Creu Cymunedau Cyfoes: Hysbysiad Preifatrwydd RMDP - Cyfranogwyr y Prosiect
Dyma sut rydym yn cadw ac yn prosesu gwybodaeth amdanoch
Penodwyd Wavehill gan Hybu Cig Cymru i gynnal gwerthusiad o'u Rhaglen Datblygu Cig Coch. Pwrpas y gwerthusiad yw mesur effeithiolrwydd y tri phrosiect sy'n rhan o'r rhaglen, yn ogystal â'r rhaglen gyfan.
Hoffem siarad â ffermwyr sydd wedi bod yn rhan o'r prosiectau hyn i gael barn ar sut mae'r prosiectau wedi'u cyflawni. Cysylltwyd â chi fel un o'r cyfranogwyr hynny.
Bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y gwerthusiad hwn yn unig. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o’r gwerthusiad yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Ni fydd eich atebion yn yr arolwg yn cael eu gwneud yn gyhoeddus mewn ffordd a allai arwain at eich nabod chi. Bydd Wavehill yn llunio adroddiad sy’n seiliedig ar y data ond ni fydd modd adnabod unrhyw unigolion ar sail yr adroddiad.
Mae hefyd yn bwysig i nodi nad yw’r tîm sy’n ymgymryd â’r gwerthusiad yn gweithio i Hybu Cig Cymru, Llywodraeth Cymru nac i unrhyw un o’r sefydliadau sy’n ymwneud â darparu nac ariannu’r prosiect hwn. Mae hwn yn werthusiad annibynnol.
Bydd Wavehill yn dileu’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu, a’r holl ddata personol sy’n ymwneud â’r ymchwil hon, o fewn chwe mis i derfyn y gwerthusiad.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r gwerthusiad, teimlwch yn rhydd i gysylltu â naill ai Ioan Teifi, sy’n arwain y gwerthusiad (ioan.teifi@wavehill.com), neu â John Richards (jrichards@hybucig.cymru).
Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru DataProtectionOfficer@gov.wales.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl:
-
i gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Hybu Cig Cymru
-
i’w gwneud yn ofynnol i Hybu Cig Cymru gywiro unrhyw gamgymeriadau sydd yn y data hwnnw
-
i wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) neu gyfyngu ar brosesu
-
i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau).
Cysylltwch â John Richards os gwelwch yn dda os ydych yn dymuno gwneud unrhyw un o’r pethau hyn mewn perthynas â’r prosiect hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n rheoleiddiwr annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy’r wefan www.ico.gov.uk , neu ysgrifennwch at: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Gwybodaeth bellach
-
Pam mae’r gwaith ymchwil hwn yn digwydd?
Mae Wavehill wedi'i gomisiynu gan Hybu Cig Cymru i gynnal astudiaeth ymchwil a gwerthuso o'u Rhaglen Datblygu Cig Coch.
Mae tri cham i'r gwerthusiad:
-
Roedd Cam 1 yn canolbwyntio ar ddatblygu’r Fframwaith Gwerthuso ar gyfer y rhaglen ac fe’i cwblhawyd ym mis Tachwedd 2019
-
Mae Cam 2 yn darparu adolygiad canol tymor o ddarpariaeth hyd yma er mwyn asesu perfformiad a, lle bo angen, argymell newidiadau.
-
Cyflwynir Cam 3 tua diwedd y rhaglen yn 2023 er mwyn darparu asesiad crynodol o berfformiad a'r effaith a gyflawnir.
Mae'r RMDP yn cynnwys tri phrosiect:
-
Stoc + - prosiect cymorth cynllunio iechyd
-
Cynllun Hyrddod Mynydd - cefnogaeth i recordio perfformiad defaid mynydd gan ddefnyddio technoleg
-
Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru - ei nod yw asesu arferion cyfredol y gadwyn gyflenwi sy'n effeithio ar amrywiad ansawdd cig oen
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal yr adolygiad canol tymor. Mae hyn yn cynnwys asesu effeithiolrwydd darparu ar lefel rhaglen a phrosiect; cyflawniadau hyd yn hyn; y gweithgaredd marchnata a lledaenu; a'r prif wersi a ddysgwyd / meysydd i'w gwella.
2. Pa fath o wybodaeth a gesglir drwy gyfrwng yr arolwg?
Mae'r arolwg yn canolbwyntio ar safbwyntiau ynghylch sut y cyflawnwyd y prosiectau ac unrhyw ganlyniadau sydd, neu sy'n debygol o ddigwydd, o ganlyniad i fod yn rhan o'r prosiect.
3. Beth yw data personol?
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person, naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. enw person, ei gyfeiriad, neu fanylion sy’n benodol am y person hwnnw.
4. Am ba hyd y cedwir data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y cytundeb, ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl i’r cytundeb ddod i ben.
5. Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu data a gasglwyd yn yr arolwg?
Mae gwerthuso'r Rhaglen Datblygu Cig Coch yn caniatáu inni ddeall a yw'r rhaglen yn gweithio'n effeithiol. Defnyddir eich gwybodaeth i lywio argymhellion ar sut y gellir mireinio'r rhaglen.
Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal gan Wavehill ar ran Hybu Cig Cymru. Mae eich cyfranogiad unigol yn yr ymchwil yn wirfoddol.
6. Beth yw pwrpas prosesu eich atebion i’r arolwg?
Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Dadansoddir y data i alluogi Hybu Cig Cymru i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y Rhaglen Datblygu Cig Coch.
Ni fydd y data'n cael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.
7. Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy’r arolwg?
Bydd gan Wavehill gopi o’r data personol i’w alluogi i gynnal yr arolwg a bydd yn nodi enw, rôl swydd ac enw sefydliad yn ystod y cyfweliad.
Bydd Wavehill yn gwneud cofnod ysgrifenedig o’r drafodaeth yn ystod y cyfweliad. Bydd y nodiadau hyn yn cael eu dadansoddi gan ymchwilwyr Wavehill i greu adroddiad ar gyfer Hybu Cig Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn galluogi neb i adnabod unrhyw unigolion sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil ac ni fydd y nodiadau yn cael eu rhannu â Hybu Cig Cymru nac unrhyw un arall tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu’r holl ddata personol o fewn chwe mis i’r prosiect ddod i ben. Ni fydd Hybu Cig Cymru yn cael mynediad i ddata personol a gasglwyd yn ystod y cyfweliadau.
Red Meat Development Programme Privacy Notice –Project Participants
How we hold and process your information
Wavehill have been appointed by Hybu Cig Cymru to undertake an evaluation of their Red Meat Development Programme. The purpose of the evaluation is to measure the effectiveness of the three projects that make up the programme, as well as the programme as a whole.
We would like to speak to farmers who have been involved with these projects to capture views about how the projects have been delivered. You have been contacted as one of those participants.
The data you provide will only be used for the purposes of this evaluation. Any personal information collected as part of the evaluation is kept confidential. Your answers to the survey will not be made public in a way that could lead to you being identified. Wavehill will produce a report based on the information but this will not identify any individuals.
It is also important to note that the team undertaking the evaluation do not work for Hybu Cig Cymru, Welsh Government or any of the organisations that are involved in the delivery or funding of this project. This is an independent evaluation.
Wavehill will delete the information you provide and all personal data relating to this research within six months of the end of the evaluation.
If you have any queries regarding the evaluation, please feel free to contact either Ioan Teifi, who is leading the evaluation (ioan.tefi@wavehill.com) or John Richards (jrichards@hybucig.cymru) .
You can also contact the data protection officer for the Welsh Government at DataProtectionOfficer@gov.wales.
Under the new data protection legislation, you have the right:
-
To access your personal data held by Hybu Cig Cymru
-
To require Hybu Cig Cymru to correct any mistakes in that data.
-
To (in certain circumstances) object to or restrict processing.
-
For (in certain circumstances) your data to be ‘erased’.
Please contact the John Richards if you wish to do any of these things in relation to this project. If you have any concerns about how your data has been handled, you can lodge a complaint with the Information Commissioner’s Office who is Welsh Government’s independent regulator for data protection. You can contact the Information Commissioner’s Office on 01625 545 745 or 0303 123 1113, via the website www.ico.gov.uk, or write to: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Further information
-
Why is this research happening?
Wavehill has been commissioned by Hybu Cig Cymru to undertake a research and evaluation study of their Red Meat Development Programme.
There are three phases to the evaluation:
-
Phase 1 was focussed on developing the Evaluation Framework for the programme and was finalised in November 2019
-
Phase 2 provides a mid-term review of delivery to date in order to assess performance and, where required, recommend changes.
-
Phase 3 will be delivered towards the end of the programme in 2023 in order to provide a summative assessment of performance and the impact achieved.
The RMDP involves three projects. These are:
-
Stoc+, a health planning support project
-
Hill Ram Scheme, support to use performance recording technology
-
Welsh Lamb Meat Quality Project, aims to assess current supply chain practices that impact lamb meat quality variation
We are currently undertaking the mid-term review. This involves assessing effectiveness of delivery at a programme and project level; achievements to date; the marketing and dissemination activity; and the main lessons learnt/areas for improvement.
2. What type of information is collected through the survey?
The survey focuses on views about how the projects have been delivered and any outcomes that have, or are likely to, occur as a result of being involved with the project.
3. What is personal data?
Personal data means any information that could lead to a person being identified either alone or in combination with other widely-available information, e.g. their name, their address, or details specific to that person.
4. How long will personal data be kept for?
Wavehill will hold personal data during the contract period but will delete it six months after the end of the contract.
5. What is the legal basis for collecting and processing the data collected through the survey?
The evaluation of the Red Meat Development Programme allows us to understand whether the programme is working effectively. Your information will be used to inform recommendations on how the programme can be refined.
The evaluation is being carried out by Wavehill on behalf of Hybu Cig Cymru. Your individual participation in the research is voluntary.
6. What is the purpose of processing your answers to the survey?
The data is used for research and evaluation purposes only. The data will be analysed to enable Hybu Cig Cymru to understand the impact and effectiveness of the Red Meat Development Programme.
The data will not be used for commercial or marketing purposes and it will not be used to take make decisions about you as an individual.
7. Who has access to the personal data collected through the survey?
Wavehill will have a copy of the personal data to allow it to carry out the survey and will capture name, job role and organisation name during this interview.
Wavehill will make a written record of the discussion during the interview. These notes will be analysed by researchers at Wavehill to produce a report for Hybu Cig Cymru. This report will not identify any individuals participating in the research and the notes will not be shared with Hybu Cig Cymru or anyone else outside of Wavehill. Wavehill will delete all personal data within six months of the end of the project. Hybu Cig Cymru will not have access to personal data collected through the interviews.