top of page
coloured rope bound together

Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Drwy strwythur y cwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr, mae Wavehill wedi cryfhau llais yr holl staff i’n grymuso ni i gyd i fynegi’r hyn sy’n bwysig i ni. Mae hyn nid yn unig yn dylanwadu ar gyfeiriad strategol a diwylliannol Wavehill, ond mae hefyd yn creu mwy o atebolrwydd ar draws pob lefel o'r cwmni. Mae tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (ED&I) yn elfennau hanfodol o'r ethos hwn, o'n gwaith, ac o fewn ein sylfaen cleientiaid. Rydym yn cydnabod ein bod ar daith i adlewyrchu’n well yr ystod amrywiol o gleientiaid rydym yn gweithio gyda nhw a’r cymunedau rydym yn ymgysylltu â nhw.

 

Rydym wedi ymrwymo i wella ein hymagwedd at degwch, amrywiaeth a chynhwysiant er mwyn adlewyrchu ein gwerthoedd a’n credoau craidd yn well. Rydym eisiau bod yn atebol ac yn credu, trwy rannu'r gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud, y gallwn wella ein hymagwedd a'n dealltwriaeth o'r heriau dan sylw.

Ropes tied together
Mae hyn yn golygu edrych ar:
  • Ein harferion ymchwil: Gweithio ar y cyd â’n cleientiaid, rhanddeiliaid, a chymunedau i fabwysiadu arfer gorau priodol fel bod ein methodolegau a’n dulliau ymchwil yn fwy cynhwysol.

  • Sut rydym yn rhannu gwybodaeth gyda'n cleientiaid, cydweithwyr, staff, a rhanddeiliaid ehangach:  Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn gwneud addasiadau priodol i'n holl gynnwys..

..gan gynnwys ein gwefan, ein templedi adroddiadau ac allbynnau prosiect eraill i sicrhau ein bod yn bodloni safonau hygyrchedd yn gyson. 

  • Ffyrdd o wella ein hymagwedd at recriwtio  a chadw staff, sy'n ystyried amgylchiadau unigolyn: Fel y cyfryw rydym yn datblygu strategaeth hirdymor i ddenu talent o ystod ehangach o gefndiroedd a phrofiadau.

Pam fod Tegwch yn bwysig i Wavehill?

Mae tegwch yn cydnabod nad ydym i gyd yn dechrau o'r un sefyllfa. Mae'n canolbwyntio ar degwch a didueddrwydd; y dylem gydnabod a chywiro anghydbwysedd drwy ddileu cyfyngiadau bwriadedig ac anfwriadol drwy broses fyfyriol barhaus. Yn Wavehill mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn dod ar ei draws yn ein gwaith, ein hymgysylltiad â gwahanol gymunedau a'n harferion ymchwil. Fel y cyfryw, rydym yn cydnabod, lle bo'n briodol, bod angen i ni addasu a chywiro anghydbwysedd i sicrhau bod pob llais yn cael ei gynrychioli a bod pawb yn gallu cael mynediad i'n hymchwil.

Pam fod Amrywiaeth yn bwysig i Wavehill?

Mae amrywiaeth yn ymwneud â chydnabod gwahaniaethau pobl ac mae’n cydnabod y manteision y gall gwahanol safbwyntiau a phrofiadau eu rhoi i Wavehill ac i’n cleientiaid. Rydym yn cydnabod y gall mwy o amrywiaeth a safbwyntiau gwahanol arwain at ymatebion mwy creadigol ac arloesol i heriau ein cleientiaid tra bod gweithlu mwy amrywiol yn adlewyrchu ein sylfaen cleientiaid yn well.

Pam fod Cynhwysiant yn bwysig i Wavehill?

Mae cynhwysiant yn sicrhau bod gwahaniaethau pobl yn cael eu gwerthfawrogi. Yn Wavehill, rydym yn gweithio’n barhaus tuag at ddatblygu amgylchedd cynhwysol lle gall yr holl staff berfformio i’w llawn botensial, ni beth bynnga eu cefndir, hunaniaeth neu amgylchiadau. Rydym yn sicrhau, trwy arolygon staff rheolaidd a mecanweithiau mewnol eraill a phwyntiau cyffwrdd, bod llais yr holl staff yn cael ei gynrychioli. Trwy'r sianelau hyn, cydnabyddir tra bod cynnydd yn cael ei wneud i ddod yn fwy cynhwysol, y bydd hon yn daith barhaus. Trwy addysgu ein hunain rydym yn dod yn fwy ymwybodol o’n rhagfarnau ein hunain sydd gallu rhoi gwell dealltwriaeth o'r heriau mae gwahanol bobl yn wynebu, sydd yn arwain at fyd mwy caredig a mwy cynhwysol. Rydym wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth ac arfer gorau sy'n canolbwyntio ar heriau tegwch, amrywiaeth, a chynhwysiant yn y gweithle a thu hwnt. Trwy godi ymwybyddiaeth a chael gwell dealltwriaeth o'r gwahanol heriau y mae unigolion a chymunedau yn eu hwynebu, gallwn greu amgylchedd lle gall pob cydweithiwr ddod â'i orau i weithio. Mae hyn yn ei dro yn golygu gwell allbynnau i’n cleientiaid a chanlyniadau gwell i’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt.

Astudiaethau Achos/Erthyglau

bottom of page