top of page
Banner

Ein Gwerthoedd

Mae Wavehill yn cynnig dull gwahanol, gwybodus sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, gwerth a chymuned. Mae hyn yn hanfodol i'r ffordd rydym yn gweithredu ac yn sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn adeiladu ein perthynas â'n staff, gyda'n cleientiaid, ein partneriaid, a rhanddeiliaid eraill.  

 

Gyda ffocws ar ddeall eich gofynion, mae ein dull cydweithredol yn eich galluogi i wneud penderfyniadau gwell, mwy gwybodus trwy ein hymchwil cymdeithasol ac economaidd annibynnol. Rydym yn ceisio adeiladu partneriaethau hirhoedlog gyda chi, fel y gallwn gydgynhyrchu canlyniadau cryfach gyda'n gilydd. Mae hyn yn ein galluogi i fynd y tu hwnt i'r disgwyl i ddod yn bartner gwerthfawr sy'n darparu gwasanaeth eithriadol i chi.  

 

Fel cwmni sy'n eiddo i'r gweithwyr, mae ein staff yn rhan bwysig o'r broses gwneud penderfyniadau strategol. Yn ei dro, mae hyn wedi arwain at lefelau uwch o ymgysylltu â staff a gwell atebolrwydd ar draws pob rhan o'r busnes. Mae hefyd wedi galluogi staff i rannu ein llwyddiant yn well.

bottom of page