top of page
  • Ioan Teifi

Mae'r sector menter gymdeithasol yng Nghymru yn parhau i dyfu mewn cryfder.

Ers 2014, mae Cwmpas sy'n darparu'r rhaglen Busnes Cymdeithasol Cymru, wedi comisiynu Wavehill i gynnal arolwg mapio bob dwy flynedd o'r sector busnes cymdeithasol yng Nghymru. Mae pwrpas yr ymarfer mapio yn ddeublyg:

  • i ddeall maint a graddfa'r sector busnes cymdeithasol

  • i gynnal archwiliad iechyd o'r sector, gan gynnwys nodi rhai o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r sector.

Mae ein hymchwil ddiweddaraf yn dangos cryfder a gwydnwch busnesau cymdeithasol yng Nghymru yn 2022. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried yr heriau a wynebodd pob busnes yn ystod y pandemig Covid-19. Mae'r adroddiad a gafodd ei ryddhau'n ddiweddar yn dangos bod y sector yn cefnogi'r adferiad o Covid yng Nghymru. Yn arbennig, mae cynnydd o 22% wedi bod yn nifer y busnesau cymdeithasol yn y sector ers 2020 a chynnydd yng nghyfanswm cyflogaeth o 16%.

Mae ein cyfraniad hirsefydlog o ran mapio'r sector wedi ein galluogi i feithrin dealltwriaeth gref o fusnesau cymdeithasol yng Nghymru dros bron i ddegawd. Mae ein dull yn cynnwys dau prif gweithgaredd:

  1. gweithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid allweddol i adnabod busnesau sy'n gweithredu yn y sector. Mae hyn yn rhan bwysig o’r broses fapio gan nad oes ffordd hawdd o adnabod busnesau cymdeithasol.

  2. cynnal arolwg o'r sector gyda chyfweliadau manwl wedi'u cynllunio i archwilio maint, cwmpas ac iechyd y sector.

Mae'r gweithgaredd mapio yn rhoi mewnwelediad pwysig i helpu i lywio'r sector ar adeg dyngedfennol yn ei ddatblygiad. Mae'r adroddiad yn gwneud argymhelliad i fynd i'r afael â heriau allweddol i helpu'r sector i dyfu mewn cryfder fel y gallant barhau i gefnogi'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Am fwy o wybodaeth am ein gwaith mapio cysylltwch ag Endaf Griffiths ac Ioan Teifi.

bottom of page