top of page
  • Wavehill

Gwerthusiad Cydweithrediad a Chynllun Datblygu'r Gadwyn Gyflenwi (CSCDS): Datganiad Hygyrchedd

Cynlluniwyd yr arolwg hwn gan Wavehill Cyf. a'i adeiladu yn Qualtrics. Mae Wavehill yn gwmni ymchwil cymdeithasol ac economaidd sy'n cydnabod pwysigrwydd darparu gwefan, offer arolwg a fformatau cyfathrebu sy'n hygyrch i bob defnyddiwr. Mae Qualtrics yn ddarparwr blaenllaw o offer arolygu sy'n casglu mewnwelediadau gan bobl ledled y byd.

I gael rhagor o wybodaeth am hygyrchedd wefan Wavehill, gweler Datganiad Hygyrchedd gwefan Wavehill.

​Nodweddion hygyrch yn ein harolwg

​Fel rhan o'r broses ddylunio, rydym wedi ystyried egwyddorion dylunio cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Defnyddio paled lliw sydd wedi'i optimeiddio i fodloni safonau AAA

  • Cael hypergysylltiadau defnyddiol a phriodol

  • Sicrhau defnydd priodol o Alt Text ar draws yr arolwg

Mae'r ymarferoldeb canlynol wedi'i chynnwys yr arolwg:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau

  • Y gallu i chwyddo i mewn i'r testun hyd at 400% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin a heb i'r cynnwys gael ei gwtogi na gorgyffwrdd

  • llywio'r rhan fwyaf o'r arolwg gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

  • llywio'r rhan fwyaf o'r arolwg gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais

  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r arolwg gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Pa mor hygyrch yw'r arolwg hwn?

Gan ddefnyddio offer Adolygiad Arbenigol Qualtrics, rydym wedi asesu’r cwestiynau a ofynnwyd yn yr arolwg hwn ac wedi penderfynu bod y rhan fwyaf o gwestiynau’n cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.0 safonau hygyrchedd AA.


Mae nifer fach o gwestiynau blwch testun penagored a chwestiynau arddull tabl matrics nad ydynt yn cydymffurfio'n llawn. Maent wedi'u cynnwys oherwydd y data yr ydym yn edrych i'w gasglu ond maent yn ddewisol i ddefnyddwyr eu cwblhau.


Adborth a gwybodaeth gyswllt.

​ Os nad ydych yn gallu cwblhau’r arolwg neu os hoffech ffordd arall o gynnal yr arolwg, er enghraifft galwad ffôn, gallwch gysylltu efo ni:

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r arolwg hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd yr arolwg hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â enquiry@wavehill.com.


Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr arolwg hwn

  • Rydym yn ymdrechu i'r arolwg hwn gydymffurfio â safonau Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).

  • Rydym yn profi ein cwestiynau arolwg gan ddefnyddio'r swyddogaeth Adolygiad Arbenigol o fewn Qualtrics yn ogystal â'r canllawiau WCGA diweddaraf sydd ar gael, y gellir eu defnyddio'n briodol ar gyfer yr arolwg hwn.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Adolygwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 9 Chwefror 2023.

bottom of page