top of page
water splash

Effaith Amgylcheddol

Fel cwmni sy'n ymwybodol o'n rhwymedigaethau amgylcheddol ac fel busnes cyfrifol, rydym yn deall pwysigrwydd cydnabod a rheoli ein heffeithiau amgylcheddol. Rydym yn cydnabod ein bod ar daith ac wedi ymrwymo i leihau ein heffeithiau amgylcheddol negyddol ar draws ein swyddfeydd, hyrwyddo mwy o gyfrifoldeb yn ein harferion gwaith a gwaith prosiect, a gwella ein perfformiad amgylcheddol cyffredinol yn barhaus. Mae’n ymdrech ar y cyd, ac rydym hefyd yn annog ac yn hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol ymhlith ein cleientiaid, cyflenwyr, rhanddeiliaid, a’r gymuned ehangach.

Yn Wavehill rydym wedi ymrwymo i ymgorffori ystyriaethau amgylcheddol yn ein penderfyniadau busnes a'n harferion gwaith. Mae hyn yn rhan annatod o'n strategaeth fusnes a'n dull gweithredu. Yn unol â'n gwaith ymchwil a gwerthuso, rydym yn monitro ein perfformiad yn erbyn meincnodau annibynnol a osodwyd ac yn edrych am welliant parhaus yn erbyn y rhain.

Rydym yn fwy ystyriol o'n heffaith amgylcheddol ac wedi ymgymryd nifer o fentrau i'n helpu i ddod yn gwmni carbon niwtral yn y dyfodol.

footprint in sand
Ôl Troed Carbon:
  • Rydym wedi meincnodi ôl troed carbon ein busnes cyfan

  • Byddwn ni'n mynd ati i geisio lleihau ein ôl-troed carbon lle mae’n bosib

Project work graph
Ein Gwaith Prosiect:
  • Fel busnes rydym yn canolbwyntio yn fwy ar waith sy'n cefnogi ynni carbon isel, adnewyddadwy, a lliniaru newid yn yr hinsawdd

  • Rydym yn cynnwys ystyriaethau amgylcheddol wrth ddylunio tendrau a phrosiectau

Bench
Teithio Busnes:
  • Mae gennym bolisi teithio gwyrdd sy’n argymell defnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy

  • Rydym yn annog pobl i beidio â defnyddio awyrennau diangen neu ddefnyddio car ar gyfer teithiau busnes

  • Lle bo modd, rydym yn annog ymgysylltu ar-lein â chleientiaid a staff er mwyn osgoi teithio diangen

Leaves in sunlight
Ystyriaethau amgylcheddol mewn gweithrediadau busnes:
  • Rydym yn ymgorffori ystyriaethau amgylcheddol yn ein holl benderfyniadau busnes allweddol

  • Rydym yn hyrwyddo ein hymrwymiad i gyfrifoldeb amgylcheddol i'n holl gleientiaid a chysylltiadau

  • Mae gennym gynllun gweithredu amgylcheddol ardystiedig gan Green Small Business  i’n helpu i ganolbwyntio ar ddod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd a gwella ein perfformiad amgylcheddol fel busnes.

bottom of page