Gwerthuso'r Dyfodol: Wavehill i asesu Trawsnewidiad Amgueddfa Beamish
Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth
Sut allwch chi sicrhau'r canlyniad gorau ar gyfer eich prosiect neu raglen? Ni chynhelir unrhyw brosiect mewn gwactod. Mae deall yr arlliwiau o amgylch eich prosiect celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth gyda chyd-destun pryderon cymdeithasol, addysgol, lle, economaidd neu amgylcheddol ehangach yn gofyn am wybodaeth ddofn o fewn y sectorau celfyddydol, creadigol, diwylliannol a threftadaeth yn angen dealltwriaeth ehangach o'r wahanol feysydd yn y sector mae eich prosiect yn ei weithredu.
Yn Wavehill rydym yn:
-
Gallu gweithio gyda chi i ddatblygu adolygiad tystiolaeth gynhwysfawr o'ch prosiect neu raglen. Mae ein gwaith ymchwil a dadansoddi wedi cael effaith positif wrth gefnogi canlyniadau ariannu a chyfeiriad polisi.
-
Gallu gyfuno ein harbenigedd dwfn wrth werthuso prosiectau a rhaglenni celfyddydau, diwylliant a threftadaeth â gwybodaeth a ddaw o arbenigedd o bob rhan o Wavehill. Gall ein hymagwedd unigryw alluogi gwell dealltwriaeth a gwerth ychwanegol i'ch prosiect neu raglen.
P'un a yw'ch prosiect yn lleol, neu'ch rhaglen yn genedlaethol (neu'n rhyngwladol), mae llwyddiant yn gofyn am gyfuniad o fodloni gofynion ariannu ac adeiladu sylfaen dystiolaeth i gael mynediad at gyllid yn y dyfodol. Maen hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddangos gwerth ac effaith ehangach eich rhaglenni, prosiectau ac ymyriadau ar gyfer eich rhanddeiliaid a derbynwyr prosiectau. Gan weithio mewn partneriaeth â Wavehill, byddwch yn gallu dangos gwerth ychwanegol eich gwaith trwy ein dulliau annibynnol a chadarn o ymchwilio, tystiolaeth a gwerthuso.