top of page
  • Wavehill

Gwerthusiad Partneriaeth Arloesedd Ewropeaidd (EIP) Cymru - aelodau o'r Grŵp Gweithredol EIP

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill, sef ymgynghoriaeth ymchwil gymdeithasol ac economaidd i gynnal gwerthusiad o Gynllun Partneriaeth Arloesedd Ewropeaidd Cymru (EIP). Nod y gwerthusiad hwn yw cwblhau asesiad annibynnol o weithrediad ac effaith y cynllun EIP, ar gyfer gwella’r cynllun a darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau tebyg yn y dyfodol.


Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth trwy arolwg i gael dealltwriaeth o'ch barn a'ch profiad o'r cynllun EIP, eich prosiect EIP, a'i ganlyniadau a'i effeithiau.


Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy arolwg ac yn gwneud y data crai yn ddienw cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.


Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.


Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw: Ioan Teifi

Rhif Ffôn: 02921 202 826



HYSBYSIAD PREIFATRWYDD


Pa ddata personol sydd gennym ni a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?


Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei defnyddio i adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.


Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) i Wavehill. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion fel person sy’n aelod o Grŵp Gweithredol EIP lle mae Datganiad o Ddiddordeb cychwynnol neu gais llawn am gyllid wedi’i wneud drwy gynllun EIP Cymru. Dim ond at ddibenion cysylltu â chi i gymryd rhan mewn arolwg y bydd Wavehill yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn.


Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan ar unrhyw adeg neu dderbyn mwy o e-byst atgoffa, yna ymatebwch i'r e-bost gwahoddiad, neu nodwch fel rhan o gwblhau'r arolwg cyntaf, a bydd eich manylion yn cael eu dileu.No further personal data will be collected during the survey.


Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.


Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?


Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.


Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i:


• Mewn adroddiad gwerthuso yn asesu gweithrediad ac effeithiau'r cynllun EIP yng Nghymru ac a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru

• I hysbysu darpariaeth gwasanaethau neu raglenni yn y dyfodol


Pa mor ddiogel yw eich data personol?


Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Essentials'.


Wrth gynnal arolygon, mae Wavehill yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Qualtrics. Rydym wedi sicrhau bod Qualtrics yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy’r feddalwedd.


Mae gan Wavehill weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os oes amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol o dan y gyfraith i ni wneud hynny.


Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.


Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?


Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu gan Wavehill dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o’r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.


Eich Hawliau fel Unigolyn


O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r ymchwil hwn, mae gennych yr hawl:


  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau);

  • (Mewn rai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu' a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swydddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Rhif Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113. Wefan: www.ico.org.uk


Gwybodaeth Bellach


Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:


Enw: Jessica Gibson

Rhif Ffôn: 03000256855


Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.

bottom of page