"Gadewais gyda llais": Pobl ifanc yn dathlu llwyddiant wrth i'r rhaglen gyflogaeth gynnig mwy na swydd iddynt.
- Endaf Griffiths
- Jul 22, 2024
- 2 min read

Mae Wavehill wedi bod yn cynnal gwerthusiad annibynnol o raglen Twf Swyddi Cymru+ (JGW+), sy'n rhan o Warant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru. Wedi'i lansio ym mis Ebrill 2022 (yn wreiddiol i weithredu tan 2026), mae JGW+ wedi anelu at wella rhagolygon cyflogadwyedd a lles pobl ifanc 16 i 19 oed sy'n cael eu hadnabod fel rhai sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) wrth ymuno â'r rhaglen.
Mae JGW+ yn cynnig hyfforddiant, datblygiad a chymorth cyflogadwyedd wedi'i deilwra, gan roi'r sgiliau, cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfranogwyr i symud ymlaen i gyflogaeth, prentisiaethau neu addysg uwch. Mae'r rhaglen hefyd o fudd i gyflogwyr drwy ddarparu cymhorthdal cyflog o hyd at 50% o gostau cyflogaeth person ifanc ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y chwe mis cyntaf.
Mae ein gwerthusiad yn canolbwyntio ar ddarpariaeth, perfformiad a chanlyniadau'r rhaglen, gan adolygu data i sefydlu fframwaith ar gyfer gwerthuso effaith. Bydd y canfyddiadau a'r gwersi a ddysgwyd o'r gwerthusiad hwn yn llywio polisi a datblygiad rhaglenni yn y dyfodol. Mae'n adeiladu ar waith gwerthuso blaenorol yr ydym wedi'i wneud gan gynnwys Twf Swyddi Cymru yn 2016 a Thwf Swyddi Cymru 2 yn 2020, rhagflaenydd JGW+.
Mae'r gwerthusiad interim yn adrodd canlyniadau trawiadol. O'r cyfranogwyr a arolygwyd, nododd 95% eu bod wedi gwella rhagolygon cyflogaeth ar ôl cwblhau'r rhaglen ac roedd 93 y cant yn teimlo mwy o siawns o gael cyflogaeth barhaol. Dywedodd cyflogwyr fod cymhorthdal JGW+ wedi galluogi nhw i gyfranogi i’r rhaglen ac i rai, roedd y cymorthdal wedi eu galluogi i gyflogi aelod o staff. Roedd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn teimlo bod JGW+ yn cwrdd eu hanghenion.
Nododd 82% o'r cyfranogwyr a arolygwyd fod y lwfans hyfforddi wedi lleihau pwysau ariannol. Cafodd y rhaglen effaith gadarnhaol hefyd ar iechyd meddwl a boddhad bywyd, gyda 82% o'r cyfranogwyr yn teimlo'n fwy bodlon gyda'u bywydau ac 81% yn nodi eu bod yn hapusach.
Ar ben hynny, cyflawnodd 68% o'r cyfranogwyr ganlyniadau cadarnhaol o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen cyflogaeth ieuenctid, gan drosglwyddo i ddysgu, cyflogaeth neu brentisiaethau lefel uwch. Rhannodd un cyfranogwr, "Maen nhw wedi fy nghael i mewn gyda CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc) ac wedi fy helpu i ddod o hyd i sgiliau cymdeithasol, wedi rhoi llawer o hyder i mi, ac fe wnes i adael gyda llais."
Mae gwerthusiad Wavehill yn tanlinellu llwyddiant rhaglen JGW+ wrth gefnogi pobl ifanc ledled Cymru, gan roi sgiliau a chyfleoedd hanfodol iddynt ar gyfer dyfodol mwy disglair. Ymhlith y cyfranogwyr, roedd naw o bob deg yn teimlo bod cefnogaeth JGW+ wedi cyrraedd neu fynd tu hwnt i’w disgwyliadau tra bod tri chwarter yn teimlo nad oedd modd gwella’r gefnogaeth.
Edrychwn ymlaen at gyhoeddi ein hadroddiad gwerthuso terfynol yng Ngwanwyn 2025.