top of page
  • Wavehill

Gwerthoedd Wavehill sy'n pennu ein hymagwedd

Mae Wavehill yn cynnig dull gwahanol, gwybodus sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, gwerthoedd a chymuned. Mae hyn yn hanfodol i'r ffordd rydym yn gweithredu ac yn sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn adeiladu ein perthynas â'n staff, gyda'n cleientiaid, ein partneriaid, a rhanddeiliaid eraill.

Gyda ffocws ar ddeall eich gofynion, mae ein hymagwedd gydweithredol yn eich galluogi i wneud penderfyniadau gwell, mwy gwybodus trwy ein hymchwil cymdeithasol ac economaidd annibynnol. Rydym yn ceisio adeiladu partneriaethau hirhoedlog gyda chi, fel y gallwn gydgynhyrchu canlyniadau cryfach gyda'n gilydd. Mae hyn yn ein galluogi i fynd y tu hwnt i'r disgwyl i ddod yn bartner gwerthfawr sy'n darparu gwasanaeth eithriadol i chi.

Fel cwmni sy'n eiddo i'r gweithwyr, mae ein staff yn rhan bwysig o'r broses gwneud penderfyniadau strategol. Yn ei dro, mae hyn wedi arwain at lefelau uwch o ymgysylltu â staff a gwell atebolrwydd ar draws pob rhan o'r busnes. Mae hefyd wedi galluogi staff i rannu ein llwyddiant yn well.


Mae ein gwerthoedd yn canolbwyntio ar bum piler craidd

  • Buddsoddi mewn pobl, cymunedau a newid

  • Ychwanegu gwerth trwy dystiolaeth fanwl a mewnwelediad

  • Arloesi a gwelliant parhaus

  • Siarad eich iaith

  • Gwneud gwahaniaeth drwy fod yn wahanol



Related Posts

bottom of page