Wavehill becomes a Certified B Corporation | Wavehill yn dod yn Certified B Corporation
- Wavehill
- 4 days ago
- 3 min read
Wavehill becomes a Certified B Corporation
We're incredibly pleased to share the news that Wavehill has been certified as a B Corporation (or B Corp).
Wavehill is now part of a growing community of nearly 10,000 businesses globally that have certified as B Corps. The B Corp community in the UK is one of the largest and fastest-growing in the world, with over 2,500 companies spanning a range of different industries and sizes. Examples include The Guardian, Innocent Drinks, Patagonia, The Big Issue, Finisterre, Elemis, and Sipsmith Gin.
Verified by B Lab, the not-for-profit behind the B Corp movement, the achievement demonstrates that Wavehill meets high standards of social and environmental performance, transparency, and accountability alongside a commitment to goals beyond shareholder value. The certification process is rigorous, with companies required to provide evidence on performance while legally embedding their commitment to purpose as well as profit in their company articles.
"Achieving B Corp certification represents a natural evolution of our values-driven approach," said Louise Petrie, Operations Manager at Wavehill. "It formally recognises the standards we've been working towards and reinforces our commitment to making a positive impact through our work."
We see this as another step in our journey and development as a company. Wavehill has been an employee-owned business since 2021, and we also commit 1% of our pre-tax profits each year to support charitable organisations and important causes throughout the UK. By sharing our success in this way, we hope to strengthen the communities around us and make a meaningful difference in the lives of those who need it most.
This certification will guide our continued focus on sustainable business practices and social impact as we work with clients and partners who share our commitment to creating positive change.
Wavehill yn dod yn Certified B Corporation
Rydyn ni’n hynod o falch o allu rhannu’r newyddion bod Wavehill wedi’i ardystio fel B Corporation (neu B Corp).
Mae Wavehill bellach yn rhan o gymuned sy’n tyfu ac yn cynnwys bron i 10,000 o fusnesau ledled y byd sydd wedi’u hardystio fel B Corps. Yn y Deyrnas Unedig, mae cymuned y B Corp ymhlith yr un mwyaf ac sy’n tyfu gyflymaf yn y byd, gyda dros 2,500 o gwmnïau sy’n cwmpasu ystod eang o ddiwydiannau a meintiau gwahanol. Ymhlith yr enghreifftiau mae The Guardian, Innocent Drinks, Patagonia, The Big Issue, Finisterre, Elemis, a Sipsmith Gin.
Wedi’i wirio gan B Lab, y sefydliad dielw y tu ôl i’r mudiad B Corp, mae’r cyflawniad hwn yn dangos bod Wavehill yn cwrdd â safonau uchel o ran perfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol, tryloywder a chyfrifoldeb, ochr yn ochr ag ymrwymiad i nodau sy’n mynd y tu hwnt i werth cyfranddalwyr yn unig. Mae’r broses ardystio yn drylwyr, gydag angen i gwmnïau ddarparu tystiolaeth o’u perfformiad a chynnwys yn gyfreithiol eu hymrwymiad i ddiben yn ogystal â phroffit yn erthyglau’r cwmni.
“Mae cyflawni ardystiad B Corp yn cynrychioli esblygiad naturiol o’n dull sy’n cael ei yrru gan werthoedd,” meddai Louise Petrie, Rheolwr Gweithrediadau yn Wavehill. “Mae’n cydnabod yn ffurfiol y safonau yr ydym wedi bod yn gweithio tuag atynt ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i greu effaith gadarnhaol drwy ein gwaith.”
Rydyn ni’n gweld hyn fel cam arall yn ein taith a’n datblygiad fel cwmni. Mae Wavehill wedi bod yn fusnes sy’n eiddo i’r gweithwyr ers 2021, ac rydym hefyd yn ymrwymo i roi 1% o’n helw cyn treth bob blwyddyn i gefnogi sefydliadau elusennol ac achosion pwysig ledled y DU. Trwy rannu ein llwyddiant yn y modd hwn, gobeithiwn gryfhau’r cymunedau o’n cwmpas a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Bydd yr ardystiad hwn yn ein harwain i ganolbwyntio’n barhaus ar arferion busnes cynaliadwy ac effaith gymdeithasol wrth i ni weithio gyda chleientiaid a phartneriaid sy’n rhannu ein hymrwymiad i greu newid cadarnhaol.
