top of page
  • Wavehill

Cymunedau Gwyrdd Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Staff Rheoli a Chyflawni

Sut rydym yn cadw ac yn prosesu eich gwybodaeth


Mae Wavehill wedi'u penodi gan Gadwyn Clwyd i gynnal gwerthusiad o'r prosiect Cymunedau Gwyrdd. Tasg allweddol y gwerthusiad yw mesur gwerth, effaith ac effeithiolrwydd y prosiect.

Hoffem siarad ag aelodau o’r tîm rheoli a darparu i gael adborth ar sut maent yn teimlo am eu profiad gyda Chymunedau Gwyrdd a beth fu effeithiau’r cymorth arnynt. Mae’r rheolwr y prosiect efo Cadwyn Clwyd wedi rhoi eich enw a'ch manylion cyswllt i ni.

Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio. Cedwir unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir fel rhan o'r gwerthusiad yn gyfrinachol. Ni fydd eich ymatebion yn y cyfweliad yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd a allai arwain i rywun i adnabod chi. Bydd Wavehill yn cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y wybodaeth ond ni fydd hwn yn adnabod unrhyw unigolion.


Mae hefyd yn bwysig i nodi nad yw'r tîm sy'n cynnal y gwerthusiad yn gweithio i Cadwyn Clwyd nac unrhyw un o'r sefydliadau sy'n ymwneud â chyflwyno neu ariannu'r prosiect hwn. Gwerthusiad annibynnol yw hwn.

Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth a ddarperir gennych a'r holl ddata personol sy'n ymwneud â'r ymchwil hwn o fewn chwe mis i ddiwedd y gwerthusiad.


Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y gwerthusiad, mae croeso i chi gysylltu â Sam Grunhut, sy'n arwain y gwerthusiad (sam.grunhut@wavehill.com) neu Haf Roberts, arweinydd y prosiect efo Cadwyn Clwyd (haf.roberts@cadwynclwyd.co.uk).

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl i:

  • Cael mynediad at eich data personol a gedwir gan y prosiect Cymunedau Gwyrdd

  • Ei gwneud yn ofynnol i staff cyflawni Cymunedau Gwyrdd gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw.

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data (o dan rai amgylchiadau).

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu'

Cysylltwch â Haf Roberts os ydych am wneud unrhyw un o'r pethau hyn mewn perthynas â'r prosiect hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â’ch data, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheolydd annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy’r wefan www.ico.org.uk, neu ysgrifennu at: Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

Gwybodaeth bellach

Pam mae'r ymchwil hwn yn digwydd?

Comisiynwyd Wavehill gan Gadwyn Clwyd i gynnal astudiaeth ymchwil a gwerthuso o'u Prosiect Cymunedau Gwyrdd. Mae Cymunedau Gwyrdd yn brosiect datblygu seilwaith gwyrdd a chynaliadwy sy’n gweithredu ar draws ardal fudd Cadwyn Clwyd. Fel rhan o'r amod ariannu, mae'n rhaid cynnal gwerthusiad annibynnol i nodi arfer gorau a helpu dysgu ac etifeddiaeth y prosiect i lywio darpariaeth yn y dyfodol.

Mae gan y tîm Cymunedau Gwyrdd ddiddordeb yn effeithiau'r prosiect gan gynnwys yr unigolion sy'n cyflwyno'r rhaglen hon a ariennir, gan gynnwys adborth ar eu profiad a'u barn ar yr holl brosiect, yn ogystal â mewnwelediad i ble y gellid gwella pethau.

Pa fath o wybodaeth a gesglir trwy'r arolwg?

Mae'r arolwg yn canolbwyntio ar farn am sut mae Cymunedau Gwyrdd wedi cael eu darparu ac unrhyw ganlyniadau canfyddedig o ganlyniad i'r prosiect.

Beth yw data personol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain i adnabod person naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. eu henw, eu cyfeiriad, neu fanylion sy'n benodol i'r person hwnnw.

Am ba mor hir y bydd data personol yn cael ei gadw?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ond bydd yn ei ddileu chwe mis ar ôl diwedd y contract.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu'r eich ymatebion i’r cyfweliad?

Mae gwerthusiad y prosiect Cymunedau Gwyrdd yn galluogi Cadwyn Clwyd i ddeall a yw'r prosiect yn gweithio'n effeithiol. Fe'i defnyddir felly i gefnogi gweithgareddau o fewn tasg gyhoeddus yr awdurdodau lleol. Hynny yw, rôl a swyddogaethau craidd yr awdurdodau lleol. Er enghraifft, efallai y bydd y wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio:

  • Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i'r Prosiect Cymunedau Gwyrdd

  • Penderfynu a ddylai prosiectau fel Cymunedau Gwyrdd barhau yn y dyfodol

  • Deall y dulliau gorau o greu ffyrdd newydd o weithio, partneriaethau newydd, a modelau datblygu newydd.

Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal gan Wavehill ar ran Cadwyn Clwyd. Mae eich cyfranogiad unigol yn yr ymchwil yn wirfoddol.

Beth yw pwrpas prosesu eich atebion i'r cyfweliad?

Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Bydd y data yn cael ei ddadansoddi i alluogi Cadwyn Clwyd i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y Prosiect Cymunedau Gwyrdd. Bydd hyn yn helpu Cadwyn Clwyd i benderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i'r Prosiect Cymunedau Gwyrdd ac i sefydlu a yw'r prosiect hwn yn gallu darparu mewnwelediad newydd i sut y gellir gwella datblygiad gwyrdd. Ni chaiff y data ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.

Pwy sydd â mynediad at y data personol a gasglwyd drwy'r cyfweliad?

Bydd gan Wavehill gopi o'r data personol i'w alluogi i gynnal y cyfweliad.

Bydd yr ymatebion i'r cyfweliad yn cael eu dadansoddi gan ymchwilwyr yn Wavehill i gynhyrchu adroddiad ar gyfer Cadwyn Clwyd. Ni fydd yr adroddiad hwn yn nodi unrhyw unigolion sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil ac ni chaiff y nodiadau eu rhannu â Chadwyn Clwyd, nac unrhyw un arall y tu allan i Wavehill. Bydd Wavehill yn dileu'r holl ddata personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect. Ni fydd Cadwyn Clwyd yn cael mynediad at ddata personol a gesglir drwy’r cyfweliadau.

bottom of page