Adolygiad o Weithlu'r Sector Diwylliant yng Nghymru – Cyfweliadau â Rhanddeiliaid
- Wavehill

- Jun 26
- 5 min read
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill, ar y cyd â Counterculture, i gynnal adolygiad o weithlu’r sector diwylliant yng Nghymru. Nod yr adolygiad yw darparu dealltwriaeth gynhwysfawr ar draws y sector o’r gweithlu presennol ac yn y dyfodol, yn ogystal â’r dirwedd sgiliau o fewn y sector diwylliant yng Nghymru. Nod yr ymchwil yw nodi a mynd i’r afael â bylchau yn yr ymchwil a’r data presennol er mwyn adeiladu darlun cyffredinol, cyfredol o weithlu’r sector, a all lywio cynllunio strategol a gweithredu polisïau. Mae Wavehill hefyd yn cynnal prosiect ar wahân ar adolygiad digidol o sefydliadau diwylliannol yng Nghymru ar gyfer Llywodraeth Cymru. Os yw’n berthnasol, gall gwybodaeth ddienw o’r cyfweliad hwn gael ei rhannu â’r prosiect hwnnw i lywio ei fewnwelediadau neu ei ddadansoddiad.
Fel rhan o’r adolygiad hwn, bydd Wavehill, ar y cyd â Counterculture, yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil hon. Fodd bynnag, bydd Wavehill, ar y cyd â Counterculture, yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy’r cyfweliadau.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill, Counterculture a Llywodraeth Cymru.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Wavehill yw Andy Parkinson
Cyfeiriad e-bost: Andy.parkinson@wavehill.com
Rhif ffôn: 0330 1228658
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR) fel “unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill, â Counterculture, i gynnal adolygiad o weithlu’r sector diwylliant yng Nghymru. Nod yr adolygiad hwn yw sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr, draws-sector o’r gweithlu presennol a’r gweithlu yn y dyfodol, yn ogystal â’r dirwedd sgiliau o fewn y sector diwylliant yng Nghymru. Mae gan Wavehill eich manylion cyswllt oherwydd:
Mae Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo manylion cyswllt sydd ganddi ar eich cyfer gan eich bod yn randdeiliad allweddol yn y maes polisi hwn.
Mae Wavehill eisoes yn cadw eich manylion cyswllt at ddibenion eraill
Cafwyd eich manylion cyswllt drwy wybodaeth gyhoeddus sydd ar gael ar-lein.
Mae cyswllt cychwynnol ar gyfer yr ymchwil o fewn eich sefydliad wedi trosglwyddo eich manylion fel rhywun mwy addas i gymryd rhan yn yr ymchwil.
Yn ogystal â’ch manylion cyswllt, mae’n bosibl y caiff y data canlynol eu casglu a allai, gyda'i gilydd, eich adnabod:
enw eich sefydliad; a
eich rôl broffesiynol (lle bo hynny’n berthnasol i ddehongli ymatebion).
Bydd canfyddiadau yn cael eu hadrodd mewn ffurf ddienw. Gellir defnyddio dyfyniadau mewn adroddiadau ond ni fyddant yn cael eu priodoli i unigolion wrth enw. Mewn rhai achosion, gellir defnyddio disgrifiadau eang (e.e. “cynrychiolydd awdurdod lleol”).
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn atgoffa, atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu tynnu. Bydd Wavehill ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn at ddibenion yr adolygiad hwn.
Os dewiswch ddarparu data personol ychwanegol fel rhan o’r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â’ch adnabod ohono nac i gysylltu eich hunaniaeth â’r ymatebion a ddarparwch.
Bwriedir recordio cyfweliadau at ddibenion gweithredol. Bydd hyn yn cael ei egluro cyn dechrau’r cyfweliad, a chewch gyfle i nodi os nad ydych yn cydsynio i’r recordiad. Os caiff y cyfweliad ei recordio, caiff unrhyw ddata personol ei ddileu yn ystod y broses drawsgrifio.
Bydd y recordiadau yn cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi’i chwblhau. Os nad yw trafodaethau’n cael eu recordio, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys yn y nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau.
Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen dim ond i’r swyddog perthnasol ac yna’n ei ddileu o’r data ymchwil.
Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?
Y sail gyfreithiol dros brosesu’r data yw cyflawni tasg gyhoeddus, sef arfer awdurdod swyddogol Llywodraeth Cymru i gyflawni ei swyddogaethau craidd.
Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil o’r fath yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gellir defnyddio’r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:
datblygu adolygiad seiliedig ar dystiolaeth o weithlu’r sector diwylliant ledled Cymru, gan gynnwys staff, contractwyr, gweithwyr llawrydd a gwirfoddolwyr.
casglu data ar ddemograffeg y sector, sgiliau, cymwysterau, cymhellion, profiadau ac anghenion y gweithlu ar draws y sector.
archwilio anghenion a gallu sefydliadau o fewn y sector sy’n cyflogi neu’n ymgysylltu â gweithwyr diwylliannol.
mapio strwythurau ac anghydraddoldebau daearyddol yn y dosbarthiad o’r gweithlu a nodi lle mae bylchau’n bodoli ar hyn o bryd.
nodi heriau a rhwystrau e.e. prinder sgiliau, tâl isel, heriau recriwtio, ymgysylltu a chadw gwirfoddolwyr, a gallu’r iaith Gymraeg.
paratoi adroddiad gwerthuso terfynol a fydd yn helpu i lywio polisi Llywodraeth Cymru ynghylch y sector diwylliant yng Nghymru, yn ogystal â’i gapasiti digidol.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Cedwir yr holl ddata personol ar weinyddion diogel. Dim ond ymchwilwyr awdurdodedig sy’n gweithio ar y prosiect sydd â mynediad at y data. Bydd Wavehill yn defnyddio’r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan Wavehill ardystiad ‘Cyber Essentials’.
Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriad data diogelwch a amheuir. Os bydd toriad data a amheuir, bydd Wavehill yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae gofyniad cyfreithiol i wneud hynny.
Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth a allai adnabod unigolion.
Am ba hyd rydyn ni’n cadw eich data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi’i ddileu yn cael ei ddileu gan Wavehill o fewn chwe wythnos i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.
Bydd Wavehill yn darparu fersiwn ddienw o’r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod.
Eich Hawliau
O dan UK GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu fel rhan o’r adolygiad hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawl:
I gael mynediad i gopi o'ch data eich hun;
I ni gywiro unrhyw anghywirdebau yn y data hwnnw;
I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
I’ch data gael ei “ddileu” (mewn rhai amgylchiadau); ac
Wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sy’n ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk
Gwybodaeth Bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Enw: Aimee Timm
Cyfeiriad e-bost: Aimee.Timm@gov.wales
Rhif ffôn: 03000252838
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.
Int. Ref. 936-26


