top of page
  • Writer's pictureWavehill

Gwerthusiad o Llais y Goedwig: Arolwg Staff, Cyfarwyddwyr, Cyrff Cyhoeddus a Grwpiau Coetiroedd 

Mae Llais y Goedwig wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o’r prosiect Llais y Goedwig. Bydd y gwerthusiad hwn yn helpu Llais y Goedwig i ddysgu gwersi ynglŷn â pha mor effeithiol mae’r prosiect wedi gweithio, gan gynnwys nodi meysydd lle gellir gwella, a dysgu beth ellir ei gario ymlaen i’r dyfodol.

Fel rhan o’r ymchwil hwn, cynhelir cyfweliadau ac arolwg gyda’r rheiny sy’n cymryd rhan yn y prosiect, boed hynny drwy ddarparu’r prosiect neu drwy dderbyn cefnogaeth oddi wrtho.

Llais y Goedwig yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil hwn. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir yn ystod y cyfweliad, a bydd yn gwneud y trawsgrifiadau’n ddienw, cyn eu rhannu gyda Llais y Goedwig.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei gynnwys mewn adroddiad ar gyfer Llais y Goedwig unwaith y bydd yr ymchwil wedi ei gwblhau.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn hollol wirfoddol. Fodd bynnag mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu llywio gwerthusiad Llais y Goedwig o’r rhaglen hon.

Y person cyswllt yn Wavehill ar gyfer yr ymchwil hwn yw Sam Grunhut:

Cyfeiriad e-bost: sam.grunhut@Wavehill.com


HYSBYSIAD PREIFATRWYDD


Pa ddata personol a ddelir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?


Diffinnir data personol o dan Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr.

Mae gan Wavehill eich manylion cyswllt (enw, e-bost a rhif ffôn) gan fod Llais y Goedwig wedi’u darparu oherwydd eich bod wedi cymryd rhan yn y prosiect Llais y Goedwig. Dylech fod wedi clywed oddi wrth Llais y Goedwig yn gofyn ag ydych yn hapus i adael i’ch manylion gael eu pasio ymlaen at Wavehill er mwyn iddyn nhw gysylltu â chi.

Bydd Wavehill yn defnyddio eich manylion cyswllt at ddibenion y prosiect ymchwil hwn yn unig.

Does dim gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata personol ychwanegol yn ystod y cyfweliad na’r arolwg, heblaw am eich delwedd os ydych yn cytuno i ni recordio’r cyfweliad ar fideo. Rydym yn dymuno recordio cyfweliadau am resymau gweithredol – bydd hyn yn recordiad fideo, neu recordiad sain os cynhelir y cyfweliad dros y ffôn. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn y cyfweliad, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym ni os nad ydych chi’n hapus i’r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff y cyfweliad ei recordio, caiff data personol ei ddileu yn y broses drawsgrifio. Caiff y recordiadau eu dileu cyn gynted â bod y broses hon wedi’i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu recordio, ni chaiff data personol ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn dilyn y grŵp ffocws neu’r cyfweliadau.

Hoffai Wavehill gysylltu â chi i gymryd rhan yn y dyfodol er mwyn cael eich mewnbwn ar gyfer astudiaethau achos. Byddai casglu data ar gyfer yr astudiaethau achos yn golygu bod angen cyfweliad pellach, ond ni fyddai angen casglu unrhyw ddata personol ychwanegol, ac ni fyddai’r cyfweliadau hyn yn cael eu recordio. Bydd Wavehill yn gofyn ag ydych yn hapus iddyn nhw gysylltu â chi ar gyfer astudiaethau achos fel rhan o’r cyfweliad dechreuol, a dim ond os byddwch chi’n cytuno i hynny y byddan nhw’n cysylltu â chi eto.

Os ydych yn dewis darparu unrhyw ddata personol arall fel rhan o’r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â’ch adnabod chi o’r, na’ch cysylltu chi â’r, atebion yr ydych chi’n eu darparu. Os ydych chi’n gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen i’r swyddog perthnasol yn unig, ac yna ei ddileu o’r data ymchwil.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan na derbyn negeseuon atgoffa mwyach, atebwch yr e-bost gwahoddiad a ni fyddwn yn cysylltu â chi eto am yr ymchwil hwn.


Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?


Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, ymarfer ein hawdurdod swyddogol i gynnal gwerthusiad o’r prosiect Llais y Goedwig ar gyfer Llais y Goedwig.

Mae cymryd rhan yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig i Llais y Goedwig er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth fel sail gweithredu am ei allu i ddarparu blaenoriaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, efallai y defnyddir y wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hwn i wella’r ffordd mae Llais y Goedwig yn gweithredu yn y dyfodol.


Pa mor ddiogel yw eich data personol?


Cedwir y wybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill ar weinydd diogel ar bob adeg. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect sy’n medru cael mynediad at y data. Bydd Wavehill yn defnyddio’r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Mae Wavehill wedi ei ardystio gan Cyber Essentials. Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio gydag unrhyw sefyllfa lle amheuir bod diogelwch data wedi ei danseilio. Os amheuir bod diogelwch data wedi ei danseilio, bydd Wavehill yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle bod gofyn cyfreithiol i ni wneud hynny. Bydd yr holl ddata a gesglir drwy’r ymchwil hwn yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth a allai gael ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.


Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?


Bydd Wavehill yn cadw data personol dros gyfnod y cytundeb, a bydd unrhyw ddata personol nad sydd wedi ei ddileu yn ystod y broses o gasglu data yn cael ei ddileu gan Wavehill chwe mis wedi diwedd y cytundeb. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o’r data i Llais y Goedwig - ni fydd hyn yn cynnwys gwybodaeth a allai gael ei defnyddio i’ch adnabod chi.


Hawliau unigol


O dan GDPR y DU, mae gennych chi’r hawliau canlynol mewn cysylltiad â’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu fel rhan o’r ymchwil. Mae gennych yr hawl: • I gael mynediad at gopi o’ch data chi; • I fynnu ein bod ni’n cywiro camgymeriadau yn y data hwnnw; • I (o dan rhai amgylchiadau) wrthwynebu i neu gyfyngu ar y prosesu; • I fynnu (o dan rhai amgylchiadau) bod eich data yn cael ei ‘ddileu’; ac • I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745 neu 0303 123 1113, drwy’r wefan www.ico.gov.uk, neu drwy ysgrifennu at: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

bottom of page