Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o raglen Cymru'n Gweithio.
Nod y gwerthusiad hwn yw asesu pa mor effeithiol y mae rhaglen Cymru'n Gweithio yn cael ei chyflwyno i'r cynulleidfaoedd targed, darparu gwersi i lywio darpariaeth yn y dyfodol a gwerthuso'r effaith y mae Cymru’n Gweithio wedi'i chael ar gyfranogwyr o ran cyflogaeth, caffael a datblygu sgiliau, a llesiant. Un elfen o'r gwerthusiad yw asesu effaith COVID-19 ar gyflawni rhaglen Cymru'n Gweithio.
Fel rhan o'r ymchwil ar effaith COVID-19, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar-lein a chyfweliadau ymchwil.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolwg a chyfweliadau, ac yn tynnu enwau o'r data amrwd, cyn eu rhannu â Llywodraeth Cymru.
Bydd yr wybodaeth a fydd yn cael ei chasglu yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac mewn cyhoeddiadau eraill o bosibl gan Wavehill a Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Er hynny, mae eich barn a'ch profiadau'n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.
Yr unigolyn cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Wavehill yw Endaf Griffiths.
Cyfeiriad e-bost: endaf.griffiths@wavehill.com
Rhif ffôn: 01545 571711
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble y daw'r wybodaeth hon?
Caiff data personol eu diffinio dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod’.
Mae dolen i arolwg ar-lein a ddyfeisiwyd gan Wavehill yn cael ei dosbarthu i staff rheoli a staff rheng flaen Cymru'n Gweithio gan Reolwr Rhaglen Cymru'n Gweithio. Anfonir y ddolen hon drwy e-bost.
Gall Rheolwr Rhaglen Cymru’n Gweithio anfon negeseuon e-bost atgoffa tra bo'r arolwg yn dal yn fyw. Ar ddiwedd yr arolwg, gwahoddir cyfranogwyr i gymryd rhan mewn cyfweliad dilynol gyda Wavehill a gofynnir i chi ddarparu eich manylion cyswllt os ydych yn fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad. Dim ond i drefnu amser a dyddiad addas ar gyfer cyfweliad ffôn neu fideo y bydd Wavehill yn defnyddio eich gwybodaeth gyswllt.
Mae Wavehill wedi derbyn manylion cyswllt staff rheoli Cymru'n Gweithio gan Reolwr Rhaglen Cymru'n Gweithio (enw, cyfeiriad e-bost gwaith a rhif ffôn swyddfa). Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth gyswllt hon i wahodd staff rheoli Cymru’n Gweithio i gymryd rhan mewn cyfweliadau ymchwil dros y ffôn neu fideo. Gwahoddir pob rheolwr i gymryd rhan mewn cyfweliadau i sicrhau bod barn staff uwch yn bwydo i mewn i'r ymchwil.
Ym mhob achos, byddwch yn cymryd rhan yn gwbl wirfoddol ac os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu gael nodiadau atgoffa, atebwch y gwahoddiad ar e-bost neu ffoniwch ni ar y rhif ffôn a roddwyd, a byddwn yn dileu eich manylion. Bydd Wavehill ond yn defnyddio cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn at ddibenion y gwerthusiad hwn.
Nid yw'r arolwg na’r cyfweliad yn ei gwneud yn ofynnol ichi ddarparu unrhyw ddata personol ychwanegol, ac eithrio eich llun os ydych yn cytuno i gyfweliad fideo. Os byddwch yn dewis darparu data personol fel rhan o'r ymchwil byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, na’ch cysylltu chi â'r ymatebion hynny. Os bydd gennych ymholiad neu gŵyn, ac os byddwch yn darparu data personol gan ofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais hwnnw cyn ei ddileu o'r data ymchwil.
Mae data personol yn ddienw yn ystod y cam dadansoddi. Mae hyn yn golygu dileu data personol (enw, manylion cyswllt, ac ati.) o'r data, a’u disodli gyda chyfeirnod unigryw dienw ar gyfer pob cyfranogwr. Adolygir unrhyw ddata ansoddol i sicrhau nad yw'n cynnwys unrhyw ddata personol fel rhan o'r adolygiad cychwynnol o'r data (h.y. ar yr un pryd ag y caiff enwau, manylion cyswllt ac ati eu dileu).
Rydym yn dymuno recordio cyfweliadau at ddibenion gweithredol. Byddwn yn egluro hyn wrthych cyn i'r cyfweliad ddechrau, a bydd gennych chi'r cyfle i ddweud wrthym os nad ydych chi'n fodlon i'r drafodaeth gael ei recordio. Os bydd cyfweliadau'n cael eu recordio, caiff data personol eu dileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd y deunydd sydd wedi ei recordio yn cael ei ddileu cyn gynted â bod y broses wedi ei chwblhau. Os na fydd trafodaethau'n cael eu recordio, ni chaiff data personol eu cynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig sy'n cael eu paratoi yn dilyn y cyfweliadau.
Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth fel rhan o'r ymarfer casglu data hwn yw ein gorchwyl cyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn y prosiect hwn, er enghraifft, ar gyfer:
Deall effaith COVID-19 ar raglen Cymru'n Gweithio
Asesu perfformiad ac effaith y gwasanaeth yn ystod y pandemig
Datblygu argymhellion i wella'r modd y caiff Cymru’n Gweithio a rhaglenni cyflogadwyedd eraill eu darparu
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Bydd gwybodaeth bersonol a roddir i Wavehill yn cael ei chadw ar weinydd diogel bob amser. Dim ond nifer gyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn gallu gweld y data. Bydd Wavehill yn defnyddio’r data at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gan Wavehill ardystiad cyber essentials.
Mae Wavehill yn defnyddio rhaglen feddalwedd o’r enw Qualtrics, sy’n cydymffurfio â GDPR ac yn bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd (e.e. mae’r data’n cael eu prosesu o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd).
Mae gan Wavehill weithdrefnau ar waith i fynd i'r afael ag achosion lle ceir amheuaeth o dorri rheolau diogelu data. Os ceir amheuaeth bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Wavehill yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Adroddir ar yr holl ddata a gesglir drwy'r gwaith ymchwil hwn mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth mewn atebion penagored a allai arwain at adnabod person yn cael ei dileu. Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwnnw’n cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn sydd wedi cymryd rhan.
Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?
Bydd Wavehill yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi cael ei dynnu yn cael ei ddileu gan Wavehill dri mis wedi i'r contract ddod i ben. Mae hynny'n cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn rhoi fersiwn anhysbys o'r data i Lywodraeth Cymru, sef data na fydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellir eich adnabod ohoni.
Hawliau unigolion
Dan y GDPR mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r [prosiect] hwn:
Hawl i gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
I'w gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw;
Gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu (o dan amgylchiadau penodol);
Mynnu bod eich data'n cael eu dileu (o dan amgylchiadau penodol); a
Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Enw: Hannah Smith
Cyfeiriad e-bost: Hannah.Smith002@llyw.cymru
Rhif ffôn: 03000622308
Dyma'r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.
Kommentare