top of page
EconomicImpact banner

Asesiadau Effaith Economaidd

Gall deall effaith economaidd eich prosiect, eich busnes, neu eich sefydliad, eich galluogi i ddangos eich gwerth i'ch rhanddeiliaid ac i gyllidwyr. Yn Wavehill rydym yn mynd y tu hwnt i fynegi swyddi a gwerth economaidd yn unig, wedi'i fesur gan Werth Crynswth Ychwanegol (GVA - Gross Value Added). Mae ein hymagwedd wedi’i theilwra yn eich galluogi i ddeall eich cyfraniad economaidd cyffredinol yng nghyd-destun eich effeithiau cymdeithasol, cymunedol ac amgylcheddol. Gall ein canfyddiadau cadarn, syml i’w deall helpu i lywio polisi, gwneud penderfyniadau strategol a datblygu ceisiadau am arian. Mae'n bosibl bod eich prosiect yn y cam cyn-buddsoddi ac mae angen sylfaen dystiolaeth i lywio penderfyniadau buddsoddi. Neu efallai eich bod yn y cyfnod ôl-ymyrraeth ac angen priodoli gwerth neu ddeall newidiadau sy'n deillio o'ch menter. Gallwn eich helpu i fynegi’n well y gwerth yr ydych wedi’i greu i’ch cyllidwyr neu randdeiliaid.

Economic Impact banner

Yn Wavehill rydym yn:

  • Eich helpu i ddangos effeithiau cymdeithasol ac economaidd o fuddsoddiadau seilwaith ar raddfa fawr a rhaglenni adfywio fel rhan o’r broses gynllunio.

  • Cyfuno ein harbenigedd dwfn ar draws gwahanol sectorau a meysydd polisi â dealltwriaeth o’r cyd-destun economaidd a chymdeithasol ehangach i asesu a meintioli

yr effeithiau economaidd a chymdeithasol a gynhyrchir gan eich sefydliad, mudiad neu sector angori.

  • Gweithio gyda chi i benderfynu ar yr offer a’r dulliau mwyaf priodol ar gyfer eich menter, gan gynnwys dadansoddi data cynradd ac eilaidd, meincnodi, ymgynghori â rhanddeiliaid, dadansoddi mewnbynnau-allbynnau, a modelu effaith economaidd.

Mae ein hymagwedd gadarn at reoli data yn unol â safonau’r diwydiant a chanllawiau Llyfr Gwyrdd Trysorlys Ei Mawrhydi i ddarparu canfyddiadau cadarn a dibynadwy ar gyfer eich asesiadau effaith economaidd. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi effeithiau uniongyrchol (o'ch gweithgaredd, ymyriad, prosiect, sefydliad), anuniongyrchol (cadwyn gyflenwi) ac effeithiau ysgogedig (gwariant ehangach gan weithwyr). Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o effaith economaidd eich rhaglen, polisi, sefydliad neu fenter polisi.

Astudiaethau Achos/Erthyglau

Cysylltiadau Allweddol

bottom of page