Wales Fish Direct
-
Buildings
-
Agri-bank
-
Production and distribution of PPE
Participation in the evaluation via interviews or responding to surveys is voluntary. You can decide to not take part before or during the interview and can choose to not answer certain questions if you prefer.
Any personal information collected as part of the evaluation is kept confidential. Your answers will not be made public in a way that could lead to you or (if relevant) your organisation being identified. The information is only used for research purposes. Wavehill will produce a report based on the data but this will not identify any individuals.
Your personal data is deleted within 6-months of completion of the work.
If you have any questions, please contact Endaf Griffiths, 01545 571 711, endaf.griffiths@wavehill.com
Under the new data protection legislation, you have the right:
-
To access your personal data held by Menter Mon or Wavehill.
-
To require Menter Mon or Wavehill to correct any mistakes in that data.
-
To (in certain circumstances) object to or restrict processing.
-
For (in certain circumstances) your data to be ‘erased’.
Please contact Dafydd Gryffudd, at Menter Mon (dafydd@mentermon.com) if you wish to do any of these things.
If you have any concerns about how your data has been handled, you can lodge a complaint with the Information Commissioner’s Office who is the independent regulator for data protection. You can contact the Information Commissioner’s Office on 01625 545 745 or 0303 123 1113, via the website www.ico.gov.uk , or write to: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Further information
1. What is the purpose of the evaluation?
The purpose of the evaluation is to answer the following questions:
-
What was the impact and benefit of Menter Môn's activities during the period when restrictions have been in a place due to the pandemic?
-
What has been learnt from the development and implementation of Menter Môn's response? What worked particularly well? What could have been better?
2. What type of information is collected through the research?
We’re going to be collecting:
-
Feedback from a range of stakeholders in the management and delivery of the activities that have been funded.
-
Feedback from individuals and organisations that have participated in and/or benefited from those activities.
Surveys are in writing and interviews will be documented with written notes.
3. What is personal data?
Personal data means any information that could lead to a person being identified either alone or in combination with other widely-available information, e.g. their name, their address, or details specific to that person.
Wavehill use personal data provided to facilitate this interview, for example, your name and contact details.
4. How long is personal data kept for?
Wavehill will hold personal data during the contract period but will delete it 6-months after the end of the contract.
Recordings and written notes from any in-depth interviews will only be used by Wavehill and will not be shared with anyone else.
5. What is the legal basis for collecting and processing the data collected?
The evaluation enables Menter Mon to understand whether the programme is working effectively. It is therefore used to support activities within the ‘public task’.
6. What is the purpose of processing your answers?
The data is used for research and evaluation purposes only. The data will be analysed to enable the council to understand the impact and effectiveness of the support that has been provided. This will help decide whether any changes need to be made to the support available and how support for people should develop in the future. The data will not be used for commercial or marketing purposes and it will not be used to take make decisions about you as an individual.
7. Who has access to the personal data collected through the in-depth interviews?
Wavehill will have a copy of the personal data to allow it to carry out the interviews. They will delete personal data within six months of the end of the project.
Menter Mon will not have access to personal data collected through the survey or any recordings of calls or written notes from in-depth interviews. Recordings will be deleted after 12 months and notes will be deleted within six months of the end of the contract.