top of page
  • Wavehill

Gwerthusiad o'r Cynllun Buddsoddi Busnes Pren -Cyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill, ymgynghoriaeth ymchwil gymdeithasol ac economaidd, i gynnal gwerthusiad terfynol o’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren (TBIS). Nod y gwerthusiad hwn yw cwblhau asesiad annibynnol o weithrediad ac effaith y cynllun, i nodi gwersi a ddysgwyd a darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau tebyg yn y dyfodol.

Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau â staff rheoli a darparu a rhanddeiliaid allweddol eraill i gael dealltwriaeth o'ch barn a'ch profiad o'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r arolwg ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw: Ioan Teifi

E-bost: ioan.teifi@wavehill.com

Rhif ffôn: 02921 202 826

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei defnyddio i'w adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi eich manylion cyswllt (enw, rôl swydd, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) i Wavehill at ddiben cynnal cyfweliadau fel rhan o werthusiad terfynol y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion cyswllt oherwydd eich cysylltiad â’r cynllun a Rhaglen Datblygu Wledig ehangach Llywodraeth Cymru-UE 2014-2020. Dim ond at ddibenion cysylltu â chi i gymryd rhan mewn cyfweliad y bydd Wavehill yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn

Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol oddi wrthych heblaw eich delwedd os ydych yn cytuno i'r cyfweliad gael ei recordio. Dymunwn recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i’r cyfweliad ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i’r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff cyfweliadau eu recordio, bydd data personol yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu ar ôl cyfweliad.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan ar unrhyw adeg neu gael nodyn atgoffa yna atebwch yr e-bost gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth.

Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio:

  • Mewn adroddiad gwerthuso sy’n asesu gweithrediad ac effeithiau’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren yng Nghymru ac a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru

  • Er mwyn llywio darpariaeth gwasanaethau neu raglenni sy'n ymwneud â'r diwydiant coed/coedwigaeth yn y dyfodol

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Essentials'.

Mae gan Wavehill weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os oes amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol i dan y gyfraith i ni wneud hynny.

Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi’i ddileu eisoes yn ystod y trawsgrifiad yn cael ei ddileu gan Wavehill 3 mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o'r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.

Eich Hawliau fel Unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o werthusiad y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • I gael ni i gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw;

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data (o dan rai amgylchiadau);

  • (Mewn rai amgylchiadau) Cael eich data ei ‘ddileu’ a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio GDPR y DU, cysylltwch â:

Enw: Jessica Steventon

E-bost: jessica.steventon@gov.wales

Rhif ffôn: 03000 250480


Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost:

DataProtectionOfficer@gov.wales.

bottom of page