top of page
climate change and energy banner

Newid Hinsawdd

ac Ynni Adnewyddadwy

Mae Llywodraeth y DU wedi gosod targedau i gyflawni allyriadau carbon sero net cenedlaethol erbyn 2050, tra bod llawer o awdurdodau lleol ledled y DU yn bwriadu cyflawni’r nod hwn yn llawer cynharach. Er mwyn sefydlu a all eich menter gyrraedd y targedau hyn, ac mewn ffordd gost-effeithiol, bydd angen treialu ystod eang o wahanol bolisïau a rhaglenni, a phrofi technolegau arloesol. Bydd angen tystiolaeth o ansawdd uchel arnoch, gan ddefnyddio monitro a gwerthuso amserol i asesu'r effeithiau a chasglu mewnwelediadau ynghylch yr hyn sy'n gweithio, beth sy'n gost-effeithiol a pha fentrau sy'n cyfrannu orau at y targedau a osodwyd yn eich prosiectau a pholisïau ynni a charbon isel.

climate change and energy banner

Yn Wavehill rydym yn:

  • Rhoi mewnwelediad a dealltwriaeth i chi o effeithiau economaidd a chymdeithasol o fuddsoddiadau, prosiectau a pholisïau seilwaith gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau effaith economaidd-gymdeithasol ar gyfer seilwaith ynni adnewyddadwy arfaethedig a phrosiectau carbon isel eraill, yn ogystal â mapio sectorau carbon isel i ddeall manteision economaidd lleol y sector o ran cyflogaeth a chyfraniad economaidd.

  • Helpu chi i gyflwyno’r achos dros seilwaith ynni newydd neu brosiectau neu bolisïau carbon isel eraill drwy ddadansoddiad economaidd, cefnogi datblygiad achos busnes yn unol â Llyfr Gwyrdd Trysorlys Lywodraeth ei Mawrhydi, a datblygu ceisiadau am arian.

Gall deall effaith unrhyw fenter wella ymyriadau, sicrhau cyllid, a sicrhau cefnogaeth leol. Gall ein gwaith eich cefnogi i ddatblygu, cyflawni a gwerthuso effeithiolrwydd eich prosiectau a'ch rhaglenni wrth i ni symud tuag at economi carbon is.

Astudiaethau Achos/Erthyglau

Cysylltiadau Allweddol

Cleientiaid

The ernest cook trust logo
bottom of page