Lleoedd Lleol ar gyfer Natur: gwerthuso sut mae natur yn cefnogi’r gymuned a lles
- Endaf Griffiths

- Jul 10
- 2 min read

Lansiwyd rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (LPfN) yn 2020 i helpu cymunedau ledled Cymru i gael mynediad at ‘natur ar eu stepen drws’. Mae’r rhaglen wedi canolbwyntio ar greu mannau sy’n cefnogi natur o fewn cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd trefol ac ar gyrion trefi, gyda ffocws arbennig ar ardaloedd sydd â mynediad cyfyngedig at natur, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig. Nid yw LPfN wedi bod yn rhagnodol ynghylch yr hyn y dylai ei gefnogi, ond yn hytrach wedi hyrwyddo dull ‘dan arweiniad y gymuned’.
Ers sefydlu’r rhaglen, mae Wavehill wedi cynnal cyfres o werthusiadau annibynnol i ddangos effaith gymdeithasol a chymunedol y rhaglen hon. Fel rhan o’n gwerthusiad parhaus, datblygwyd damcaniaeth newid i ddeall yn well sut mae’r rhaglen yn darparu buddion i gymunedau lleol.
Canfyddiadau’r adroddiad
Mae’r adroddiad yn tynnu ar ystod o ddata allbwn o’r gwahanol gynlluniau sy’n rhan o LPfN. Mae hyn yn cynnwys:
nifer y mannau gwyrdd newydd a grëwyd, megis gerddi cymunedol a mentrau plannu coed
nifer y gwirfoddolwyr a gymerodd ran mewn prosiectau a ariannwyd
Mae’r ffigurau hyn yn helpu dangos graddfa ac ystod gweithgareddau’r rhaglen.
Cyfleoedd ymgysylltu
Mae prosiectau a ariannwyd gan LPfN hefyd wedi cyfrannu at ac alluogi lefelau uwch o ymgysylltiad cymdeithasol. Mae hyn yn cael ei ddangos drwy:
brosiectau sydd wedi adeiladu partneriaethau â sefydliadau lleol, gan gryfhau ac ehangu effaith a chynaliadwyedd y sefydliadau hynny
cyfranogwyr sydd wedi adrodd profiadau cadarnhaol, yn enwedig o ran ymgysylltiad cymunedol a lles, gyda llawer yn nodi gwelliannau mewn iechyd meddwl a chydlyniant cymdeithasol
Mae ein dadansoddiad o adroddiadau prosiectau a chyfweliadau gyda staff cyflenwi yn amlygu bod perchnogaeth gymunedol gref a chydweithrediad yn ganolog i gyflawni’r prosiectau.
Gan mai adroddiad interim yw hwn, mae’r casgliadau’n rhai dros dro a gallant esblygu wrth i ni barhau i gasglu mwy o ddata a mewnwelediadau o brosiectau ledled Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at rannu canfyddiadau pellach yn y gwerthusiad terfynol.




