top of page
  • Writer's pictureWavehill

Dyma sut rydym yn cadw ac yn prosesu gwybodaeth amdanoch

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i ymgymryd gwerthusiad o’r rhaglen ‘Dysgu Creadigol Drwy’r Celfyddydau - cynllun gweithredu ar gyfer Cymru' (CLTA). Lansiwyd y cynllun gweithredu ym mis Mawrth 2015, gyda £20 miliwn o arian dros bum mlynedd. Mae'r fenter addysg broffil uchel yma yn cynnwys dau linyn arloesol o weithgaredd addysg: y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol a Chynnig Celfyddydau ac Addysg Cymru Gyfan.

Mae Wavehill wedi ymgysylltu ag ystod o Ysgolion sy'n cymryd rhan yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Darparwyd manylion cyswllt Ysgolion sy'n cymryd rhan yn y Cynllun hwn i Wavehill gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yn y ffurflenni a ddosberthir fel rhan o'r gwerthusiad hwn, gofynnwn am wybodaeth bersonol mewn perthynas ag unigolion sy'n ymwneud â Chynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Bydd Wavehill yn dileu'r wybodaeth a ddarperir a'r holl ddata personol sy'n gysylltiedig â'r ymchwil hwn chwe mis ar ôl diwedd y gwerthusiad.

Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw'r tîm sy'n ymgymryd â'r gwerthusiad yn gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru nac unrhyw un o'r sefydliadau eraill sy'n ymwneud â chyflwyno neu ariannu'r rhaglen hon. Mae hwn yn werthusiad annibynnol.

Os hoffech wybodaeth bellach am yr astudiaeth, cysylltwch ag Endaf Griffiths ar endaf.griffiths@wavehill.com neu Lucy Davies ar lucy.davies@wavehill.com neu ar 01545 571711. Y person cyswllt am Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer yr ymchwil hon yw Sian James at Sian.James@arts.wales.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data newydd, mae gennych yr hawl: ​

  • ​I gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Cyngor Celfyddau Cymru

  • I’w gwneud yn ofynnol i Sian James gywiro unrhyw gamgymeriadau sydd yn y data.

  • I wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) neu gyfyngu ar brosesu.

  • I’ch data gael ei ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau).

Cysylltwch ag Sian James os ydych yn dymuno gwneud unrhyw un o’r pethau hyn mewn perthynas â’r prosiect hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, neu drwy’r wefan www.ico.gov.uk, neu ysgrifennwch at: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

Gwybodaeth Bellach

1. Pam mae’r Gwaith ymchwil hwn yn digwydd?

Diben yr ymchwil hon yw gwerthuso'r rhaglen 'Dysgu Creadigol Drwy'r Celfyddydau' i gael gwybodaeth am sut y gall addysgu a dysgu creadigol weithio'n fwyaf effeithiol yng Nghymru i wella cyrhaeddiad a chanlyniadau i ddysgwyr, yn ogystal â datblygu gallu creadigol ysgolion ac athrawon mewn ffyrdd a fydd yn hunangynhaliol.

2. Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu trwy'r ffurflenni a ddosberthir fel rhan o'r gwerthusiad hwn?

Mae'r ffurflenni'n darparu cofnod o bob gweithgaredd ym mhob Ysgol ac yn caniatáu rhannu dysgu allweddol, gan weithredu fel offer parhaus ar gyfer Asiantau Creadigol, athrawon ac Ymarferwyr Creadigol.

Mae'r ffurflenni'n casglu rhywfaint o wybodaeth bersonol mewn perthynas â chyfranogwyr unigol sy'n gysylltiedig â chynllun Ysgolion Arweiniol Creadigol.

3. Beth yw data personnol?

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod person, nail ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd a gwybodaeth arall sydd ar gael yn eang, e.e. enw person, ei gyfeiriad, neu fanylion sy’n benodol am y person hwnnw.

4. Am ba hyd y cedwir data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y cytundeb, ond bydd yn ei ddileu 6 mis ar ôl i’r cytundeb ddod i ben.

5. Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer casglu a phrosesu data a gasglwyd yn yr arolwg?

Mae'r gwerthusiad hwn yn galluogi Cyngor Celfyddydau Cymru i ddeall a yw'r rhaglen 'Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau' yn effeithiol.

Fe'i defnyddir felly i gefnogi gweithgareddau o fewn tasg gyhoeddus Cyngor Celfyddydau Cymru. Er enghraifft, gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir i:

  • Penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i'r rhaglen CLTA

  • I benderfynu a ddylai cynlluniau fel CLTA barhau yn y dyfodol

  • Deall sut y gall addysgu a dysgu creadigol weithio'n fwyaf effeithiol yng Nghymru

6. Beth yw pwrpas prosesu eich atebion i’r cyfweliad?

Defnyddir y data at ddibenion ymchwil a gwerthuso yn unig. Bydd y data yn cael ei ddadansoddi i alluogi Cyngor Celfyddydau Cymru i ddeall effaith ac effeithiolrwydd y rhaglen CLTA. Ni chaiff y data ei ddefnyddio at ddibenion masnachol neu farchnata ac ni chaiff ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi fel unigolyn.

7. Pwy sydd â mynediad at y data personol drwy’r arolwg?

Bydd y wybodaeth bersonol a dderbynnir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cael ei brosesu yn unol â Deddf Diogelu Data y DU 1998. Yr unig bobl a fydd yn gallu defnyddio'r data fydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Wavehill.

Bydd gan Wavehill gofnod o'r ymatebion i'r ffurflen. Bydd y cofnod hwn, ynghyd ag unrhyw nodiadau eraill a ddarperir, yn cael ei ddadansoddi gan ymchwilwyr yn Wavehill i gynhyrchu adroddiad i Gyngor Celfyddydau Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn nodi unrhyw unigolion sy'n cymryd rhan yn y rhaglen. Bydd Wavehill yn dileu pob data personol o fewn chwe mis i ddiwedd y prosiect.

bottom of page