Adolygiad Digidol o Sefydliadau Diwylliannol – Cyfweliadau â Rhanddeiliaid
- Wavehill

- Jun 1
- 5 min read
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal adolygiad digidol o sefydliadau diwylliannol. Nod yr adolygiad hwn yw deall gweithgarwch digidol, sgiliau a gallu ar draws sefydliadau diwylliannol. Mae Wavehill hefyd yn cynnal prosiect ar wahân ar weithlu’r sector diwylliannol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Lle bo’n berthnasol, gall gwybodaeth ddienw o’r cyfweliad hwn hefyd gael ei rhannu gyda’r prosiect hwnnw er mwyn llywio ei fewnwelediadau neu ei ddadansoddiad.
Fel rhan o'r adolygiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau. Rydych wedi cael eich adnabod fel un o'r canlynol; Uwch arweinydd mewn sefydliad cenedlaethol; arweinydd digidol; neu randdeiliad strategol.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil hon. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir trwy'r cyfweliadau.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Wavehill yw Michael Pang
Cyfeiriad e-bost: Michael.pang@wavehill.com
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodydd’.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal adolygiad digidol o sefydliadau diwylliannol. Nod yr adolygiad hwn yw deall gweithgarwch digidol, sgiliau a gallu ar draws sefydliadau diwylliannol. Mae gan Wavehill eich manylion cyswllt oherwydd:
Mae Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo manylion cyswllt sydd ganddynt amdanoch oherwydd eich bod yn rhanddeiliad allweddol yn y maes polisi hwn.
Mae Wavehill eisoes yn cadw eich manylion cyswllt at ddibenion eraill
Mae eich manylion cyswllt wedi’u cael drwy wybodaeth ar-lein sydd ar gael yn gyhoeddus.
Mae cyswllt cychwynnol ar gyfer yr ymchwil yn eich sefydliad wedi trosglwyddo’ch manylion fel rhywun sy’n fwy addas i gymryd rhan yn yr ymchwil.
Rydych wedi dilyn dolen a rannwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys mewn cylchlythyrau rydych wedi tanysgrifio iddynt.
Yn ogystal â’ch manylion cyswllt, gall y data canlynol gael ei gasglu a allai, ar y cyd, eich adnabod:
Enw eich sefydliad; a
Eich rôl broffesiynol (lle bo’n berthnasol i ddehongli ymatebion)
Bydd y data hwn ond yn cael ei ddefnyddio at ddibenion dadansoddi er mwyn rhoi cyd-destun i ymatebion. Ni fydd unrhyw wybodaeth a allai adnabod cyfranogwyr unigol yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad terfynol.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol, ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan nac i dderbyn nodiadau atgoffa, atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Bydd Wavehill ond yn defnyddio cyfeiriad e-bost a rhif ffôn at ddibenion yr adolygiad hwn.
Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â’ch adnabod o’r ymatebion nac i gysylltu eich hunaniaeth â’r ymatebion a ddarperir gennych.
Hoffem recordio cyfweliadau yn sain am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i’r cyfweliad ddechrau, a bydd gennych gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i’r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei dynnu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau’n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi’i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu recordio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys yn ysgrifen y cyfweliad, a bydd nodiadau a baratoir yn ystod y cyfweliad yn cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses ysgrifennu wedi’i chwblhau.
Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn trosglwyddo’r cais i’r swyddog perthnasol yn unig ac yna’n ei ddileu o’r data ymchwil.
Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data?
Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; sef arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gellir defnyddio’r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:
Dadansoddi capasiti, heriau a chyfleoedd digidol ar draws y sector;
Datblygu canfyddiadau ac argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru;
Llywio datblygiad polisi a phenderfyniadau ynghylch cymorth a buddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer digidol mewn diwylliant a gweithlu’r sector diwylliannol yng Nghymru.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer gyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn sydd â mynediad at y data. Bydd Wavehill yn defnyddio’r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan Wavehill dystysgrif Cyber Essentials.
Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad diogelwch data yn digwydd, bydd Wavehill yn adrodd hyn i Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle bo’n ofynnol yn gyfreithiol.
Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth a allai adnabod cyfranogwyr unigol.
Am ba hyd rydym yn cadw eich data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, ac unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi’i dynnu bydd yn cael ei ddileu gan Wavehill o fewn chwe wythnos i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Eich hawliau
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r adolygiad hwn, yn benodol mae gennych yr hawl i:
Gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
Ofyn inni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
Wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
I’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau); a
I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, cysylltwch â:
Enw: Catrin Hughes
Cyfeiriad e-bost: Catrin.hughes@gov.wales
Rhif ffôn: 03000625758
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.
Int. Ref. 920-25


