top of page

Adolygiad o Ddarpariaeth Drydyddol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg- Hybysiad Preifatrwydd

  • Writer: Wavehill
    Wavehill
  • May 15
  • 5 min read

Pwyntiau allweddol:

1.    Eich dewis chi yw cymryd rhan yn yr ymchwil yma – does dim rhaid i chi.

2.    Gallwch hepgor unrhyw gwestiwn

3.    Gallwch stopio ar unrhyw adeg

4.    Ni fydd unrhyw beth rydych chi'n ei ddweud yn cael ei rannu mewn ffordd sy'n eich adnabod chi


1. Pwy ydym ni

Mae Wavehill yn gwmni ymchwil annibynnol sy’n cynnal ‘Adolygiad o Ddarpariaeth Drydyddol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg’. Mae’r adolygiad wedi’i gomisiynu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Coleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Catholig Dewi Sant, ac mae’n rhedeg o fis Mai i fis Awst 2026.

 

Wavehill yw’r rheolwr data ar gyfer y gweithgareddau ymchwil y mae’n eu cynnal. Ein cyfeiriad cofrestredig yw 21 Sgwâr Alban, Aberaeron, Ceredigion SA46 0DB, ac rydym wedi’n cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’r sefydliadau comisiynu yn gweithredu fel rheolwyr data ar wahân ar gyfer y data y maent yn ei ddarparu o dan eu swyddogaethau statudol.


Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod Wavehill yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth rydych yn ei darparu’n uniongyrchol fel rhan o’r ymchwil, tra bod ysgolion, colegau a chynghorau yn parhau’n gyfrifol am yr wybodaeth sydd ganddynt eisoes amdanoch chi ac y maent yn ei rhannu gyda ni.

 

2. Beth mae’r hysbysiad hwn yn ei gynnwys

Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, defnyddio, storio a diogelu gwybodaeth bersonol oddi wrth bawb sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil. Mae hyn yn cynnwys:

 

  • dysgwyr cyn-16 (Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11) a’u rhieni neu ofalwyr

  • dysgwyr ôl-16 mewn chweched dosbarth ysgolion, Coleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Catholig Dewi Sant, a dysgwyr mewn dysgu oedolion a chymunedol, ESOL a llwybrau prentisiaethau

  • staff ysgolion, colegau a darparwyr

  • cyflogwyr, swyddogion cyngor a rhanddeiliaid ehangach

 

Mae’r ymchwil yn defnyddio arolygon ar-lein, grwpiau ffocws ar-lein ac wyneb yn wyneb, cyfweliadau lled-strwythuredig, a dadansoddi data disgyblion, cyrsiau a chyrchfannau a rennir gan ysgolion, colegau a’r awdurdodau lleol.

 

3. Pa wybodaeth a gasglwn

Mae’r wybodaeth a gasglwn yn dibynnu ar sut rydych yn cymryd rhan.

 

Mae'r rhan fwyaf o'r ymchwil yn ddienw. Rydym yn casglu gwybodaeth a allai eich adnabod mewn sefyllfaoedd penodol yn unig (er enghraifft cyfweliadau neu raffl gwobrau), ac rydym yn cadw hyn ar wahân i'ch ymatebion.


Arolygon ar-lein.

Mae arolygon yn ddienw. Rydym yn gofyn am safbwyntiau a phrofiadau, ynghyd â nifer fach o fanylion cefndir (er enghraifft grŵp blwyddyn, math o ddarpariaeth, ardal eang preswyl) er mwyn deall patrymau ar draws gwahanol grwpiau o ddysgwyr. Nid ydym yn gofyn am eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni na’ch manylion cyswllt fel rhan o’r arolwg ei hun.

 

Enwau a manylion cyswllt ar gyfer gwobrau a chymhellion.

Pan fo arolwg neu elfen arall o’r ymchwil yn cynnwys gwobr neu gymhelliant, byddwn yn gofyn am enw a manylion cyswllt i’w gweinyddu. Cesglir y manylion hyn ar wahân i ymatebion yr ymchwil, drwy ffurflen neu dudalen ar wahân, fel na ellir cysylltu’ch atebion â chi fel unigolyn. Defnyddir y manylion hyn at ddiben gweinyddu’r wobr neu’r cymhelliant yn unig ac fe’u dileir ar ôl hynny.

 

Grwpiau ffocws a chyfweliadau

Rydym yn casglu eich enw, y sefydliad neu’r ysgol yr ydych yn gysylltiedig â hi a’ch rôl. Rydym yn recordio’r drafodaeth ar sain er mwyn ei thrawsgrifio’n gywir. Caiff recordiadau eu dileu ar ôl gwirio’r trawsgrifiad.

 

Data disgyblion, cyrsiau a chyrchfannau.

Rydym yn gweithio gydag ysgolion, colegau, awdurdodau lleol, Estyn a Medr i gael mynediad at ddata lefel disgybl ar gofrestriadau, cadw, cyflawniad, cyrchfannau a chynnydd. Lle rhennir y data hwn gyda Wavehill, caiff ei rannu mewn ffurf wedi’i ffug-enwi (heb ddynodwyr uniongyrchol) lle bynnag y bo’n bosibl. Lle rhennir data adnabyddadwy, fe’i defnyddir yn unig i lunio’r dadansoddiad ac ni chânt eu hadrodd mewn modd a allai adnabod unigolyn.

 

Cofnodion caniatâd.

Ar gyfer grwpiau ffocws a chyfweliadau rydym yn cadw cofnod o’r caniatâd a roddir gan bob cyfranogwr (ac, ar gyfer plant dan 16 oed, gan riant neu ofalwr).

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol.

 

4. Pam rydym yn ei gasglu a’n sail gyfreithiol

Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnal yr ymchwil a gomisiynwyd i ni, ac i sicrhau bod y canfyddiadau’n adlewyrchu profiadau dysgwyr, rhieni, darparwyr a chyflogwyr ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Ein sail gyfreithiol o dan UK GDPR yw:

  • Buddiannau dilys (Erthygl 6(1)(f)) ar gyfer cyfranogiad oedolion. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnal yr ymchwil yma oherwydd ei fod er budd y cyhoedd ac yn helpu i wella gwasanaethau addysg.

  • Caniatâd (Erthygl 6(1)(a)) ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 16 mewn grwpiau ffocws a chyfweliadau, ac ar gyfer gwobrau.

  • Tasg gyhoeddus (Erthygl 6(1)(e)) ar gyfer data a rennir gan awdurdodau lleol a cholegau. Mae ysgolion, colegau a chynghorau yn rhannu rhywfaint o ddata gyda ni oherwydd bod yn ofynnol iddynt wneud hynny fel rhan o'u rôl swyddogol.

 

 

Ar gyfer data sensitif (e.e. anabledd, anghenion dysgu ychwanegol neu ethnigrwydd), rydym yn dibynnu ar Erthygl 9(2)(j) ar gyfer ymchwil er budd y cyhoedd, gyda mesurau diogelu priodol.

 

5. Gwybodaeth am blant a phobl ifanc

Gall rhai cyfranogwyr fod o dan 16 oed. Yn yr achosion hyn:

  • dosberthir arolygon drwy’r ysgol

  • caiff offer ymchwil eu cymeradwyo gan yr ysgol ymlaen llaw

  • trefnir grwpiau ffocws drwy’r ysgol neu’r coleg

  • ceisir caniatâd ysgrifenedig gan riant/gofalwr

  • gall pobl ifanc beidio ag ateb unrhyw gwestiwn neu dynnu’n ôl ar unrhyw adeg

  • ni roddir gwybodaeth adnabod i’r ysgol, coleg na’r teulu

 

6. Sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i:

  • ddadansoddi patrymau a themâu

  • ysgrifennu adroddiadau ategol

  • llywio argymhellion ar gyfer darpariaeth ôl-16

 

Adroddir ar arolygon yn gryno. Defnyddir dyfyniadau heb enwi oni nodir yn wahanol ymlaen llaw.

 

7. Gyda phwy rydym yn ei rannu

Rydym yn rhannu allbynnau ymchwil gyda’r pedwar partner comisiynu. Nid yw’r rhain yn cynnwys gwybodaeth adnabod.

 

Nid ydym yn gwerthu nac yn rhannu data personol, heblaw pan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Rydym yn defnyddio offer trydydd parti diogel (e.e. arolygon a thrawsgrifio), sydd wedi’u rhwymo gan gontractau diogelu data.

 

8. Sut rydym yn ei storio a’i ddiogelu

Cedwir gwybodaeth ar systemau diogel yn y DU neu’r AEA. Mae mynediad yn gyfyngedig i’r tîm ymchwil.

 

Cedwir recordiadau, ffurflenni caniatâd a manylion cyswllt ar wahân. Defnyddir sianeli diogel ar gyfer trosglwyddo data.

 

9. Am ba mor hir rydym yn ei gadw

  • dileir recordiadau sain o fewn tri mis

  • cedwir caniatâd a manylion tan ddiwedd yr ymchwil

  • dileir manylion gwobrau ar ôl eu gweinyddu

  • cedwir data dienw am hyd at ddwy flynedd

 

Cedwir data disgyblion am y cyfnod lleiaf angenrheidiol yn unig ac fe’i dileir yn ddiogel wedi’r astudiaeth.

 

10. Eich hawliau

O dan UK GDPR, mae gennych hawl i:

  • ofyn am eich data

  • cywiro gwybodaeth anghywir

  • gofyn am ei ddileu

  • gwrthwynebu’r defnydd

  • tynnu’n ôl

 

Gallwch dynnu’n ôl hyd at bythefnos ar ôl cymryd rhan. Gallwch gwyno i’r ICO: ico.org.uk neu 0303 123 1113.

 

11. Yr iaith Gymraeg

Gallwch gymryd rhan a gofyn am wybodaeth yn Gymraeg neu Saesneg. Caiff y ddwy iaith eu trin yn gyfartal.

 

12. Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiynau:


Endaf Griffiths, Rheolwr Prosiect, Wavehill. endaf.griffiths@wavehill.com

 Ymholiadau cyffredinol: wavehill@wavehill.com

 Neu cysylltwch â’r cleient comisiynu: Abbie Marks, Cyngor Caerdydd. Abigail.Marks@cardiff.gov.uk

 

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf ar 21 Mai 2026.

 

 

Int. Ref. 953-26

 

 

 
 
bottom of page