top of page

Ymwadiad

At ddiben y ddogfen hon cyfeirir at Wavehill Cyf fel 'Wavehill' neu 'y Cwmni'.

Tra gwneir pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon yn gywir, ni roddir unrhyw sicrwydd. Darperir gwefan Wavehill a deunydd sy'n ymwneud â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) 'fel y mae' heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed yn ddatganedig neu'n oblygedig, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i'r gwarantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, peidio â thorri rheolau, cydnawsedd, diogelwch a chywirdeb.

Oni nodir yn wahanol, hawlfraint Wavehill yw’r holl wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon ac ni cheir ei hatgynhyrchu heb ganiatâd ymlaen llaw. Tra bod pob ymdrech wedi ei wneud i sicrhau cywirdeb y wybodaeth ar y tudalennau hyn, mae eu cynnwys yn naturiol yn agored i newid. Ni fydd Wavehill yn atebol o dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol sy'n deillio o ddefnyddio'r wybodaeth a gedwir ar y tudalennau hyn.

Nid yw Wavehill yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio'r wefan hon a / neu ddeunydd sy'n deillio o'r wefan hon. Nid yw Wavehill yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor nac yn rhydd o wallau. Hefyd, nid yw Wavehill yn gwarantu y bydd y diffygion hynny'n cael eu cywiro, na bod y wefan hon neu'r gweinydd sy'n ei gwneud ar gael yn rhydd o firysau neu'n cynrychioli swyddogaeth lawn, cywirdeb a dibynadwyedd y deunyddiau.

Ni fydd Wavehill, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu iawndal o gwbl sy’n deillio o ddefnyddio neu golli defnydd o ddata neu elw sy’n deillio o neu mewn cysylltiad â’r defnydd o’r wefan hon.

Trwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r telerau ac amodau a nodir ar y dudalen hon, gan gynnwys einCwcisaPolisïau preifatrwydd. Felly, trwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau.

Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu cwmpasu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

 

bottom of page