top of page

A allai Gwerthuso Realistaidd ein Cynorthwyo i Ddeall Gwleidyddiaeth?

  • Writer: Endaf Griffiths
    Endaf Griffiths
  • 3 days ago
  • 1 min read

Rwyf wedi bod yn cynnal gwerthusiadau gan ddefnyddio dull gwerthuso realistaidd (realist evaluation) yn ddiweddar. Yn hytrach na gofyn yn syml “Ydy hyn yn gweithio?”, mae’r dull yma yn gofyn tri chwestiwn allweddol: Beth sy’n gweithio? I bwy? Ac o dan ba amgylchiadau? Mae’r ffocws ar ddeall y mecanweithiau sylfaenol (sut a pham mae rhywbeth yn gweithio) a’r cyd-destunau sy’n sbarduno neu’n rhwystro’r mecanweithiau hynny. Rwy’n credu ei fod yn ddull sy’n ein helpu i fynd y tu hwnt i adnabod canlyniadau arwynebol ac i ddeall beth sy’n gyrru newid mewn gwirionedd. 


Wrth edrych ar ganlyniadau’r is-etholiad yng Nghaerffili y bore yma (24/10/25), y cwestiynau amlwg i’w gofyn yw: sut a pham y digwyddodd hynny? Colled gyntaf i Lafur yn yr ardal ers can mlynedd, gyda Phlaid Cymru’n ennill 47% o’r bleidlais a throfaint record. Yn amlwg, nid yw hyn yn rhywbeth rwyf wedi’i archwilio ac felly ni allaf ateb y cwestiynau hynny. Ond mae’n ymddangos i mi y byddai dull realistaidd yn ffordd ddiddorol o geisio gwneud hynny. A yw’r pleidiau gwleidyddol yn gwneud unrhyw beth yn wahanol? Efallai. A yw hynny’n dylanwadu ar sut y pleidleisiodd pobl? Efallai. Ond yr hyn rwy’n credu sydd wedi newid yn sicr yw’r cyd-destun lle mae pobl yn penderfynu dros bwy i bleidleisio — a pham. 


Cyd-destun + Mecanwaith = Canlyniad (CMC) 

 
 
bottom of page