top of page
Business, enterprise and innovation banner

Busnes, Menter

& Arloesi

Er mwyn cefnogi twf economaidd lleol gwell, mae llywodraeth y DU wedi lansio’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol, Lefelu i Fyny a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU sydd i’w rhyddhau’n fuan. Er mwyn darparu rhaglenni a phrosiectau'n effeithiol gan ddefnyddio'r mecanweithiau ariannu hyn yn eich ardal leol, mae angen i chi adeiladu sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr sy'n dangos effeithiau eich menter. P’un a yw’ch prosiect yn sbarduno twf economaidd drwy welliannau i gymorth busnes megis ar gyfer entrepreneuriaid a busnesau newydd, gwella cynhyrchiant a chefnogi twf cwmnïau presennol, neu’n galluogi ymelwa’n well ar gryfderau’r DU mewn ymchwil ac arloesi drwy gysylltu â chanolfannau gwybodaeth gan gynnwys arbenigedd prifysgol; bydd angen ymagwedd gynhwysfawr arnoch i ddangos eich effaith.

Business, enterprise and innovation

Yn Wavehill rydym yn:

  • Cynnal gwerthusiadau cadarn o gymorth busnes ar gyfer prosiectau a rhaglenni sy’n eich helpu i fodloni gofynion cyllidwyr gwahanol, drwy ddangos yr effeithiau a gyflawnwyd gan eich buddsoddiadau, effeithiolrwydd y cyflenwi a pha mor gost-effeithiol y bu eich buddsoddiad.

  • Cefnogi i ddatblygu strategaethau buddsoddi a chynlluniau ar gyfer cymorth busnes gan ddefnyddio lleol

dyraniadau Lefelu i Fyny, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu ffynonellau ariannu eraill.

  • Cynorthwyo chi i ddatblygu achosion busnes neu geisiadau am gyllid i helpu i ddatblygu prosiectau a sicrhau cyllid ar gyfer gweithgarwch cymorth busnes newydd, gan adeiladu ar ddealltwriaeth fanwl o’r hyn sy’n gweithio o bob rhan o’r DU

Mae Wavehill yn gweithio’n rheolaidd gyda llywodraeth genedlaethol, awdurdodau lleol a chyfunol, prifysgolion, partneriaethau menter lleol a phartneriaid cyflawni eraill i gynnal gwerthusiadau cadarn o brosiectau a rhaglenni cymorth busnes sy’n ceisio cryfhau economïau leol. P'un a oes angen cymorth arnoch ar gynllunio buddsoddiadau, dadansoddi ymchwil o gymorth busnes a chynlluniau datblygu sector, neu werthuso cynlluniau a ariennir eisoes, gall Wavehill eich cefnogi.

Astudiaethau Achos/Erthyglau

Cysylltiadau Allweddol

Cleientiaid

cwmpas logo
Devon county council
Wales Co-operative centre logo
Exmoor national park logo
cardiff university
BEIS logo
bottom of page