top of page
  • Wavehill

Gwerthusiad o Gyfrifon Dysgu Personol (PLA): Cyfweliadau Rhanddeiliaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o gynllun peilot a'r rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol (PLA). Prif nodau'r gwerthusiad hwn yw asesu effeithiolrwydd, effeithlonrwydd, gwerth am arian, canlyniadau, ac effaith gychwynnol cyfnodau peilot a rhaglen y cynllun PLA. Bydd hefyd yn ymchwilio i effeithiau'r cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020, a’r penderfyniadau a wnaed bryd hynny, ar y rhaglen PLA. Amcan ehangach y gwerthusiad yw rhoi gwybodaeth gadarn i Lywodraeth Cymru am weithrediad y PLA a’r gwersi a ddysgwyd ar gyfer gwella’r cynllun.

Fel rhan o'r gwerthusiad hwn bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau ar MS Teams neu dros y ffôn.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r cyfweliadau, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Oliver Allies.

E-bost: oliver.allies@wavehill.com

Rhif ffôn: 01545 571711

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei defnyddio i adnabod nhw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Rhoddwyd eich manylion cyswllt (enw a chyfeiriad e-bost) i Wavehill, gan y tîm Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn Llywodraeth Cymru sy’n cadw’ch manylion oherwydd eich ymwneud â chynllun peilot a/neu raglen PLA.

Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu unrhyw ddata personol ychwanegol gennych ac eithrio eich rhif ffôn os byddwch yn gofyn am gael cyfweliad dros y ffôn.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn mwy o e-byst atgoffa yna ymatebwch i'r e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd Wavehill yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r gwaith ymchwil, byddwn yn ceisio peidio eich adnabod o’r ymatebion y byddwch yn eu darparu, na chysylltu eich hunaniaeth â’r ymatebion hynny. Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i ddeall pa mor dda y mae’r rhaglen yn gweithio a pham, ac i helpu swyddogion LlC i wneud penderfyniadau am newidiadau posibl i’r rhaglen PLA.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Essentials'.

Mae gan Wavehill weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol, dan y gyfraith i ni wneud hynny.

Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol? Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract ac yn eu dileu dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o'r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.


Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r ymchwil hwn, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad i gopi o'ch data;

  • I ofyn i ni i gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data;

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data

  • (Mewn rai amgylchiadau) Cael eich data ei 'ddileu' a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.


Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Rhif ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113. Wefan: www.ico.org.uk


Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:


Enw: Kimberley Wigley

E-bost: kimberley.wigley@gov.wales

Rhif ffôn: 03000628788


Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.

bottom of page