top of page
  • Wavehill

Gwerthusiad Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) Cymru

Cyfweliadau a gweithdai efo Staff Rheoli a Chyflenwi

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill, ymgynghoriaeth ymchwil gymdeithasol ac economaidd i gynnal gwerthusiad o gynllun Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) Cymru. Nod y gwerthusiad hwn yw cwblhau asesiad annibynnol o weithrediad ac effaith y cynllun EIP, ar gyfer gwella'r cynllun a darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau tebyg yn y dyfodol.

Fel rhan o’r gwerthusiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau cwmpasu i wella dealltwriaeth Wavehill o’r cynllun a’i gefndir, gweithdai i drafod y fframwaith gwerthuso, a chyfweliadau i archwilio rheolaeth a gweithrediad y cynllun.

Llywodraeth Cymru yw rheolwr data ar gyfer yr ymchwil yma. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir trwy'r cyfweliadau a'r grwpiau ffocws ac yn ddienw'r data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

The contact for this research at Wavehill is Ioan Teifi:

E-mail address: ioan.teifi@wavehill.com

Telephone number: 02921 202 826

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon efo Wavehill yw Ioan Teifi:

Cyfeiriad e-bost: ioan.teifi@wavehill.com

Rhif ffôn: 02921 202 826

DATGANIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym ni a ble rydyn ni'n cael y wybodaeth?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei defnyddio i'w adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, teitl swydd pan fo hynny'n berthnasol) i Wavehill ar gyfer cynnal cyfweliadau a / neu weithdy (au) fel rhan o werthusiad o'r cynllun EIP. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'ch manylion cyswllt oherwydd eich rol â Farming Connect neu gyflawni'r cynllun EIP.

Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol heblaw am eich delwedd os ydych chi'n cytuno i recordiad fideo o unrhyw gyfweliad neu weithdy rydych chi'n cymryd rhan ynddo. Rydyn ni'n dymuno recordio cyfweliadau a gweithdai am resymau gweithredol. Os rydym un recordio, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad neu'r gweithdy ddechrau, a byddwch efo cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Dim ond os mae holl aelodau'r grŵp yn cyutuno i'r recodio y bydd gweithdy'n cael ei recordio. Os cofnodir gweithdai neu gyfweliadau, tynnir data personol yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn ystod neu yn dilyn y gweithdy neu'r cyfweliad.

Gan fod y gwerthusiad yn rhedeg am gyfnod o ddwy flynedd, gellir cysylltu â chi am wahanol ddibenion yn ystod y camau cwmpasu, interim a / neu werthusiad terfynol. Pan gysylltir â chi, bydd y rheswm am yr cyflweliad yn cael ei egluro i chi. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan ar unrhyw adeg neu ddim eisiau derbyn mwy o e-byst yna ymatebwch i'r e-bost gwahoddiadol a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd Wavehill yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.

Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sydd angen ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yn ei ddileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sylfaen gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?

Y sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellir defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:

  • Mewn adroddiad gwerthuso yn asesu gweithrediad ac effeithiau'r cynllun EIP yng Nghymru a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru

  • Llywio darpariaeth gwasanaethau neu raglenni yn y dyfodol

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer gyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ardystiad Cyber Essentials.

Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn riportio hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol trwy'r gyfraith i ni wneud hyn.

Adroddir ar yr holl ddata a gesglir trwy'r ymchwil hon mewn fformat dienw. Ni fydd y data yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod chi mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i nodi cyfranogwyr unigol.

Pa mor hir ydyn ni'n cadw'ch data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i dynnu wrth drawsgrifio tri mis ar ôl i'r contract ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn ddienw o'r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai arwain i rywun i adnabod chi.

Eich hawliau fel unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n

ei darparu fel rhan o'r Gwerthusiad EIP. Mae gennych chi'r hawl:

  • i gyrchu copi o'ch data;

  • Gofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data;

  • (mewn rhai amgylchiadau) Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'r data;

  • (mewn rhai amgylchiadau) ‘Dileu’ eich data; a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk.

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch efo:

Enw: Ben Walkling

Cyfeiriad e-bost: Ben.walkling@gov.wales

Rhif ffôn: 03000256755

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru trwy:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,

bottom of page