Wavehill i werthuso prosiectau adfywio allweddol o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin Sir y Fflint
Lle ac Adfywio Trefol
Mae adfywio ar sail ardal sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at hunaniaeth ardal, ei dengarwch a'i bywiogrwydd yn gofyn am strategaeth glir, cyllid parhaus ac ymgysylltiad a chefnogaeth gymunedol. Gall prosiectau adfywio effeithiol ddatgloi nifer o fanteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn eich ardal leol a thu hwnt. Gall hwyluso creu ymdeimlad o le a balchder, gan greu ymdeimlad o ddyhead a gweithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad a gweithgaredd pellach.
Yn Wavehill rydym yn:
-
Darparu gwerthusiad a modelu economaidd sy’n cydymffurfio â Thrysorlys ei Mawrhydi i lywio amcangyfrifon o’r enillion economaidd-gymdeithasol tebygol o fuddsoddi yn nyluniad a datblygiad eich rhaglen adfywio. Gallwn gynnal dadansoddiad cost budd cymdeithasol a dadansoddiad o’r effaith economaidd-gymdeithasol i nodi gwir raddfa’r gwerth ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi canlyniadau economaidd caled hyd at effeithiau catalytig adfywio, i'r amrywiaeth o fuddion cymdeithasol a gynhyrchir.
-
Datblygu sylfaen dystiolaeth trwy ymgynghori â'r gymuned a rhanddeiliaid wedi'i hategu gan amrywiaeth o ddata mesuradwy, wedi'i feincnodi yn erbyn lleoliadau eraill. Gall hyn eich helpu i flaenoriaethu gweithgaredd a sefydlu llinellau sylfaen priodol i adeiladu arnynt wrth sicrhau bod lleisiau lluosog yn cael eu cynrychioli trwy gydol y cyfnod cyflwyno.
Gyda phrofiad ar draws ystod o feysydd gwahanol gall Wavehill gefnogi eich rhaglen adfywio i ddangos yr effaith gymdeithasol ac economaidd drawsnewidiol y gall ei chael ar eich cymuned leol ac ehangach. Gyda gwybodaeth ddofn o'r amgylchedd ariannu cyfnewidiol a chymhleth a dealltwriaeth drylwyr o orchmynion lleol a chenedlaethol, gallwn weithio'n agos gyda chi. Trwy ein dulliau egnïol at ymchwil, dadansoddi tystiolaeth a chynnal gwerthusiad, gallwn sicrhau bod eich gweithgaredd adfywio yn dangos ei werth ychwanegol llawn.