top of page

Ailymweld ag effaith S4C

  • Rhys Maher
  • Nov 6
  • 3 min read

Dwy flynedd yn ôl, comisiynwyd Wavehill i gynnal asesiad effaith o weithgareddau S4C dros flwyddyn ariannol 2022/23. Roedd cwmpas yr asesiad yn eang, gan ystyried effeithiau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol y darlledwr. Dangoswyd bod S4C yn sefydliad angori craidd ar gyfer y sector creadigol yng Nghymru, yn cefnogi swyddi ledled y wlad, yn sicrhau enillion da ar gyllid ffi’r drwydded, ac yn cydweithio ag ystod eang o fusnesau a sefydliadau i gefnogi ac ehangu presenoldeb y Gymraeg.


Ar ôl sefydlu llinell sylfaen o effeithiau S4C yn ein hadroddiad cychwynnol, rydym bellach wedi diweddaru’r asesiad drwy edrych ar weithgareddau’r darlledwr yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25. Mae’r astudiaeth ddiweddaraf yn dangos bod S4C yn parhau i gomisiynu ystod eang o gynnwys o ansawdd uchel ac yn creu effaith gadarnhaol ledled Cymru, hyd yn oed mewn cyfnod anwadal yn nhirwedd y cyfryngau a chyllid.


Mae S4C wedi bod yn gweithredu mewn amgylchedd ariannol heriol, gyda thwf chwyddiant yn fwy na thwf ei chyllideb, gan arwain at ostyngiad mewn termau real yn y cyllid o ffioedd trwydded yn 2024/25 o’i gymharu â 2022/23. Yn fewnol, mae’r darlledwr hefyd wedi profi nifer o newidiadau sy’n berthnasol i feintioli ei effaith economaidd, gan gynnwys lansiad Cronfeydd Cynnwys a Thwf gan S4C Masnachol, sy’n ceisio cefnogi prosiectau uchelgeisiol sy’n ategu nodau strategol hirdymor S4C neu sydd â’r potensial i apelio at gynulleidfaoedd rhyngwladol.


Gan fod y rhan fwyaf o gynnwys S4C yn cael ei gomisiynu’n allanol, roedd yn hanfodol deall sut roedd eu gwariant a’u gweithrediadau yn effeithio ar eu cyflenwyr, gan gynnwys sector cynhyrchu cyfryngau annibynnol Cymru. Drwy ddadansoddi data gwariant manwl gan S4C, bu modd mapio sut roedd y gwariant yn cylchredeg o amgylch economïau Cymru a’r DU, er mwyn meintioli’r effaith ar dwf busnesau a swyddi. Er mwyn deall y newid yn y ffordd y mae’r darlledwr yn creu effeithiau economaidd, buom yn cydweithio ag S4C i ddiweddaru ein fframwaith asesu effaith economaidd, er mwyn dal y newidiadau hyn yn fanwl.


Diagram yn amlinellu'r gwahanol ffyrdd y mae S4C yn creu effaith economaidd. Mae'r diagram yn cynnwys effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac ysgogedig yn ogystal ag effeithiau sy'n deillio o'u buddsoddiadau.

Aeth ein dull ymhell tu hwnt i fân ddiweddariadau i’n fframwaith effaith economaidd, gyda’n hymchwil effaith gymdeithasol yn canolbwyntio’n benodol ar bartneriaethau strategol S4C. Drwy gyfres o astudiaethau achos, rydym wedi amlinellu’r ffyrdd y mae S4C yn darparu cyngor a chymorth ariannol, ac yn ymestyn gwerth y cynnwys y maent eisoes wedi’i gomisiynu er mwyn sicrhau effeithiau cymdeithasol cadarnhaol ac ehangach. Mae’r effeithiau hyn wedi cynnwys uwchsgilio’r gweithlu creadigol yng Nghymru, cefnogi newydd-ddyfodiaid tu ôl a thu blaen y sgrin, ehangu cynrychiolaeth cymunedau Cymru a’r Gymraeg, a chreu ystod o adnoddau addysgol i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg.


Mae’r astudiaeth hon hefyd yn cynnwys asesiadau effaith economaidd o gynyrchiadau unigol a gomisiynwyd gan S4C, gan gynnwys Y Llais (Boom), Gogglesbocs Cymru (Chwarel a Chwmni Da), a Heno/Prynhawn Da (Tinopolis), yn ogystal ag asesiadau effaith o rai o’r buddsoddiadau cynnar a wnaed gan S4C a S4C Masnachol.


Roedd ein hymchwil ar gyfer 2024/25 yn ceisio deall eto’r effaith economaidd a chymdeithasol y mae S4C yn ei chynhyrchu, gan ganolbwyntio ar sut y gallai’r effeithiau hyn fod wedi newid ers sefydlu’r llinell sylfaen yn ein hadroddiad cychwynnol. Mae rhai o ganfyddiadau allweddol ein hymchwil i’w gweld yn y darlun isod.


Infograffeg yn amlygu rhai o brif ganfyddiadau’r adroddiad. Y canfyddiad yw bod cyfraniad economaidd cyffredinol S4C yng Nghymru wedi cefnogi 2,500 o swyddi a 150.3 miliwn o bunnoedd mewn gwerth ychwanegol gros.

Mae gweithio gyda S4C wedi ein galluogi i adeiladu ar ein record cryf o gydweithio â sefydliadau i arddangos eu heffaith. Mae ein cynnig ymchwil unigryw yn ystyried y cyd-destun y mae sefydliad yn gweithredu ynddo, er mwyn datblygu dull ymchwil pwrpasol a chynllun i arddangos yr effeithiau cadarnhaol y maent yn eu creu.


Os hoffech ragor o wybodaeth am waith ymchwil Wavehill, gan gynnwys ein hasesiadau effaith economaidd-gymdeithasol, cysylltwch â Rhys Maher neu Michael Pang.


 
 

Related Posts

bottom of page