top of page

Edrych yn ôl ar werthusiad y rhaglen Dyfodol Gwledig: beth a ddysgwyd, a pham ei fod yn dal i fod yn bwysig

  • Writer: Wavehill
    Wavehill
  • Mar 4
  • 4 min read

Ym mis Gorffennaf 2024 cyhoeddwyd gwerthusiad terfynol y rhaglen Dyfodol Gwledig, buddsoddiad o £2 filiwn dros saith mlynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau sy’n wynebu tlodi gwledig ledled Cymru. Bellach, tua blwyddyn a hanner yn ddiweddarach, mae’n teimlo fel adeg briodol i fyfyrio ar yr hyn a ddywedodd y gwerthusiad hwnnw wrthym - a pham mae ei ganfyddiadau’n parhau i atseinio.


Adroddiad Llun Clawr

Yn ei hanfod, roedd Dyfodol Gwledig yn ymwneud â meithrin capasiti, nid atebion cyflym. Wedi’i chyflwyno rhwng 2017 a 2024 gan Severn Wye a Phartneriaeth BRO, bu’r rhaglen yn gweithio’n ddwys gyda 14 o gymunedau oedd wedi derbyn ychydig iawn neu ddim cyllid Loteri o’r blaen.


Treuliodd Cydlynwyr Lle amser yn meithrin ymddiriedaeth, yn cefnogi pobl leol i nodi blaenoriaethau, ac yn helpu cymunedau i symud o drafod i weithredu. Canfu’r gwerthusiad fod y dull hwn yn llwyddiannus: datblygodd cymunedau sgiliau, hyder ac ysgogiad, ac aeth y rhan fwyaf ymlaen i sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau dan arweiniad lleol.


Negeseuon allweddol y gwerthusiad

  • Mae ‘cydlynwyr lle’ medrus yn hanfodol i ddatgloi gweithredu cymunedol. Mae cymorth allanol yn gweithio orau pan mae’n ategu i arweinyddiaeth leol ac yn ehangu ymgysylltiad i ran ehangach o’r gymuned.

  • Mae ‘prynu i mewn’ gan y gymuned yn amod hollbwysig ar gyfer llwyddiant. Roedd cynnydd yn dibynnu ar unigolion lleol ymroddedig, perchnogaeth ar y cyd, a pharodrwydd o fewn cymunedau i ymgysylltu â’r broses.

  • Nid oes model “un ateb i bawb”. Bu cymunedau’n symud ymlaen ar gyflymderau gwahanol ac angen gwahanol fathau o gymorth, gan bwysleisio pwysigrwydd hyblygrwydd wrth ddylunio a chyflwyno rhaglenni.

  • Mae datblygu cymunedau’n ddwys o ran adnoddau ac yn cymryd amser. Cofnodwyd miloedd o ymgysylltiadau, y rhan fwyaf ohonynt drwy ryngweithio parhaus ar raddfa fach.

  • Gall gwaith sy’n seiliedig ar le liniaru effeithiau tlodi gwledig. Bu cryfhau rhwydweithiau cymdeithasol, gwella mynediad at fannau a rennir, a meithrin hyder yn helpu cymunedau i ddod yn fwy gwydn.

  • Mae meddwl yn y tymor hwy yn bwysig. Mae’r gwerthusiad yn tynnu sylw at werth amserlenni realistig, meini prawf dethol cliriach, a rhyw fath o gymorth dilynol ysgafn i gynnal cynnydd.


Amlygodd y gwerthusiad pa mor ddwys o ran adnoddau yw datblygu cymunedau’n effeithiol. Bu miloedd o ymgysylltiadau drwy gydol oes y rhaglen, y rhan fwyaf ohonynt wyneb yn wyneb neu mewn grwpiau bach. Roedd cynnydd yn edrych yn wahanol mewn gwahanol leoedd ac yn aml yn cymryd mwy o amser nag a ddisgwylid — rhywbeth a waethygwyd gan bandemig COVID-19 a’r argyfwng costau byw. Nid oedd un “model” unigol y gellid ei gymhwyso ym mhobman. Roedd hyblygrwydd, amynedd a hwyluso medrus yn hanfodol.


Daeth rôl ganolog y Cydlynwyr Lle i’r amlwg yn gryf. Roedd eu gallu i wrando, cyfryngu, cysylltu pobl a sefydliadau, ac addasu dulliau i gyd-destunau lleol yn un o’r prif resymau dros lwyddiant y rhaglen. Fodd bynnag, mae’r gwerthusiad yn ofalus i bwysleisio bod y rôl hon yn gweithio orau pan oedd yn ategu, yn hytrach na disodli, arweinyddiaeth a chymhelliant lleol. Mae hyn yn arwain at oblygiadau pwysig ar gyfer rhaglenni’r dyfodol: rhaid i fuddsoddi mewn pobl fedrus fynd law yn llaw â meddwl yn ofalus am ddethol cymunedau, eu parodrwydd, a’r amodau sydd eu hangen i’r cymorth wreiddio.


Un o’r gwersi cliriaf o’r gwerthusiad oedd nad yw darparu Cydlynydd Lle ar ei ben ei hun yn ddigonol. Roedd cynnydd yn dibynnu i’r un graddau ar bresenoldeb prynu i mewn lleol ac unigolion ymroddedig o fewn cymunedau. Lle’r oedd pobl yn barod i ymgysylltu, cymryd perchnogaeth a gweithio ar y cyd, gellid troi’r cymorth a ddarparwyd yn gweithredu. Lle’r oedd y sylfaen hon yn wannach, roedd cynnydd yn arafach. Mae canlyniadau fel cynyddu capasiti a phartneriaethau effeithiol yn dibynnu ar amodau galluogi allweddol, gan gynnwys parodrwydd cymunedol, ymddiriedaeth a pherchnogaeth ar y cyd o’r broses.


Yn bwysig, heriodd y canfyddiadau hefyd rai tybiaethau ynghylch tlodi gwledig. Yn amlach na pheidio, blaenoriaethodd cymunedau faterion yn ymwneud â mynediad at wasanaethau, asedau a mannau a rennir, yn hytrach nag incwm yn unig. Er bod mynd i’r afael ag achosion strwythurol tlodi yn gofyn am weithredu ar lefel polisi, helpodd y rhaglen gymunedau i liniaru ei effeithiau — drwy leihau unigrwydd, cryfhau rhwydweithiau cymdeithasol, a chreu lleoedd a phartneriaethau a all gefnogi gweithredu yn y dyfodol.


Wrth edrych yn ôl, roedd y gwerthusiad yn onest ynghylch cyfyngiadau a risgiau. Trodd cefnogi llai o gymunedau nag a gynlluniwyd yn wreiddiol yn benderfyniad cywir. Mae cwestiynau’n parhau ynghylch cynaliadwyedd tymor hir a beth sy’n digwydd unwaith y daw cymorth dwys i ben. O ganlyniad, gwnaeth yr adroddiad argymhellion clir ynghylch amserlenni hirach, meini prawf dethol cliriach, a gwerth cymorth dilynol ysgafn.


Ddeunaw mis yn ddiweddarach, mae’r gwersi hynny’n teimlo mor berthnasol ag erioed. Wrth i gyllidwyr, llunwyr polisïau a sefydliadau cyflenwi barhau i ymdrin â’r ffordd orau o gefnogi cymunedau gwledig, mae’r rhaglen Dyfodol Gwledig yn cynnig sail dystiolaeth gref ar gyfer yr hyn sy’n gweithio — ac yn atgoffa bod newid parhaol yn dibynnu ar gymorth allanol medrus a pherchnogaeth leol wirioneddol.


Ceir rhagor o wybodaeth am raglen Dyfodol Gwledig a chopi o’r adroddiad gwerthuso yma: Rural Futures – Severn Wye


I gael rhagor o wybodaeth am y gwerthusiad hwn, cysylltwch ag Endaf Griffiths – endaf.griffiths@wavehill.com


 
 

Related Posts

bottom of page