top of page
  • Writer's pictureWavehill

Gwerthusiad o'r Gronfa Adfer Ddiwylliannol 2020-21:cyfweliadau â rhanddeiliaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad annibynnol o'r Gronfa Adfer Ddiwylliannol 2020-21. Bwriad y gronfa yw darparu cefnogaeth hanfodol i sefydliadau yn y sector, gan gynnwys lleoliadau cerdd, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, digwyddiadau a'u cyflenwyr cymorth technegol, a sinemâu annibynnol sydd i gyd wedi gweld colled refeniw yn ddramatig oherwydd y pandemig. Y nod yw helpu i amddiffyn sefydliadau cynaliadwy a chymaint o swyddi yn y sector diwylliant â phosibl er mwyn sicrhau bod y sector yn goroesi argyfwng Covid 19 ac yn parhau i fod yn fywiog, yn hyfyw ac yn gynaliadwy yn 2021 a thu hwnt.

Bydd y gwerthusiad yn dadansoddi effaith y cyllid ar y sefydliadau a'r unigolion a gefnogir ac yn asesu i ba raddau y cyflawnwyd nod craidd y Rhaglen, sef gwella goroesiad busnes a gwarchod swyddi. Yn ogystal, bydd y gwerthusiad yn ymchwilio a yw effeithiau ehangach, annisgwyl wedi cael eu nodi.

Fel rhan o'r gwerthusiad hwn bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth trwy gyfweliadau â rhanddeiliaid.

Llywodraeth Cymru yw rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir trwy'r cyfweliadau, ac yn ddienw'r data crai, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae eich Cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon efo Wavehill yw Andy Parkinson

Cyfeiriad e-bost: andy.parkinson@wavehill.com

Rhif ffôn: 01545 571711

DATGANIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol sydd gennym ni a ble rydyn ni'n cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir eu defnyddio i'w adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr’.

Darparwyd eich cyfeiriad e-bost i Wavehill gan naill ai Llywodraeth Cymru neu Gyngor Celfyddydau Cymru, oherwydd rôl rhanddeiliaid eich sefydliad yn y sector diwylliannol yng Nghymru. Bydd Wavehill doim ond yn defnyddio'r wyboadaeth yma i wahodd chi i gymryd rhan yn yr ymchwil.

Nid yw'r ymchwil yma angen gasglu data personol ychwanegol heblaw eich delwedd os rydych yn cytuno i gyfweliad gael ei recordio ar fideo. Efallai y bydd angen i ni recordio cyfweliadau am resymau gweithredol. Gall hyn gynnwys cipio fideo a / neu sain. Os rydym yn recordio, byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r cyfweliad ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn hapus i'r drafodaeth gael ei recordio. Os cofnodir cyfweliadau, bydd data personol yn cael ei dileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratowyd yn dilyn y cyfweliadau.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil yn wirfoddol ac os ydych dim eisiau cymryd rhan neu dim eisiau derbyn mwy o nodiadau atgoffa am yr ymchwil yna ymatebwch i'r e-bost a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yn ei ddileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sylfaen gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?

Ein sylfaen gyhoeddus ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data yma yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru ar gyfer gasglu gwybodaeth a thystiolaeth i ddeall i ba raddau maent yn gweithredu a chyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Efallai y bydd y wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, yn cael ei defnyddio i lywio'r broses o gyflenwi'r gronfa, a darparu ffynhonnell o dystiolaeth gadarn i farnu llwyddiant y gefnogaeth. Gall hefyd ddarparu tystiolaeth y gellir ei defnyddio i lywio'r broses o ddarparu unrhyw gronfeydd yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer gyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Essentials'.

Mae gan Wavehill weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os bydd amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn cyfathrebu hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'r gyfraith yn wneud e'n ofynnol i wneud hyn.

Adroddir ar yr holl ddata a gesglir trwy'r ymchwil hon mewn fformat dienw. Ni fydd y data yma yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod chi mewn atebion penagored yn cael eu dileu. Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i nodi cyfranogwyr unigol.

Pa mor hir ydyn ni'n cadw'ch data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi'i dynnu yn ystod y cam trawsgrifio o fewn dri mis ar ôl i'r contract ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn darparu fersiwn ddienw o'r data i Lywodraeth Cymru. Bydd y data yma ddim yn cynnwys gwybodaeth a allai arwain i rywun i adnabod chi.

Eich hawliau fel unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r prosiect yma, mae gennych chi'r hawl i:

  • Cyrchu copi o'ch data eich hun;

  • I ofyn i ni gywiro gwallau yn y data;

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu o'ch data;

  • (Mewn rhai amgylchiadau) Cael eich data eu ‘ddileu’ ; a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk.

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n dymuno arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Enw: Tom Stevenson

Cyfeiriad e-bost: tom.stevenson2@gov.wales

Rhif ffôn: 0300 062 2570

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru trwy:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost:

bottom of page