top of page

Mapio Effaith Economaidd a Chymdeithasol: Asesu Gwerth Galeri Caernarfon

  • Writer: Wavehill
    Wavehill
  • 3 days ago
  • 2 min read

Mae yna awydd gynyddol ymhlith sefydliadau ledled y DU i ddeall a dangos yn well yr effaith y maent yn ei gynhyrchu. Gall yr effaith hon ddod yn wahanol ffyrdd, megis eu cyfraniad economaidd, eu heffaith gymdeithasol a'u gwerth i’r ardal leol. O fewn pob un o'r themâu eang hyn, mae sawl llwybr y gall sefydliadau greu effaith. Mae dull Wavehill yn canolbwyntio ar gwmpasu'r gwahanol lwybrau sydd yn gallu arwain at effaith economaidd a chymdeithasol, ac yna datblygu dull sy'n cynhyrchu tystiolaeth sy'n gredadwy ac yn dryloyw yn ei ffynonellau data, rhagdybiaethau a chyfyngiadau. 


Yn ddiweddar, comisiynodd Galeri Caernarfon Wavehill i gynnal asesiad effaith o'u gweithgareddau dros flwyddyn ariannol 2024/25. Ers ei sefydlu yn 1992, mae Galeri wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fywiogrwydd canol tref Caernarfon, gan adnewyddu a rheoli dros 60 uned masnachol a phreswyl gan gynnwys ailddatblygiad diweddar Cei Llechi. O ran ei chyfraniad cymdeithasol, mae Canolfan Menter Greadigol Galeri yn gweithredu fel canolfan gymunedol a diwylliannol i'r dref.


Dechreuon ni ein hasesiad effaith trwy fapio gwahanol lwybrau effaith Galeri, gan edrych ar y ffyrdd uniongyrchol ac anuniongyrchol y maent yn cefnogi gweithgarwch economaidd yn eu hardal leol.


Diagram yn amlinellu'r ffyrdd y mae Galeri Caernarfon yn cynhyrchu effaith economaidd. Mae hyn yn cynnwys eu gwariant ar eu staff, eu gwerthiannau, eu gwariant yn y gadwyn gyflenwi, effaith eu busnesau tenant a gwariant twristiaeth ymwelwyr Galeri.

Mae meintioli a mapio'r effeithiau hyn wedi cynnwys dadansoddiad o ddata staffio, gwariant a gwerthiant tocynnau Galeri ynghyd â setiau data Llywodraeth Cymru i gyfrifo'r effaith ehangach ar gadwyni cyflenwi lleol. Mae hyn wedi ein galluogi i fapio'n ddaearyddol faint o effaith Galeri sy'n cael ei gadw yng Ngwynedd ac Ynys Môn a faint sy'n lledaenu'n ehangach i weddill Cymru a'r DU.


Roedd ein hastudiaeth hefyd yn ceisio meintioli rhai o'r effeithiau cymdeithasol a gynhyrchir gan Galeri Caernarfon. Roedd ein hastudiaeth yn canolbwyntio ar eu digwyddiadau cymunedol cyson mawr: Sbarc, Cain a Chôr Lleisiau Llawen. Gan ddefnyddio cyfuniad o ddata monitro, tystiolaeth gan fynychwyr y digwyddiadau a ‘proxies’ ariannol, rydym wedi amcangyfrif gwerth ariannol eu heffaith gymdeithasol.


Mae'r ffeithlun isod yn crynhoi'r canfyddiadau allweddol o'n hymchwil.


Infograffig sy'n tynnu sylw at brif gasgliadau ein hymchwil gan gynnwys bod Galeri wedi cefnogi 3.39 miliwn o bunnoedd mewn GVA a 100 o swyddi. Mae hyn yn cyfateb i £1.62 am bob £1 a wariwyd gan Galeri.

Yn Wavehill, rydym yn parhau i ddatblygu portffolio helaeth o asesiadau effaith economaidd a chymdeithasol, gan alluogi sefydliadau i ddeall yn well sut maent yn cynhyrchu effaith gan ddefnyddio dull cyson a thryloyw, sy’n caniatau cymariaethau a meincnodi ar gyfer y dyfodol.


Os hoffech ragor o wybodaeth am waith ymchwil Wavehill, gan gynnwys ein hasesiadau effaith economaidd-gymdeithasol, cysylltwch â Rhys Maher neu Michael Pang.


906-25


 
 
bottom of page