top of page
  • Wavehill

Gwerthusiad o Fusnesau a Gefnogwyd gan ERDF – Arolwg Busnesau


Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o gefnogaeth ERDF ar gyfer Busnes yng Nghymru yn ystod y cyfnod rhaglen 2014–2020. Mae’r rhaglenni gweithredol ERDF wedi’u cynllunio i gyfrannu tuag at dwf clyfar, cynaliadwy a chynhwysol, a thuag at gydlyniant economaidd, cymdeithasol a thiriogaethol. Nod y rhaglenni yw helpu i fynd i’r afael â gwendidau hirdymor yn economi Cymru tra’n adeiladu ar gryfderau tiriogaethol.

Nod y gwerthusiad yw ymchwilio’r deilliannau a gyflawnwyd gan y busnesau a dderbyniodd gymorth gan y Rhaglenni. At hynny, bydd y gwerthusiad hefyd yn hwyluso ymchwiliad i’r cwestiwn o a yw’r ymyriadau a ariennir gan y Rhaglenni yn cael effaith, ac os felly, i ba raddau. Fel rhan o’r gwerthusiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth drwy arolwg gydag unigolion o fusnesau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy brosiectau a ariennir gan ERDF. Gwahoddir cyfranogwyr i gwblhau’r arolwg naill ai ar-lein neu drwy gyfweliad ffôn. Cynhelir yr arolwg gan Winning Moves ar ran Wavehill.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil hwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn copi o’r data a gesglir gan Wavehill a Winning Moves. Fodd bynnag, bydd Wavehill a Winning Moves yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy’r arolwg ar-lein a’r cyfweliadau ffôn, a byddant yn gwneud y data amrwd yn ddienw, cyn ei rannu gyda Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei gynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru, ac o bosib hefyd mewn cyhoeddiadau eraill gan Lywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn hollol wirfoddol. Fodd bynnag mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu llywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y person cyswllt yn Wavehill ar gyfer yr ymchwil hwn yw Oliver Allies.

Cyfeiriad e-bost: oliver.allies@wavehill.com

Rhif ffôn: 01545 571711

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol ydyn ni’n eu cadw ac o le ydym yn cael gafael ar y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr.

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn bod Buddiolwyr sy’n darparu prosiectau a gymeradwywyd o dan Raglenni ERDF 2014-2020 yn casglu data manwl am bob menter (h.y. pob busnes sy’n cael budd uniongyrchol o gefnogaeth ERDF). Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data monitro i fonitro a gwerthuso’r cronfeydd UE yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu’r data monitro hwn i Wavehill a Winning Moves - mae’r data’n cynnwys manylion cyswllt ar gyfer y busnesau a gefnogwyd, ar ffurf enwau, cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn.

Fel rhan o’r gwerthusiad hwn, bydd Winning Moves yn gwahodd cyfranogwyr i gwblhau arolwg, naill ai ar-lein neu dros y ffôn, i ddarparu adborth a manylion ar y gefnogaeth busnes a dderbyniwyd ac ar unrhyw effeithiau cysylltiedig. Bydd cyfle i ymatebwyr gwblhau’r arolwg drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Fel rhan o’r ymchwil hwn, nid oes angen casglu data personol ychwanegol oddi wrthych chi. Mewn pob achos, mae cymryd rhan yn wirfoddol. Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan na derbyn negeseuon atgoffa, atebwch yr e-bost gwahoddiad neu rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio’r rhif ffôn a ddarparwyd, a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Bydd Wavehill a Winning Moves yn defnyddio’r cyfeiriadau e-bost a’r rhifau ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn yn unig.

Gwahoddir rhai cyfranogwyr i gwblhau arolwg ar-lein. Os na dderbynnir ateb i’r gwahoddiad i’r arolwg ar-lein, bydd Winning Moves yn anfon dau e-bost atgoffa ychwanegol. Wedi hyn, bydd y cwmni’n ffonio unigolion nad sydd wedi cwblhau’r arolwg ar-lein ac yn eu gwahodd i gwblhau’r arolwg ar ffurf cyfweliad ffôn (neu gellir ail-anfon yr arolwg ar-lein os yw hynny’n well ganddynt).

Gwahoddir rhai busnesau i gymryd rhan dros y ffôn yn unig, a gofynnir iddyn nhw gwblhau’r arolwg ar ffurf cyfweliad ffôn.

Lle cyflawnir yr arolwg drwy gyfweliad ffôn, efallai y bydd angen i Winning Moves recordio’r galwadau am resymau gweithredol. Os felly y mae, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i’r cyfweliad ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym ni os nad ydych chi’n hapus i’r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff y cyfweliadau eu recordio, caiff data personol ei ddileu yn y broses drawsgrifio. Caiff y recordiadau eu dileu cyn gynted â bod y broses hon wedi’i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu recordio, ni chaiff data personol ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn dilyn y cyfweliad.

Fel rhan o’u gweithdrefnau rheoli ansawdd, efallai bydd Winning Moves yn dymuno ail-gysylltu gyda chyfranogwyr sy’n cwblhau’r cyfweliad arolwg ffôn er mwyn cadarnhau peth o’r wybodaeth a ddarparwyd. Ar ddiwedd yr arolwg ffôn, bydd Winning Moves yn gofyn i gyfranogwyr a ydyn nhw’n hapus i Winning Moves ail-gysylltu â nhw at y diben hwn.

Os ydych yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â’ch adnabod chi o’r, na’ch cysylltu chi â’r, atebion yr ydych chi’n eu darparu. Os ydych chi’n gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen i’r swyddog perthnasol yn unig, ac yna ei ddileu o’r data ymchwil.

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, ymarfer ein hawdurdod swyddogol i gynnal cyfrifoldeb a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth fel sail gweithredu am ei allu i ddarparu blaenoriaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, efallai y defnyddir y wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hwn i:

  • Archwilio canfyddiadau o’r gefnogaeth a dderbyniwyd

  • Ymchwilio a yw’r ymyriadau a ariennir gan y Rhaglenni yn cael effaith ac i ba raddau

  • Ddatblygu argymhellion ar gyfer rhaglenni ariannu yn y dyfodol


Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Cedwir yr wybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill a Winning Moves ar weinydd diogel ar bob adeg. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect sy’n medru cael mynediad at y data. Bydd Wavehill a Winning Moves yn defnyddio’r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae Wavehill a Winning Moves wedi’u hardystio gan Cyber Essentials.

Wrth gynnal arolygon, mae Winning Moves yn defnyddio rhaglen feddalwedd cynnal arolygon o’r enw IdSurvey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cwrdd â gofynion GDPR a’n disgwyliadau ni o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd, a phrosesir yr holl ddata o fewn y AEE.

Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio gydag unrhyw sefyllfa lle amheuir bod diogelwch data wedi ei danseilio. Os amheuir bod diogelwch data wedi ei danseilio, bydd Wavehill yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle bod gofyn cyfreithiol i ni wneud hynny.


Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth a allai gael ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba hyd fyddwn ni’n cadw eich data personol?

Bydd Wavehill a Winning Moves yn cadw data personol dros gyfnod y cytundeb, a bydd unrhyw ddata personol nad sydd wedi ei ddileu yn cael ei ddileu gan Wavehill a Winning Moves 3 mis wedi diwedd y cytundeb. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o’r data i Lywodraeth Cymru - ni fydd hyn yn cynnwys gwybodaeth a allai gael ei defnyddio i’ch adnabod chi.

Hawliau unigolion

O dan GDPR y DU, mae gennych chi’r hawliau canlynol mewn cysylltiad â’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu fel rhan o’r prosiect hwn. Mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o’ch data chi;

  • I fynnu ein bod ni’n cywiro camgymeriadau yn y data hwnnw;

  • I (o dan rhai amgylchiadau) wrthwynebu i neu gyfyngu ar y prosesu;

  • I fynnu (o dan rhai amgylchiadau) bod eich data yn cael ei ‘ddileu’; ac

  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am sut caiff y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech chi arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, cysylltwch â:

Enw: Laura Bloomfield

Cyfeiriad e-bost: Laura.Bloomfield@gov.wales

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.

bottom of page