top of page
Row of chairs banner

Ymgynghoriadau Cyhoeddus a Dadansoddi

Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn hanfodol i lywodraethu agored a democrataidd, ac yn hollbwysig i’r broses hon, mae dadansoddiad annibynnol cadarn. Gall ymgysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid, defnyddwyr gwasanaethau, a’r cyhoedd roi mewnwelediadau allweddol i chi er mwyn llywio’ch darpariaeth gwasanaeth a datblygiad polisi’r llywodraeth.  P'un a yw eich ymgynghoriad â'r cyhoedd ehangach neu set benodol o ddefnyddwyr gwasanaeth, bydd Wavehill yn eich helpu i ddeall y materion a'r sylwadau a godwyd gan y rhai yr ymgynghorwyd â hwy, mewn ffordd sy'n sicrhau bod pob llais yn cael ei ystyried.

Consultation banner

Yn Wavehill rydym yn:

  • Yn credu bod sylfaen dystiolaeth gref yn hanfodol i ddatblygu polisi cadarn ac ymyriadau effeithiol.  Felly, mae ein hymagwedd yn drylwyr ac yn ddiduedd. Rydym yn rhoi mewnwelediadau i chi sy'n llywio eich darpariaeth gwasanaeth, neu'ch proses datblygu polisi. 

  • Rhoi dadansoddiad i chi o'r materion, y themâu a'r safbwyntiau sy'n codi. Waeth beth fo maint y sampl rydym yn tynnu mewnwelediadau allweddol yn seiliedig ar yr hyn yr ydych am ei wybod, a'r hyn y mae'r rhai yr ymgynghorwyd â hwy am ichi ei glywed.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau, gyda chyrff hyd braich ac ar draws gwahanol haenau o lywodraeth. Mewn cydweithrediad â chi, gallwn hwyluso ymgynghoriadau amlochrog â ffocws bach a graddfa fawr. Mae ein prosesau dadansoddol yn cydbwyso ac yn rhoi’r sbectrwm barn a gyflwynir yn ei gyd-destun, gan sicrhau bod pob ymateb yn cael ei ddeall a’i ystyried.

Astudiaethau Achos/Erthyglau

Cysylltiadau Allweddol

bottom of page