top of page
  • Simon Tanner & Andy Parkinson

Adeiladu’r sylfaen dystiolaeth o ran rhagnodi cymdeithasol

Beth yw rhagnodi cymdeithasol?

Mae pobl yn wynebu mwy o bwysau ac o ansicrwydd yn eu bywyd bob dydd. Dengys tystiolaeth fod tua 20% o gleifion yn ymgynghori â’u meddyg teulu ynghylch materion sy’n broblemau cymdeithasol yn bennaf. Yn ogystal, mae cyfyngiadau amseroedd aros ac adnoddau ar y GIG yn golygu bod cael cymorth amserol yn fwyfwy heriol. Gan weithio gyda meddygon teulu, mae rhagnodi cymdeithasol yn darparu offer a chyfleoedd i helpu gyda phroblemau iechyd a lles na ellir eu datrys drwy fodel meddygol yn unig.


Mae rhagnodi cymdeithasol yn fodel cyfannol sy’n edrych ar y ffordd ehangach y gallai ein hamgylchedd a’n hamgylchiadau effeithio ar ein hiechyd, gan gynnwys materion fel cyllid, diffyg cysylltiadau cymdeithasol, ac amgylcheddau cartref heriol. Yn ei dro, mae’n galluogi unigolion i fanteisio ar weithgareddau a allai helpu i hybu eu hiechyd a’u lles, drwy ganolbwyntio ar yr heriau ehangach hyn. Gellir cael cymorth drwy grwpiau cymunedol a gwirfoddol sy’n galluogi unigolion i wirfoddoli, dysgu, cymryd rhan mewn chwaraeon neu’r celfyddydau. Gall y canlyniad gynnwys deilliannau iechyd a lles ataliol, ac adweithiol. Wrth wraidd hyn, mae rhagnodi cymdeithasol yn grymuso unigolion i reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain, drwy eu galluogi i ddewis gweithgareddau sy’n cefnogi eu hanghenion a’u diddordebau.

Pa werth mae rhagnodi cymdeithasol yn ei ddarparu?

Mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg y gall rhagnodi cymdeithasol arwain at amrywiaeth o ganlyniadau iechyd a lles cadarnhaol i bobl, megis gwell ansawdd bywyd a lles emosiynol.

O safbwynt polisi, ni ddylid diystyru gwerth rhagnodi cymdeithasol. Mae wedi’i gynnwys yng Nghynllun Hirdymor y GIG, ac mewn mentrau allweddol eraill gan y llywodraeth gan gynnwys Strategaeth Unigrwydd y llywodraeth, y Cynllun Amgylcheddol 25 Mlynedd, ac Adferiad ar ôl Covid. Mewn adolygiad tystiolaeth yn ddiweddar, priodolwyd rhagnodi cymdeithasol i ostyngiad o 28% yn y defnydd o feddygon teulu a 24% yn y defnydd o Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Ac eto, wrth wraidd hyn, mae rhagnodi cymdeithasol yn ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac sy’n darparu cymorth wedi’i deilwra’n bersonol, ac mae iddo nifer o fanteision, sy’n amrywio o iechyd meddwl gwell i safon uwch o wydnwch cymunedol.

Pa enghreifftiau o ragnodi cymdeithasol sydd ar waith?

Mae’r wythnos hon yn wythnos rhagnodi cymdeithasol. Yn Wavehill rydym wedi bod yn myfyrio ar yr effeithiau trawsnewidiol y gall presgripsiynau cymdeithasol eu cael ar unigolion a’u cymunedau, rhywbeth rydym wedi’i weld â’n llygaid ein hunain yn ystod ein gwaith gwerthuso. Drwy ddeall y cysylltiad sydd rhwng iechyd a lles, gallwn asesu beth all manteision ac effeithiau hirdymor rhagnodi cymdeithasol fod. Mae hyn yn seiliedig ar ein profiad o werthuso ystod eang o brosiectau ar draws gwahanol fathau o ymyriadau amserol, gydag unigolion a chymunedau ledled y DU, dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r ymyriadau’n amrywio ar gyfer chwaraeon ac ymyriadau corfforol fel rhaglen genedlaethol yr Activity Alliance. Mae’r rhaglen hon yn dod â phobl ag anableddau a heb anableddau at ei gilydd drwy fentrau chwaraeon cymunedol ledled y DU. Gan weithio gyda phartneriaid cyflawni Get Out Get Active (GOGA), mae’r rhaglen, ers ei sefydlu yn 2016, wedi gweld cynnydd ystadegol arwyddocaol yn nifer y cyfranogwyr sy’n nodi eu bod yn teimlo mwy o foddhad mewn bywyd, a mwy o ymdeimlad fod eu bywyd yn werth chweil, ac wedi nodi gostyngiad mewn lefelau pryder.

Mae deall y cyd-destun lleol a chenedlaethol yn hanfodol. Mae’r rhaglen Thriving Communities yn darparu ymyriadau lleol gan gymunedau lleol ledled y DU. Rydym yn cynnal ymchwil ar draws 36 o brosiectau a ariennir yng Nghymru a Lloegr, er mwyn deall a dangos y cyfraniad y maent wedi’i wneud i ddarparu gweithgareddau rhagnodi cymdeithasol yn eu hardaloedd lleol, a’r manteision a gronnwyd. Mae safbwynt lleol hefyd yn hanfodol. Yn Northumberland, er enghraifft, rydym yn gwerthuso 5 prosiect peilot sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwell gweithgareddau rhagnodi cymdeithasol i unigolion â chyflyrau niwroamrywiol a chyflyrau iechyd meddwl.

Mae grymuso a galluogi pobl i reoli eu hiechyd a’u lles drwy ymyriadau amserol yn dod yn fwy poblogaidd ymhlith sefydliadau lleol a chenedlaethol ledled y DU, yn ogystal â chyda llunwyr polisi. Mae Wavehill yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth sy’n dangos yr effaith gadarnhaol y mae rhagnodi cymdeithasol yn ei chael ar unigolion a chymunedau.

bottom of page