top of page
  • Wavehill

Gwerthusiad o raglen Cymru'n Gweithio - arolwg ar-lein a thros y ffôn gyda chwsmeriaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o’r rhaglen Cymru’n Gweithio. Nod y gwerthusiad hwn yw asesu pa mor effeithiol y mae Cymru’n Gweithio’n cael ei chyflwyno i’r cynulleidfaoedd targed, darparu gwersi i lywio darpariaeth yn y dyfodol a gwerthuso’r effaith y mae Cymru’n Gweithio wedi’i chael ar gyfranogwyr o ran cyflogaeth, caffael a datblygu sgiliau, a lles.


Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth trwy arolwg gyda chwsmeriaid.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r arolwg, ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.


Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.


Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn yn Wavehill yw Endaf Griffiths

Rhif Ffôn: 0330 1228658

Hysbysiad Preifatrwydd

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.


Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw eich manylion cyswllt. Mae Wavehill wedi derbyn eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost a/neu rif ffôn) gan Gyrfa Cymru. Mae Gyrfa Cymru yn cadw eich gwybodaeth fel defnyddiwr rhaglen Cymru'n Gweithio. Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd Wavehill yn defnyddio eich manylion cyswllt.


Bydd sut y byddwch yn cymryd rhan yn yr ymchwil yn dibynnu ar y manylion cyswllt sydd gan Gyrfa Cymru ar gael i chi:


  • Os oes cyfeiriad e-bost ar gael: byddwch wedi cael gwahoddiad drwy e-bost i gwblhau'r arolwg drwy ddolen. Nid yw cwblhau'r arolwg yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP ac, o ganlyniad, mae eich ymatebion yn ddienw.

  • ·Os nad oes cyfeiriad e-bost ar gael: byddwch wedi cael gwahoddiad dros y ffôn i gwblhau'r arolwg drwy gyfweliad ffôn. Nid yw Wavehill yn cofnodi'ch enw na'ch manylion cyswllt fel rhan o'ch ymateb i'r arolwg.


Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan yna rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost neu'r rhif ffôn a ddarparwyd a bydd eich manylion yn cael eu dileu.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r ymchwil yna byddwn yn ceisio peidio â’ch adnabod o’r ymatebion a roddwch, na chysylltu eich hunaniaeth â nhw. Dim ond i Wavehill y mae canlyniadau'r arolwg llawn ar gael.


Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o ddata'r ymchwil.


Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.


Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir ei gweithredu am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwyd yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i:


  • Deall y theori y tu ôl i raglen Cymru'n Gweithio.

  • Asesu perfformiad ac effaith y gwasanaeth.

  • Datblygu argymhellion i wella darpariaeth Cymru'n Gweithio a rhaglenni cyflogadwyedd eraill.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Wavehill yn defnyddio'r data hwn. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Essentials'.


Wrth gynnal arolygon, mae Wavehill yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Qualtrics. Rydym wedi sicrhau bod Qualtrics yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy’r feddalwedd.


Mae gan Wavehill weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o doriad diogelwch data. Os oes amheuaeth o doriad, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol o dan y gyfraith i ni wneud hynny.


Bydd Wavehill yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.


Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw wedi’i ddileu eisoes yn cael ei ddileu gan Wavehill o fewn tri mis i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.


Bydd Wavehill yn darparu fersiwn dienw o’r data i Lywodraeth Cymru na fydd yn cynnwys gwybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.


Eich Hawliau

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r gwerthusiad hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:


  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;

  • I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;

  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau);

  • Cael eich data ei 'ddileu' (o dan rai amgylchiadau); a

  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.


Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Rhif Ffôn: 0303 123 1113. Wefan: www.ico.org.uk


Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:


Enw: Sean Homer

Cyfeiriad e-bost:Sean.Homer001@gov.wales

Rhif Ffôn: 0300 025 4045


Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,


Int. Ref 446-19

bottom of page