top of page
  • Writer's pictureSimon Tanner

Dull cydweithredol o fonitro a gwerthuso: sut mae GOGA yn arwain y ffordd

Ers ei sefydlu yn 2016, mae Wavehill wedi bod yn gweithio gyda Activity Alliance i werthuso a dangos effeithiau cymdeithasol ac economaidd Get Out Get Active (GOGA), rhaglen genedlaethol sy’n dod â phobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl at ei gilydd i ddod yn fwy egnïol. Mae’r rhaglen yn ceisio ymgysylltu â’r cymunedau lleiaf egnïol mewn ffyrdd hwyliog a chynhwysol. Mae’n rhoi cyfleoedd i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl i fod yn egnïol gyda’i gilydd; gwella lles corfforol a meddyliol a chryfhau cymunedau. O ganlyniad, mae’r rhaglen hefyd yn mynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol i lawer o bobl sy’n agored i niwed, ledled y DU. Wedi’i hariannu i ddechrau gan Spirit of 2012, mae’r rhaglen bellach yn ei hail gam, ac yn gweithio mewn 21 o ardaloedd awdurdodau lleol ledled y DU, ac wedi cael cadarnhad o gyllid ychwanegol gan y London Marathon Charitable Trust a Sport England ym mis Mawrth 2020.

Gan weithio mewn partneriaeth â chyllidwyr, rhanddeiliaid, partneriaid cyflawni a buddiolwyr rhaglenni, datblygodd Wavehill ddealltwriaeth ddofn o’r rhaglen ar lefel genedlaethol a lleol. Mae’r safbwynt lleol a chenedlaethol unigryw hwn yn rhoi cyd-destun pwysig a dealltwriaeth ddyfnach i brosiectau lleol yn ei leoliadau cyflawni, ac yn rhoi mwy o fewnwelediad a dealltwriaeth i broses gyffredinol gwerthuso’r rhaglen.


Gan weithio ar y cyd â thîm rhaglen GOGA, mae Wavehill wedi mabwysiadu dull gwahanol o fonitro canlyniadau’r rhaglen hon, er mwyn gwerthuso a rhoi gwell adborth wrth i’r rhaglen fynd rhagddi. Mae’n defnyddio dull cymysg, sy’n cynnwys ymgysylltu helaeth a rhoi adborth rheolaidd ar draws y rhaglen ddarparu, yn hytrach na darparu adborth ar ddiwedd y rhaglen. Mae hyn wedi galluogi’r holl randdeiliaid i ddysgu a rhannu mewnwelediadau sy’n parhau i wella pob agwedd ar y rhaglen (gan alluogi newidiadau i raglen sydd ar y gweill), o safbwynt lleol a chenedlaethol.


Mae hyn yn ei dro wedi arwain at ddealltwriaeth ddyfnach o’r effeithiau cadarnhaol y mae’r rhaglen yn parhau i’w cael, tra’i fod hefyd yn darparu mewnwelediadau amserol sydd wedi cefnogi ceisiadau am gyllid ar gyfer ail gam y rhaglen. Mae’r ddolen adborth hon yn un o gonglfeini llwyddiant y rhaglen ac fe’i gwelwyd yn ddiweddar yn y GOGA Conference. Yn y gynhadledd hon lansiwyd adnoddau sy’n dangos pam mae’r rhaglen hon yn bwysig: adnoddau ar bwy, beth, ble a pham


Bwriad yr adnoddau hyn a’r dysgu ar y cyd (gan gynnwys awgrymiadau ymarferol ac enghreifftiau o sut i gyflawni’r ‘Dull GOGA’) yw cefnogi rhanddeiliaid sydd am ddod yn fwy egnïol yn eu cymunedau drwy ymagweddu’n fwy cydweithredol, ac fe’u datblygwyd o adroddiad gwerthuso crynodol Wavehill o Gam 1 GOGA a’u hail-feddwl gan GOGA i gefnogi cam nesaf y rhaglen.

Mae adborth i randdeiliaid prosiect o werthusiad Wavehill wedi’i strwythuro yn y fath fodd fel y gellir rhannu’r dysgu parhaus sy’n digwydd ar faterion allweddol sy’n cefnogi cyflawni ac adeiladu partneriaethau gan ardaloedd. Mae’r adroddiadau hyn yn tynnu sylw at yr ‘adwaith cadwyn’ ehangach mae partneriaid o fewn, a thu hwnt, i rwydwaith GOGA yn ei chael ar ddarparu rhaglenni ar gyfer pobl anweithgar ledled y DU. Dangosodd Cam 1 GOGA lawer o effeithiau cadarnhaol ar weithgarwch corfforol drwy’r dull a fabwysiadwyd ganddo:

· Dywedodd 59% o gyfranogwyr GOGA eu bod yn gwneud 20 munud neu fwy o weithgarwch corfforol ar gyfartaledd bob dydd 6-9 mis ar ôl dechrau ar brosiect GOGA; mae hyn yn cyrraedd 65%, 15 mis ar ôl cymryd rhan yn GOGA.

· Dangosodd cyfranogwyr GOGA sy’n anabl, lefelau gweithgarwch corfforol uwch. Dywedodd 50% o bobl anabl eu bod yn anweithgar ar ddechrau’r rhaglen; gostyngodd hyn i 15%, 15 mis ar ôl cymryd rhan yn GOGA.

· Mae’r cyfranogwyr lleiaf egnïol yn cysylltu eu ‘profiad’ o GOGA yn gryf â chynnydd yn eu lefelau gweithgarwch corfforol. Dywed 69% eu bod wedi dod yn fwy egnïol, ac ar gyfer y grŵp hwn, mae dros naw o bob deg (91%) yn priodoli hyn i’w profiad o GOGA.


At hynny, mae’r cynnydd mewn ymgysylltu â gweithgarwch corfforol yn dod â manteision lles eraill y mae Llywodraeth y DU yn nodi eu bod yn hanfodol mewn gwelliannau iechyd ehangach ar lefel gymunedol leol. Dangosodd canfyddiadau gwerthuso Cam 1 GOGA hefyd:

· Yn achos y rhai lleiaf egnïol, bu cynnydd ystadegol arwyddocaol yn y sgôr gyfartalog o foddhad bywyd, a ph’un a yw cyfranogwyr yn credu bod eu bywyd yn werth chweil ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen GOGA. Mae lefel hapusrwydd hefyd wedi codi yn dilyn cyfranogiad yn GOGA, ac mae’r sgôr pryder cyfartalog cymedrig (allan o 10) wedi gostwng.

· Mae’r rhai sydd ag anableddau hefyd yn dangos tueddiadau cadarnhaol tebyg yn eu hymdeimlad o les.


Mae canlyniadau’r rhaglen hon a’r dull gweithredu parhaus, yn parhau i fod yn berthnasol o ystyried y ffocws a nodwyd gan y llywodraeth yn ei Chynllun Gweithredu i Adfer Iechyd Meddwl a Lles ar ôl Covid-19 a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2021. Yn ystod yr adferiad sy’n dilyn Covid, mae rhaglenni fel GOGA yn bwysicach fyth o ran cefnogi oedolion sy’n agored i niwed, pobl anabl a rhai nad ydynt yn anabl.


Gan adeiladu ar sylfaen gref GOGA, mae ail gam y rhaglen hon eisoes yn cael effaith gadarnhaol gref yn lleol ac yn genedlaethol. Mae dull cydweithredol parhaus Wavehill ac Active Alliance yn parhau i ddatgelu mewnwelediadau newydd o’i ddulliau monitro a gwerthuso, sy’n caniatáu i’r rhaglen fynd o nerth i nerth yn ei gallu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl anabl anweithgar a phobl nad ydynt yn anabl ledled y DU.

Nododd Simon Tanner, Rheolwr Prosiect ar gyfer gwerthusiad GOGA:

“Fel partneriaid gwerthuso, mae Wavehill yn falch o fod yn aelod mor agos a gwerthfawr o’r rhaglen uchelgeisiol hon. Mae cyfuno naws dysgu lleol â goruchwylio’r rhaglen genedlaethol wedi galluogi mwy o fewnwelediadau a dysgu ar y cyd ar gyfer cleientiaid, rhanddeiliaid, partneriaid prosiect a chyllidwyr ledled y DU. Mae’r ddolen adborth barhaus yn parhau i helpu’r rhaglen i wella ac esblygu i gefnogi pobl anweithgar ledled y DU. Mae wedi herio ein tîm gwerthuso i feddwl yn galed am sut i gyflwyno canfyddiadau yn y ffordd fwyaf defnyddiol, fel y gall y rhai sy’n cyflwyno’r rhaglen eu defnyddio mor hawdd â phosibl. Mae wedi bod yn wers wych i ni, ac edrychwn ymlaen at fireinio ein dull gweithredu ymhellach wrth i Gam 2 GOGA barhau.”


Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda â Simon Tanner



bottom of page