top of page
  • Writer's pictureWavehill

Ailddatblygu Canolfan Cwm Taf

Mae Wavehill yn cynnal arolwg efo fusnesau canol Tref Pontypridd. Mae'r wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i werthuso ailddatblygiad gwerth £38 miliwn dan arweiniad swyddfa RCT CBC o’r hen ganolfan siopa Cwm Taf. Derbyniodd y prosiect £10 miliwn o gefnogaeth o Lywodraeth Cymru trwy'r rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol sy'n cynnwys Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd (ERDF) gwerth £7 miliwn gan Raglen ERDF Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, Amcan Penodol 4.4 - i gynyddu cyflogaeth trwy fuddsoddiadau mewn isadeiledd lleol sy'n cefnogi strategaeth economaidd ranbarthol neu drefol. Bydd y gwerthusiad yn asesu effeithiolrwydd y datblygiad yn erbyn nodau'r prosiect, yn ogystal â nodau ehangach y rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol a Rhaglen ERDF Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, Amcan Penodol 4.4.

Defnyddir y data a gesglir yma i ddeall sut mae canfyddiadau o ganol y dref wedi newid efo’r ailddatblygiad.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil yn wirfoddol. Gallwch benderfynu peidio â chymryd rhan cyn neu yn ystod y cyfweliad a gallwch ddewis peidio ag ateb rhai cwestiynau os yw'n well gennych. Ni chasglir unrhyw wybodaeth bersonol, ac ni fydd eich atebion yn gysylltiedig â chi mewn unrhyw ffordd.

Cyfrinachedd

Bydd y data a gesglir yn cael ei storio’n ddiogel ar ein systemau (Wavehill) am tua chwe mis ar ôl i ddiwedd yr ymchwil (rhagwelir mai tua Hydref 2021 fydd hyn). Bydd unrhyw sylwadau a wnewch yn gyfrinachol a dim ond yn cael ei defnyddio ar gyfer ddibenion y gwerthusiad yma. Ni fydd eich sylwadau yn cael eu priodoli i chi oni bai eich bod yn rhoi caniatâd penodol i ni wneud hyn. Mae hyn yn golygu y bydd yn amhosib i unrhyw un eich adnabod o unrhyw adroddiadau cyhoeddedig oherwydd bydd y wybodaeth yn ddienw.

Mae'n hefyd pwysig nodi nad yw'r tîm sy'n cynnal yr astudiaeth yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf nac unrhyw un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â chyflawni neu ariannu'r prosiect hwn. Gwerthusiad annibynnol yw hwn.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech drafod unrhyw elfen o'r gwerthusiad, gallwch gysylltu â Tom Marshall sy'n arwain tîm Wavehill sy'n cynnal y gwerthusiad (tom.marshall@wavehill.com | 01545 571711) neu, gallwch gysylltu ag Andrea Virgo, Arweinydd Prosiect y Tîm Ffyniant a Datblygiad efo Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl: ​

  • I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

  • I’w gwneud yn ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gywiro unrhyw gamgymeriadau sydd yn y data.

  • I wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) neu gyfyngu ar brosesu.

  • I’ch data gael ei ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau).

Cysylltwch ag Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf os ydych yn dymuno gwneud unrhyw un o’r pethau hyn mewn perthynas â’r prosiect hwn.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, neu drwy’r wefan www.ico.gov.uk, neu ysgrifennwch at: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

bottom of page