top of page
  • Wavehill

Gwerthusiad o Twf Swyddi Cymru + : Cyfweliadau Cwmpasu

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad o raglen Twf Swyddi Cymru +. Nod y gwerthusiad hwn yw rhoi gwybodaeth amserol a chadarn i Lywodraeth Cymru ar y broses a’r nifer sydd wedi manteisio ar y rhaglen ym mlynyddoedd 1 a 2.

Fel rhan o gyfnod cwmpasu y gwerthusiad, bydd Wavehill yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau ar fideo (MS Teams) a dros y ffôn gydag ystod o unigolion a sefydliadau sy’n rhan o’r gwaith o reoli a chyflawni’r rhaglen. Diben y cyfweliadau yw sicrhau bod y tîm gwerthuso yn deall yn glir sut mae’r rhaglen yn gweithredu. Hoffent hefyd siarad ag unigolion allweddol am sut bydd y gwerthusiad yn cael ei gynnal. Mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â chi yn nes ymlaen am gymryd rhan mewn gweithdy a chyfweliadau ymchwil. Byddwch yn cael hysbysiad preifatrwydd ar wahân ar gyfer y rheini.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Wavehill yn dileu data personol a ddarperir drwy’r cyfweliadau, ac yn tynnu enwau o’r data crai, cyn rhannu gyda Llywodraeth Cymru.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Er hynny, mae eich barn a'ch profiadau'n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Yr enw cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Wavehill yw Endaf Griffiths.

E-bost: endaf.griffiths@wavehill.com

Ffôn: 01545 571711

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Pa ddata personol a ddelir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddyfais adnabod’.

Darparwyd eich manylion cyswllt (enw a chyfeiriad e-bost) i Wavehill gan dîm Twf Swyddi Cymru + yn Llywodraeth Cymru, sy'n dal eich manylion oherwydd eich bod wedi cymryd rhan yn rhaglen Twf Swyddi Cymru +.

Nid yw’r ymchwil yn gofyn am gasglu gwybodaeth bersonol ychwanegol gennych oni bai am eich rhif ffôn os byddwch yn gofyn i’r cyfweliad gael ei gynnal dros y ffôn neu ddelwedd ohonoch os ydych yn cymryd rhan mewn cyfweliad fideo, a’ch bod yn cytuno i’r cyfweliad gael ei recordio.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol ac os nad ydych am gymryd rhan neu gael negeseuon atgoffa yna ymatebwch i e-bost y gwahoddiad a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion y gwerthusiad hwn y bydd Wavehill yn defnyddio cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn.

Rydym yn dymuno recordio cyfweliadau a gynhelir dros y ffôn ac ar fideo at ddibenion gweithredol. Byddwn yn egluro hyn wrthych cyn i'r cyfweliad ddechrau, a bydd gennych chi'r cyfle i ddweud wrthym os nad ydych chi'n fodlon i'r drafodaeth gael ei recordio. Os bydd cyfweliadau'n cael eu recordio, caiff data personol eu dileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd y deunydd sydd wedi ei recordio yn cael ei ddileu cyn gynted â bod y broses wedi ei chwblhau. Os na fydd y trafodaethau’n cael eu recordio, ni fydd data personol yn cael eu cynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig a baratoir yn ystod neu yn dilyn y cyfweliadau.

I fod yn glir, amcan y cyfweliad cwmpasu yw cynorthwyo cyfnod dylunio a chynllunio'r gwerthusiad. Hoffai'r tîm gwerthuso siarad â rhanddeiliaid allweddol eto yn nes ymlaen i ofyn cwestiynau am weithrediad a chyflawniadau'r rhaglen. Fodd bynnag, ni fydd y cyfweliadau dilynol hynny am nifer o fisoedd gyda'r ymchwil ar gyfer cyfnod dros dro'r gwerthusiad yn cael ei wneud yn ail hanner 2023 ac ar gyfer cyfnod olaf y gwerthusiad yn ail hanner 2024. Byddwch yn derbyn hysbysiad preifatrwydd ar wahân os gwahoddir chi i gymryd rhan mewn unrhyw gamau diweddarach o'r gwerthusiad.

Os bydd gennych ymholiad neu gŵyn, ac os byddwch yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais hwnnw cyn ei ddileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth fel rhan o'r ymarfer casglu data hwn yw er mwyn cyflawni ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Gallai'r wybodaeth a gesglir yn y gwaith ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i alluogi Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch y rhaglen.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?​

Mae gwybodaeth a ddarperir i Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn sydd â mynediad at y data. Bydd Wavehill ond yn defnyddio’r data at ddibenion ymchwil. Mae gan Wavehill ardystiad 'Cyber Essentials'.

Mae gan Wavehill weithdrefnau ar ymdrin ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data. Os amheuir bod rheolau diogelwch data wedi cael eu torri, bydd Wavehill yn hysbysu Llywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo gofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny.

Bydd Wavehill yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwnnw’n cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn sydd wedi cymryd rhan.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd Wavehill yn cadw data bersonol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad ydynt eisoes wedi eu dileu yn ystod y broses drawsgrifio yn cael eu dileu gan Wavehill dri mis wedi i’r contract ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd Wavehill yn rhoi fersiwn ddienw o’r data i Lywodraeth Cymru, heb unrhyw wybodaeth a allai arwain at eich adnabod.

Hawliau unigol

O dan y Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r ymchwil hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawl i:

  • Gael gweld copi o'ch data eich hun

  • Ei gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny

  • Gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu (o dan amgylchiadau penodol)

  • Mynnu bod eich data'n cael eu dileu (o dan amgylchiadau penodol)

  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Enw: Kimberley Wigley

Cyfeiriad e-bost: kimberley.wigley@llyw.cymru

Rhif ffôn: 03000 628788

Dyma'r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru.

bottom of page