top of page

Defnydd y Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol- Archwilio Safbwyntiau Rhanddeiliaid

  • Writer: Wavehill
    Wavehill
  • 1 day ago
  • 4 min read

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble y daeth y wybodaeth hon?

Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr'.


Darparwyd enwau cyswllt a chyfeiriadau e-bost darpar gyfwelwyr i Wavehill ac IAITH gan Dîm Polisi Gofal Sylfaenol Llywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru fanylion y rhanddeiliaid hyn oherwydd eu rôl wrth gefnogi, darparu neu gyfrannu at y sector gofal sylfaenol yng Nghymru. Bydd Wavehill ac IAITH yn defnyddio eich manylion cyswllt i drefnu cyfweliad neu grŵp ffocws.


Nid yw'r gwaith hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych ar wahân i'ch delwedd os ydych chi'n cytuno i gyfweliad neu grŵp ffocws gael ei recordio fideo.


Rydym am recordio cyfweliadau a grwpiau ffocws am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad neu'r grŵp ffocws ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i roi gwybod i ni os nad ydych yn gyfforddus gyda'r drafodaeth yn cael ei recordio. Os recordir cyfweliadau a grwpiau ffocws, bydd data personol yn cael ei waredu yn ystod y broses drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chofnodir trafodaethau, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu ar ôl y cyfweliadau a'r grwpiau ffocws.


Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu am dderbyn negeseuon atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahodd neu rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a ddarperir a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion y prosiect ymchwil hwn y bydd Wavehill ac IAITH yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost.


Os ydych chi'n codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.


Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.


Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth weithredadwy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellir defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr astudiaeth hon, er enghraifft, i:

  • gael mewnwelediad i sut mae'r dyletswyddau Cymraeg yn cael eu gweithredu ledled Cymru, gan nodi arferion gorau a strategaethau llwyddiannus y gellir eu rhannu ar draws lleoliadau gofal sylfaenol eraill

  • llywio penderfyniadau sy'n arwain at strategaethau a pholisïau mwy effeithiol, gan sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn derbyn gofal parchus ac urddasol.


Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae'r data personol a ddarperir i Wavehill ac IAITH yn cael ei gadw ar weinyddion diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn y gall y data gael ei gyrchu. Bydd eich manylion cyswllt ac unrhyw ddata personol rydych chi'n dewis ei ddarparu yn cael eu storio yn y ffolder gyfyngedig hon. At ddibenion ymchwil yn unig y bydd Wavehill ac IAITH yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ac IAITH ardystiad Cyber Essentials.


Mae gan Wavehill ac IAITH weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion lle yr amheuir bod tor diogelwch data. Os yr amheuir bod achos o dor diogelwch data, yna bydd Wavehill ac IAITH yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd Wavehill ac IAITH yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd, o bosib, yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol. 


Am ba hyd ydyn ni'n cadw eich data personol?

Bydd Wavehill ac IAITH yn cadw data personol yn ystod y contract a bydd unrhyw ddata personol nad yw'n cael ei ddileu eisoes yn ystod y trawsgrifio yn cael ei ddileu gan Wavehill ac IAITH o fewn tri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.


Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r astudiaeth sector gwasanaethau hon, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • Er mwyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);

  • Er mwyn i'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.


Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: https://cy.ico.org.uk/


Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:


Enw: Jacqui Campbell

 

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru 

 

Int. Ref. 870-25


 

 
 
bottom of page